Troi golwg Insight HRC tuag at y dyfodol wedi i’w reolwyr brynu’r cwmni

12 Mai 2022

Mae rheolwyr ymgynghoriaeth arweinyddiaeth a seicoleg busnes yng Nghasnewydd wedi cwblhau ei phrynu, gyda chefnogaeth Banc Datblygu Cymru a Busnes Cymdeithasol Cymru.

Mae Insight HRC, sef ymgynghoriaeth arweinyddiaeth a seicoleg busnes, wedi cael ei phsrynu gan ei uwch dîm rheoli, a fu yn ei le ers dros ddegawd, sef Pip Gwynn, Jemma MacLean, Jessica Cooper a Laura Di Rienzo.

Mae Insight HRC, a sefydlwyd dros 25 mlynedd yn ôl, wedi tyfu o dan stiwardiaeth ei sylfaenydd, John Lazarus, a’i gydberchennog, Simon Wiltshire. Mae’r ymgynghoriaeth, sydd wedi ennill gwobrau am ei waith, yn datblygu arweinyddiaeth ac yn darparu asesiadau seicometreg, newid diwylliant a datblygiad tîm ar gyfer rhai o gwmnïau a sefydliadau sector cyhoeddus mwyaf y DU, gan gynnwys Dŵr Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a’r Fro, a Western Power. Mae gan Insight HRC dîm o 10 ymgynghorydd sy’n gweithio ar draws y DU, gyda thîm arweinyddiaeth yn gweithio o’r pencadlys newydd ym Marchnad Casnewydd, sydd wedi’i hailddatblygu.

Perchnogion newydd Insight HRC yw’r Rheolwr Gyfarwyddwr Pip Gwynn, y Rheolwr Cysylltiadau Cleientiaid, Jemma MacLean, y Rheolwr Gweinyddol, Jessica Cooper a’r Rheolwr Marchnata a Digwyddiadau, Laura Di Rienzo.

Ariannwyd y prynu’n rhannol gan Fanc Datblygu Cymru gyda benthyciad chwe ffigur gan Gronfa Busnes Cymru, ynghyd â chyngor a chymorth gan Fusnes Cymdeithasol Cymru, a gyflwynwyd gan Cwmpas, sef Canolfan Cydweithredol Cymru gynt. Bu Darwin Gray a Haines Watts yn gweithredu ar ran yr uwch dîm rheoli yn gysylltiedig â’r prynu. Cynrychiolwyd Mr Lazarus a Mr Wiltshire gan James Subbiani o Bellavia & Associates.

Meddai Pip Gwynn, Rheolwr Gyfarwyddwr Insight HRC am brynu’r cwmni: “Mae Insight HRC yn fusnes gwych, sy’n gweithio gyda rhai o’r sefydliadau gorau yn y DU. Rydym wrth ein bodd o fod wedi cwblhau prynu’r cwmni a, gyda’n cynllun busnes cadarn, ein nod yw ymestyn ein harbenigedd a chyrraedd ymhellach fyth a pharhau â gwaddol John a Simon.

“Rydym yn cynorthwyo ein cleientiaid i fod ar eu gorau, sy’n golygu sicrhau bod pobl yn cael eu gwerthfawrogi a’u grymuso, a’u bod yn wydn ac yn hyderus. Roedd yr ymagwedd hon yn golygu bod perchnogaeth gan y gweithwyr yn gweddu’n arbennig o dda pan ddechreuom ystyried cynllunio ar gyfer olyniaeth.”

Meddai Emily Jones o Fanc Datblygu Cymru: “Mae gan Pip a’r tîm gyfoeth o brofiad a hanes profedig o gyflawni ar ran eu cleientiaid. Mae ein cyllid yn golygu’u bod nhw nawr yn gallu cymryd rheolaeth dros eu tynged; buddsoddi yn y busnes a datblygu’u cleientiaid ar draws y DU o’u swyddfeydd newydd yng Nghasnewydd.”

Meddai Derek Walker, Prif Weithredwr Cwmpas, sy’n cyflwyno Busnes Cymdeithasol Cymru: “Wrth weithio gyda Pip a’i thîm, a chyda chefnogaeth Banc Datblygu Cymru, rhoddom ateb llwyddiannus ar waith o ran olyniaeth, sef prynu’r cwmni gan y rheolwyr, yn yr achos hwn.

“Mae trosglwyddo busnes i bobl sydd eisoes â budd ynddo yn fecanwaith gwych. Mae Insight HRC yn ymuno â rhestr gynyddol o fusnesau Cymreig arloesol, hyblyg a llawn cymhelliant sydd ym mherchnogaeth y gweithwyr.”

“Nid yw llawer o bobl yn sylweddoli mai bod ym mherchnogaeth y gweithwyr yw un o’r modelau busnes arloesol sy’n tyfu gyflymaf yn y DU. Mae rhai o gwmnïau mwyaf llwyddiannus y DU ym mherchnogaeth y gweithwyr, fel John Lewis, Unipart ac, yma yng Nghymru, Waffles Tregroes, BIC Innovation a Chwmni Da, ymhlith eraill. Mae’n ffordd wych o drosglwyddo cwmnïau ffyniannus i’r genhedlaeth nesaf a dyma pam rydym am annog mwy o sylfaenwyr a fydd yn ymddeol cyn hir a gweithwyr i’w ystyried yn opsiwn, yn enwedig gan fod cyllid ar gael gan y Banc Datblygu i helpu ariannu cytundebau gyda benthyciadau neu fuddsoddiadau ecwiti,” ychwanegodd Derek.

Mae gwasanaeth Perchnogaeth Gweithwyr Cymru yn rhan o raglen Busnes Cymdeithasol Cymru, a gyflwynir gan Cwmpas. Mae’n rhan o deulu Busnes Cymru ac fe’i hariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

I gael rhagor o wybodaeth am berchnogaeth gan weithwyr, ewch i: https://employeeownershipwales.co.uk/cy/.