Llywodraeth Cymru a Cwmpas yn Lansio ‘Prosiect Robert Owen’ arloesol i ysbrydoli dysgwyr ifanc ledled Cymru

16 Mai 2024

Mae Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth ag Cwmpas, asiantaeth datblygu gydweithredol, yn lansio Prosiect Robert Owen ar 14 Mai, sef Diwrnod Robert Owen.

Bydd yr adnoddau addysgol yn gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o fentrau cydweithredol a busnesau cymdeithasol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru. Mae’r adnoddau’n cysylltu ag un o sylfaenwyr y mudiad sy’n adnabyddus ledled y byd, Robert Owen, o Gymru.

Bydd y fenter arloesol hon yn cefnogi ‘Gyrfaoedd a Phrofiad Cysylltiedig â Gwaith’, elfen drawsgwricwlaidd o’r Cwricwlwm i Gymru, ac yn helpu dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau menter.

Bydd Prosiect Robert Owen ar gael ar Hwb, llwyfan addysg Llywodraeth Cymru, ac felly’n agored i holl ysgolion a dysgwyr Cymru. Gellir defnyddio’r adnoddau i helpu plant i ddeall sut y gall cwmnïau cydweithredol a busnesau cymdeithasol gefnogi’r economi a’u cymuned leol, drwy themâu fel llesiant a’r amgylchedd.

Y nod? Cael dysgwyr ifanc i feddwl am werthoedd cydweithredol a sut y gallent chwarae rhan mewn busnes cymdeithasol.

Wedi’i enwi ar ôl y diwygiwr cymdeithasol o Gymru, Robert Owen, y gosododd ei syniadau a’i eiriolaeth dros hawliau gweithwyr y sylfaen ar gyfer y mudiad cydweithredol, bydd Prosiect Robert Owen yn cyflwyno cwmnïau cydweithredol a busnesau cymdeithasol fel model busnes hyfyw ac effeithiol, gan herio’r syniad bod dim ond gwneud elw yw llwyddiant.

Gwahoddwyd athrawon a myfyrwyr i helpu Cwmpas i ddatblygu deunyddiau ar gyfer y prosiect ac i gysylltu â busnesau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol lleol.

Mynegodd Ceri Metcalf Day, athrawes yn Ysgol Gyfun Penyrheol, frwdfrydedd dros fod yn rhan o’r gwaith o ddatblygu deunyddiau ar gyfer Prosiect Robert Owen, gan ddweud,

Mae’r disgyblion o Ysgol Gyfun Penyrheol a gymerodd ran mewn paratoi a ffilmio cyfweliadau gyda busnes Cydweithredol Cymunedol wedi cael profiad gwych gyda Cwmpas. Fe wnaethant ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu, yn ysgrifenedig ac ar lafar, ac i sicrhau bod y gynulleidfa’n cael ei hystyried. Dysgon nhw lawer am wahanol fathau o fusnesau a sut y gallwn roi rhywbeth yn ôl i’n cymunedau yng Nghymru. Roedd dysgu am Robert Owen yn ysbrydoledig ac maen nhw eisoes yn meddwl am syniadau ar sut i gefnogi’r gymuned leol trwy fusnes, ac mae wedi agor syniadau newydd ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol.”

Canfu’r Adroddiad ar yr Economi Gydweithredol gan Co-operatives UK, cymdeithas fasnach genedlaethol a rhwydwaith sy’n hyrwyddo a chefnogi busnesau cydweithredol, fod busnesau cydweithredol yn ail-fuddsoddi mewn cymunedau lleol drwy greu swyddi, cymorth i gyflenwyr a chynhyrchwyr lleol, ac ariannu mentrau a phrosiectau cymunedol.

Ymhellach, mae The Plunkett Society, sefydliad sy’n cefnogi datblygiad busnesau sy’n eiddo i’r gymuned mewn ardaloedd gwledig, yn pwysleisio bod mentrau cydweithredol yn chwarae rhan hanfodol wrth fynd i’r afael ag anghenion lleol a chryfhau cydnerthedd cymunedol, gan amlygu sut mae cwmnïau cydweithredol yn rhoi rheolaeth dros wasanaethau hanfodol, fel siopau groser, tafarndai, neu ddarparwyr ynni, i bobl leol.

Dywedodd datblygwr y prosiect gyda Cwmpas, Elizabeth Hudson, “Rydym wrth ein bodd yn cychwyn ar y daith drawsnewidiol hon ac yn ddiolchgar i’r holl sefydliadau sydd wedi cyfrannu at ei datblygiad. Rydym yn awyddus i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o fyfyrwyr ledled Cymru, gan eu hannog i ddysgu am y modelau busnes cydweithredol a chymdeithasol a sut y gallent gyfrannu at ddyfodol mwy teg a chynaliadwy. Mae hyn yn cefnogi ein gweledigaeth o feithrin cydweithio, a grymuso meddyliau ifanc i lunio dyfodol disglair.”

Dywedodd Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: “Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru a Cwmpas, drwy gydweithio, gyda chymorth athrawon a dysgwyr, wedi creu prosiect Robert Owen. Mae hon yn ffordd wych i blant a phobl ifanc ddysgu am werthoedd cwmnïau cydweithredol a busnesau cymdeithasol a’r effaith gadarnhaol y gall y rhain ei chael ar eu cymunedau.”

Bydd y gwaith yma yn cefnogi ysgolion sy’n rhoi ‘Gyrfaoedd a Phrofiadau Cysylltiedig â Gwaith’ ar waith yn y Cwricwlwm i Gymru – gan helpu plant a phobl ifanc i feithrin eu gwybodaeth am yr amrywiaeth o opsiynau sydd ar gael iddynt. Mae dysgu am gyfleoedd gyrfa yn hanfodol i gefnogi dysgwyr i wneud dewisiadau gwybodus am eu gyrfaoedd yn y dyfodol.”