Blog: Asedau Cymunedol a Dyfodol Tai dan Arweiniad y Gymuned: beth ddysgom ni o’n sesiwn gyda’r Gweinidog Newid Hinsawdd?

1 Rhagfyr 2022

Yr wythnos hon ymunodd Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd, â thîm Cymunedau’n Creu Cartrefi gyda chynulleidfa fawr i drafod datblygiadau diweddar yn yr ymgyrch hir dymor i wella mynediad cymunedol i asedau. Mae Cwmpas wedi galw am newidiadau gan Lywodraeth Cymru er mwyn datgloi tir ac adeiladau, gyda ffocws penodol ar alluogi tai dan arweiniad y gymuned.

Roedd cyflwyniad agoriadol y Gweinidog yn drosolwg o ymateb diweddar Lywodraeth Cymru i ymchwiliad Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai’r Senedd ar Asedau Cymunedol. Wedyn, clywsom gwestiynau gan banel o gynrychiolwyr o Cwmpas, y Sefydliad Materion Cymreig a Phartneriaeth Ogwen, a roddodd gyfle i ni fanylu ymhellach. Dyma rai o’r pwyntiau allweddol a ddysgom ni.

Ddysgom ni fwy am y comisiwn asedau cymunedol rydym wedi galw amdano.

Cytunodd y Gweinidog ag argymhelliad a wnaethom ym mis Chwefror i ddatblygu comisiwn i ysgogi meddwl arloesol ar berchnogaeth gymunedol ar dir ac asedau yng Nghymru. Disgrifiodd y Gweinidog ei ffordd o feddwl, gan fwriadu i’r comisiwn hwn gael ei fodelu ar y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd, a oedd yn cynnwys cyfraniad arbenigol gan randdeiliaid ac a ddarparodd adroddiad cyntaf cyflym, yn nodi’r hyn sydd ei angen i fynd i’r afael ag anghenion uniongyrchol, cyn rhoi cyfarwyddyd i Lywodraeth Cymru am sut i fynd i’r afael â phroblemau hirdymor. Gofynnodd y Gweinidog i Cwmpas fod yn rhan o’r ymgysylltu â rhanddeiliaid a byddwn yn sicrhau bod tai dan arweiniad y gymuned yn cael eu hystyried.

Nid oes lle o gwbl yn rhaglen ddeddfwriaethol y llywodraeth bresennol ar gyfer deddfwriaeth grymuso cymunedol.

Darparodd y Gweinidog gadarnhad bod, hyd yn oed os bydd y Comisiwn yn gwneud cynnydd o ran deall yn well beth sydd ei angen ar gymunedau Cymru, ac er gwaethaf galwadau gennym ni ac eraill, yn syml iawn, nid oedd unrhyw gapasiti i ddeddfu ar gyfer grymuso cymunedau yn y tymor hwn o lywodraeth. Anogodd y Gweinidog bob un ohonom i barhau i lobïo ar y mater a sicrhau ei fod mewn maniffestos cynifer o bleidiau â phosibl cyn yr etholiad nesaf. Siaradodd yn frwd hefyd am wneud beth a allwn yn y cyd-destun deddfwriaethol presennol, gan nodi ei bod yn hapus i drafod sut rydym yn gallu cael gwared o rhwystrau i ffrydiau ariannu presennol, er enghraifft, yn ogystal â siarad am gapasiti cymunedol (dysgu o’r Cynllun Peilot Ail Gartrefi i sicrhau bod y llywodraeth yn ddarparu cymorth arbenigol i gymunedau, nid dibynnu ar wirfoddolwyr). Nododd hefyd fod bwrdd polisïau trawsadrannol wedi’i ffurfio’n ddiweddar o fewn Llywodraeth Cymru fel tystiolaeth o symududiad i ddull sy’n canolbwyntio mwy ar y gymuned.

Mae’r drws i gyllid tai dan arweiniad y gymuned yn parhau i fod ar agor

O’r 16 argymhelliad yn yr adroddiad gan y pwyllgor y Senedd, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn neu dderbyn mewn egwyddor 15. Yr unig argymhelliad a wrthodwyd oedd sefydlu cronfa benodol i gefnogi darparu tai dan arweiniad y gymuned. Er gwaethaf y gwaharddiad hwnnw, rydym yn gweithio gyda swyddogion Llywodraeth Cymru ar lwybr at gyllid drwy ffrwd ariannu bresennol, ac rydym yn obeithiol bydd yn darparu ffynhonnell i grwpiau cymunedol yn y dyfodol. Dywedodd y Gweinidog wrthym ei bod yn rhannu’r optimistiaeth honno a rhoddodd mewnwelediad i’r feddwl ar y mater: nododd ei hymrwymiad i gronfeydd cymunedol presennol (dywedodd y bydd yn parhau i ddatblygu) a nododd ei bwriad i gynnwys adolygiad o’r cyllid presennol yng nghylch gorchwyl y comisiwn, a fydd yn rhoi cyfle i drafod y ffordd orau o ariannu tai dan arweiniad y gymuned.

Gall y digwyddiad roi optimistiaeth inni. Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd grymuso cymunedau o ddifrif a byddwn yn ceisio dylanwadu ar y camau nesaf er budd grwpiau cymunedol.

Rydych yn gallu gwylio y digwyddiad yma.