Hyb Cymunedol Y Borth: Achubiaeth yng nghanol y gymuned
Ariennir Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig (UKSPF) gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ac mae wedi cael ei chyflwyno trwy awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr.
Mae Cwmpas wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Sir Ceredigion, yn helpu sefydliadau cymunedol i feithrin balchder bro a chynyddu cyfleoedd bywyd ar draws cymunedau Ceredigion.
Un o’r sefydliadau y mae Ymgynghorydd Busnes Cwmpas, Nick, wedi bod yn gweithio gydag efo o dan UKSPF yw Hyb Cymunedol Y Borth.
Mae’r Borth wedi’i leoli tua saith milltir i’r gogledd o Aberystwyth yng ngogledd Ceredigion, sy’n sir amrywiol yng nghanolbarth Cymru. Mae’r holl dai yng ngogledd Ceredigion yn dai nad ydynt wedi’u cysylltu â’r grid. Nid oes prif gyflenwad nwy yn yr ardal hon yng nghefn gwlad Cymru.
Mae llawer o’r trigolion yn bobl hŷn a gafodd eu geni a’u magu yng Ngheredigion. Nid oes gan rai ohonynt unrhyw deulu agos yn byw gerllaw.
Mae arwahanrwydd Gogledd Ceredigion hefyd yn golygu bod costau byw yn uchel: mae cludo tanwydd a bwyd i’r ardal yn ddrud, ac mae’r costau’n tueddu i gael eu pasio ymlaen i drigolion.
“Mae weithiau’n teimlo fel bod pobl yn anghofio amdanon ni”, meddai Helen Williams, Rheolwr Hyb Cymunedol Y Borth. “Mae’n gallu bod yn ddarlun sydd braidd yn ddigalon.”
Mae hynny nes eich bod yn mynd i’r Hyb Cymunedol.
Sefydlwyd Hyb Cymunedol Y Borth yn 2007, ac mae’n darparu amrywiaeth o weithgareddau sy’n gwella iechyd a lles plant, pobl ifanc, teuluoedd, oedolion a phobl hŷn, gyda ffocws ar y rheiny sydd fwyaf bregus a mwyaf dan anfantais yn Y Borth a’r ardaloedd cyfagos.
Mae’r caffi cymunedol yn ofod ‘talu fel y dymunwch’, sy’n agored i bawb, ni waeth faint y gallant ei dalu.
Mae’r ganolfan i deuluoedd (‘eisiau siarad â rhywun nad yw’n gwisgo clytiau?’) a gweithgareddau i bobl hŷn (‘mae mor hyfryd dod allan – dydw i ddim yn syllu ar yr un pedair wal’) yn darparu ar gyfer dwy ochr gyferbyniol y sbectrwm cymunedol, tra bod clwb ieuenctid yn cyfarfod bob wythnos, ac mae gan y dynion ‘eu sied a’u hoffer eu hunain – ac yn dod i mewn am sgwrs’.
Trwy gyllid o’r UKSPF, bu Cwmpas yn cynghori Hyb Cymunedol Y Borth ar newid o statws elusen i statws menter gymdeithasol. Bu Nick hefyd yn cefnogi trwy roi cyngor ar ddod o hyd i gyllid cynaliadwy, yn ogystal â chyngor ar adnoddau dynol a hanfodion busnes, gan greu polisïau adnoddau dynol newydd a llawlyfr staff, strategaeth cydraddoldeb ac amrywiaeth, a pholisïau yn ymwneud â’r Gymraeg, hyfforddi a datblygu staff, a gweithio’n hyblyg.
Dywedodd Helen:
“Mae’r gefnogaeth gan y UKSPF wedi bod o gymorth enfawr, yn sicrhau ein bod ni’n mynd o statws elusen i fenter gymdeithasol. Roedd wir angen cymorth arnon ni i wneud yn siŵr ein bod ni’n ymwybodol o faterion llywodraethu.
“Mae’n amhosibl bod yn arbenigwr ym mhopeth, ac mae Nick, o Cwmpas, wedi bod yn gwbl wych.”
O gynnal digwyddiadau a gweithdai i gynnig adnoddau a gwasanaethau hanfodol, dod â phobl at ei gilydd, meithrin cysylltiadau a darparu cymorth, mae’r Hyb Cymunedol yn achubiaeth i drigolion Y Borth.
Mae’r Hyb yn darparu profiad gwaith i fyfyrwyr yng Ngholeg Ceredigion, ac i ddisgyblion ysgol trwy Fagloriaeth Cymru a Chynllun Gwobr Dug Caeredin.
Roedd un o wirfoddolwyr yr Hyb wedi bod yn ddi-waith yn yr hirdymor pan ddechreuodd fynychu’r sied dynion.
Mae Helen yn sôn am y stori:
“Dechreuodd e’ wirfoddoli am ei fod e’n mwynhau cymaint. Ar ôl magu hyder trwy wirfoddoli yn yr Hyb, mae bellach wedi mynd ymlaen i gael swydd â thâl mewn safle arlwyo lleol. Mae rhoi hunan-barch a hyder i bobl yn rhan fawr o’r Hyb.
“Rydyn ni’n gweithio trwy ymyriadau cynnar ar raddfa fach. Mae cefnogaeth yn allweddol i ni – helpu pobl i deimlo’u bod yn rhan o’r gymuned. P’un a yw hyn yn golygu gwneud paneidiau o de neu gynnig clust i wrando, mae bod yn rhan o Hyb Cymunedol Y Borth yn golygu bod yng nghanol y gymuned leol.
“Y pethau bach sy’n cyfri – y gwahaniaeth mewn pobl ers iddyn nhw ddechrau dod yma. Does dim dwywaith fod pobl yn gwerthfawrogi’r Hyb.
“Beth nesaf? Byddwn ni’n parhau â’r hyn rydyn ni’n ei wneud. Rydyn ni wedi dangos bod angen, ac mae’r angen hwnnw yno o hyd.”