Gwerth Cymdeithasol – Beth yw e’ a Sut Gallwn Ni Eich Helpu Chi i’w Ddarparu?
Dydy gwerth cymdeithasol ddim yn rhywbeth y gallwch chi fforddio ei anwybyddu bellach – os nad ydych chi’n mabwysiadu ac yn darparu gwerth cymdeithasol, mae’n debygol iawn o effeithio ar eich busnes, yn enwedig os ydych chi’n gweithio ar brosiectau sector cyhoeddus lle mae disgwyl i chi ddarparu gwerth cymdeithasol.
Mae llawer o fusnesau a sefydliadau yn gwybod bod angen iddyn nhw fabwysiadu a darparu gwerth cymdeithasol, ond mae llawer yn ansicr beth yw gwerth cymdeithasol mewn gwirionedd a beth yw ei ystyr iddyn nhw. Gadewch i ni esbonio.
Yn syml, ystyr gwerth cymdeithasol yw cynnwys gwerthoedd da a phenderfyniadau moesegol yn ein gweithrediadau busnes o ddydd i ddydd er mwyn i ni allu gwneud bywyd yn well i’r cymunedau lle rydyn ni’n gweithio ac i’r staff, y cleientiaid, y cyflenwyr a’r rhanddeiliaid rydyn ni’n ymwneud â nhw’n ddyddiol.
Rydyn ni’n gwybod bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru wedi annog sefydliadau yng Nghymru i feddwl yn wahanol am sut y maen nhw’n gweithio ac am sut y gallan nhw fod yn gyfrwng i ddod â newid cadarnhaol o fewn eu cymunedau. Ond efallai bod rhai sydd ddim yn gwybod ble i ddechrau. Gallwn ni eich helpu drwy ddarparu rhaglen hyblyg i’w defnyddio unrhyw bryd, wedi’i halinio’n agos i’r egwyddorion a geir yn y Ddeddf, er mwyn i chi allu diffinio a chyrraedd eich amcanion gwerth cymdeithasol lle bynnag ydych chi ar eich taith gwerth cymdeithasol. Felly, efallai y byddwch yn dod atom i gael cefnogaeth ar:
- Hyfforddiant a Gweithdai Gwerth Cymdeithasol
- Strategaeth Gwerth Cymdeithasol
- Caffael Gwerth Cymdeithasol
- Atebion Ymarferol i Werth Cymdeithasol
Fodd bynnag, rydyn ni’n credu y byddwch wedi mynd ymhellach ar y daith nag yr ydych yn ei sylweddoli, gan eich bod yn adnabod eich ardal ac felly rydych chi yn y lle gorau i adnabod yr anghenion pwysicaf sydd ar eich trothwy. Gall sefydliad eich tywys a’ch helpu i ddysgu beth yw ystyr gwerth cymdeithasol i chi; mae’n unigryw i bob busnes a’r modd y caiff ei ddiffinio. Mae hwn yn bwynt pwysig – dydy Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ddim yn rhywbeth y dylech chi deimlo wedi ei llethu ganddi. Dydy hyn ddim yn golygu taflu eich cynllun busnes a llunio darn cymhleth o feddwl heb orwelion. Bydd cychwyn yn fach yn eich helpu i wneud newidiadau ystyrlon – a gweld canlyniadau clir yn eich iard gefn eich hun. Er enghraifft, allech chi roi help llaw i’ch cangen leol o Ferched y Wawr i ddod yn hyddysg mewn cyfrifiadura, neu i helpu grŵp cymunedol sydd eisiau cludiant neu wirfoddolwyr? Gyda mwy o bobl yn gweithio gartref, gallech chi benderfynu, fel cwmni, i ddefnyddio’r arian sy’n cael ei arbed ar gyfleusterau swyddfa i ganiatáu i staff weithio o gaffi lleol ar rai dyddiau. Mae rhai addasiadau cymharol fach y gallech chi eu gwneud i’ch gweithrediadau fyddai’n arwain at fuddion mawr o ran gwerth cymdeithasol yn eich cymuned leol.
Drwy ddefnyddio eich gwybodaeth leol eich hun, gallwch roi’r math o gymorth sy’n cwrdd ag angen gwirioneddol, pendant yn hytrach na chaniatáu i werth cymdeithasol fod yn ymarfer ticio blychau all edrych yn nodedig ar bapur ond nad yw mewn gwirionedd yn darparu’r math o gymorth wedi’i dargedu y mae wir ei angen ar lawr gwlad yn eich cymuned. Mae’n fwy am wneud gyda’ch cymuned yn hytrach na gwneud i’r gymuned.
Mae’n iawn i beidio deall gwerth cymdeithasol yn ei holl gyflawnder – mae dim ond deall bod newidiadau bach weithiau’n gallu arwain at newid mwy yn ddigon i ddechrau arni. Nid rhyw wyrth enfawr sy’n anghyraeddadwy ac yn amhosib ei gyflawni, ond yn hytrach y pethau bach a sylfaenol y gall busnes neu sefydliad ei wneud i ganiatáu i newidiadau cynnil ddigwydd, a symud oddi wrth fesur popeth mewn ffordd gyllidol dros ben a defnyddio buddion gwirioneddol i’ch cymuned leol fel model da ar gyfer llwyddiant.
Gall ein tîm Ymgynghoriaeth Busnes eich helpu i ddod yn gyfryngau ar gyfer newid gwirioneddol, waeth pa mor fach neu fawr a waeth ble rydych chi ar eich taith gwerth cymdeithasol.
Gadewch i ni wneud bywyd yn well i bawb. Cysylltwch. Dewch i sgwrsio!
Adam Cox: adam.cox@cwmpas.coop