Mae Arweinwyr Cymdeithasol Cymru yn lansio cyfle datblygu arweinyddiaeth wedi’i ariannu’n llawn ar gyfer 30 o arweinwyr cymdeithasol sy’n byw neu’n gweithio o fewn ardaloedd budd Cronfeydd Cymunedol Fferm Wynt Gwynt y Môr a Gwastadeddau’r Rhyl.
Mae Arweinwyr Cymdeithasol Cymru yn bartneriaeth rhwng Cwmpas, Clore Social Leadership, a’r Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA/CGGC), a bydd rhaglen Arweinwyr Cymunedol rhad ac am ddim y Rhyl yn digwydd rhwng mis Chwefror a mis Mehefin 2026, gan gynnig sesiynau wyneb yn wyneb ac ar-lein.
Bydd y rhaglen hon yn helpu arweinwyr i wella lles a gwydnwch, ehangu eu sgiliau, meithrin cydlynant cymunedol, ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o fewn y sector cymdeithasol yng Nghymru.
Wedi’i wneud yn bosib diolch i gyllid gan Gronfeydd Cymunedol Fferm Wynt Gwynt y Môr a Gwastadeddau’r Rhyl, a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae rhaglen Arweinwyr Cymunedol y Rhyl yn anelu at gael gwared ar rwystrau ariannol, gan gynnig mynediad i unigolion ym mhob cam o’u taith arweinyddiaeth at hyfforddiant a chyfleoedd arweinyddiaeth o ansawdd uchel. Bydd y rhaglen hon yn helpu cyfranogwyr i adeiladu rhwydweithiau cryf ac amrywiol i fynd â’u gwaith i’r lefel nesaf.
Mae’r rhaglen yn y Rhyl yn adeiladu ar lwyddiant y rhaglenni Arweinwyr Cymunedol a gynhaliwyd yng Nghasnewydd, Wrecsam ac Abertawe dros y flwyddyn ddiwethaf, lle mae cyfranogwyr wedi canmol y cyfleoedd i ddatblygu arweinyddiaeth a rhwydweithio o fewn amgylchedd cefnogol a grymuso. Roedd yr amser a’r lle i fyfyrio a chanolbwyntio ar lesiant yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr.
Dywedodd Siobhan Hayward, Rheolwr Prosiect, Arweinwyr Cymdeithasol Cymru Cwmpas:
“Rydym yn gyffrous i lansio’r rhaglen Arweinwyr Cymunedol newydd hon yn y Rhyl ar gyfer arweinwyr cymdeithasol sy’n byw/gweithio o fewn ardaloedd budd Cronfeydd Cymunedol Fferm Wynt Gwynt y Môr a Gwastadeddau’r Rhyl. Gweledigaeth Arweinwyr Cymdeithasol Cymru yw cefnogi arweinwyr cymdeithasol yng Nghymru trwy ddarparu ystod o gyfleoedd dysgu a rhwydweithio i helpu i adeiladu ar eu sgiliau presennol a chryfhau eu rhwydweithiau, a fydd yn ei dro yn cael effaith gadarnhaol o fewn eu sefydliadau a’u cymunedau eu hunain. Credwn, trwy fuddsoddi mewn datblygu arweinyddiaeth, nad yn unig yr ydym yn llunio’r presennol ond hefyd yn gweithio tuag at ddyfodol cynaliadwy i’n cymunedau.”
Mae’r cyfnod ymgeisio bellach ar agor ar gyfer Rhaglen Arweinwyr Cymunedol yn y Rhyl.
Cliciwch yma am rhagor o wybodaeth.
Ein partneriaid:

Ein cyllidwyr:

Cronfeydd Cymunedol Gwynt y Môr a Gwastadeddau’r Rhyl – Ardaloedd sy’n Elwa (yn cynnwys yr holl ardaloedd sydd wedi’u lliwio):
