Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru yn dathlu gwaith amhrisiadwy Mentrau Cymdeithasol

18 Hydref 2023

Croesawodd y Senedd Wobrau Busnes Cymdeithasol Cymru eleni, gan gydnabod gwaith amhrisiadwy chwe menter gymdeithasol yng Nghymru.

Mae Busnes Cymdeithasol Cymru, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn darparu cymorth dwys i fusnesau cymdeithasol ac entrepreneuriaid cymdeithasol ledled Cymru sy’n ceisio ehangu neu greu swyddi. Darperir Busnes Cymdeithasol Cymru mewn partneriaeth gan Cwmpas, Unltd, CGGC, Banc Datblygu Cymru, a Chwmnïau Cymdeithasol Cymru. Ariennir y rhaglen gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n rhan o wasanaeth Busnes Cymru.

Mae busnesau cymdeithasol yng Nghymru yn cyfrif am 2.6% o gyfanswm y busnesau yng Nghymru, gan gyflogi dros 65,000 o weithwyr, gyda throsiant blynyddol ar gyfer y sector wedi’i gyfrifo yn £4.8bn.

Prif noddwr Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2023 yw Dŵr Cymru Welsh Water. Noddwyd y categorïau hefyd gan Legal and General, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, a The Co-Op.

Enillwyr Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru eleni yw…

Câr-y-Môr: Menter Cymdeithasol y Flwyddyn

Noddwyd gan Dŵr Cymru Welsh Water

Mae Câr-y-Môr wedi ymrwymo i gychwyn y fferm wymon a physgod cregyn masnachol gyntaf yng Nghymru, er mwyn ysgogi ac ysbrydoli eraill i ddyblygu .

Gydag ymrwymiad i gael effaith gadarnhaol ar arfordir Cymru a’r gymuned leol, gwnaeth Câr-y-Môr argraff ar ein beirniaid gyda’u dull arloesol o redeg busnes sy’n rhoi eu pobl a’u cymuned yn gyntaf.

https://www.carymor.wales/

The Bike Lock: Un i’w Wylio

Noddwyd gan Dŵr Cymru Welsh Water

Man storio beiciau annibynnol a chydweithio unigryw, sy’n gweini coffi wedi’i rostio’n lleol yng Nghaerdydd yw The Bike Lock.

Gyda chenhadaeth i adeiladu gofod sy’n annog pobl i fod yn fwy egnïol ac ymgysylltu â’u cymuned, gwnaeth The Bike Lock argraff ar y beirniaid gyda’u hangerdd a’u hegni i gefnogi teithio llesol yng Nghaerdydd a’r cyffiniau, gan alluogi cymuned iachach a hapusach.

https://www.thebikelock.co.uk/

Outside Lives: Meithrin Amrywiaeth, Cynhwysiant, Tegwch, a Chyfiawnder

Noddwyd gan The Co-op

Gyda natur yn dywysydd, mae Outside Lives wedi ymrwymo i gysylltu pobl a chymunedau, gan greu amgylchedd mwy cefnogol, hyblyg, gwydn a dyfeisgar ar gyfer pob peth byw.

https://www.outsidelivesltd.org

Eleanor Shaw, People Speak Up: Hyrwyddwyr Menywod

Eleanor yw Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Artistig a Busnes People Speak Up (PSU). Ar ôl amser yn gweithio yn y maes addysg am sawl flwyddyn, teimlai Eleanor yr alwad i wneud gwahaniaeth mwy dylanwadol. Ar ôl  gadael ei rôl arweiniol mewn Addysg Bellach, cymerodd amser i ffwrdd i deithio i ddod o hyd i iachâd a phwrpas. Daeth Eleanor o hyd i hynny trwy adrodd straeon.

https://peoplespeakup.co.uk/

With Music in Mind: Menter Cymdeithasol yn y Gymuned 

Noddwyd gan Legal and General

Mae With Music in Mind yn Gwmni Buddiannau Cymunedol dielw sy’n cynnig gwasanaeth rheolaidd i bobl hŷn yn y gymuned.

Gwnaeth y gofal ac ymroddiad dangoswyd With Music in Mind tuag at y bobl sydd angen eu gwasanaeth argraff fawr ar y beirniaid, ynglŷn â’u cynlluniau i ymestyn eu gwasanaethau i ardal ehangach, gan sicrhau bod mwy o bobl sy’n dioddef o arwahanrwydd yn cael y gefnogaeth sydd angen arnynt.

https://www.withmusicinmind.co.uk/

Creating Enterprise: Arloesiad y Flwyddyn

Noddwyd gan University of Wales Trinity St David

Mae Creu Menter, sy’n rhan o Cartrefi Conwy, yn gontractwr adeiladu a chynnal a chadw arobryn sydd wedi’i leoli yng Ngogledd Cymru.

Roedd y beirniaid wedi eu plesio gan eu cynlluniau i adeiladu cartrefi ynni-effeithlon, di-garbon, a ardystiwyd gan Beattie Passive, tra hefyd yn cyflogi’r bobl a gefnogir gan Cartrefi Conwy i adeiladu’r cartrefi arloesol hyn.

https://www.creatingenterprise.org.uk/en/home/

Meddai Glenn Bowen, Cyfarwyddwr Menter, Cwmpas: “Mae mentrau cymdeithasol sydd wedi’u gwreiddio yn eu cymunedau yn darparu cymorth, gwasanaethau a swyddi y mae mawr eu hangen.

“Mae gennym ni enghreifftiau gwych o fusnesau yn gwneud eu rhan i leihau effaith newid hinsawdd ac yn estyn allan i aelodau newydd o’r gymuned trwy eu gwaith tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant. Llongyfarchiadau i’n holl enillwyr gwych.”