5 rheswm pam mai gweithio o bell yw’r dyfodol i Cwmpas

28 Tachwedd 2022

Yn ôl ym mis Mawrth 2020 wrth i’r pandemig Covid afael, roedd Cwmpas, fel llawer o sefydliadau eraill, yn y sefyllfa lle bu’n rhaid iddo newid i weithio o bell 100% dros nos yn llythrennol. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, rydym wedi penderfynu y dylai’r newid anferthol hwn gael ei fabwysiadu dros y tymor hir, gan newid yn ei hanfod y ffordd y gweithredwn.

Ledled y byd, mae busnesau’n mynd yn fwy hyblyg o ran ble a phryd y mae pobl yn gweithio. Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), yng Ngwanwyn 2022, roedd 38% o oedolion sy’n gweithio yn gweithio o gartref rywfaint o’r amser o leiaf, o gymharu â 12% yn 2019. Er y lleihawyd cyfyngiadau Covid, mae gweithio hybrid wedi cynyddu’n gyson, ac mae’r rhan fwyaf o fusnesau’r DU yn cynllunio i ddefnyddio gweithio gartref yn barhaol.

Ar gyfer Cwmpas, mae’r newid hwn wedi esgor ar lu o fuddion, a dyna pam rydym yn cau ein swyddfeydd ac yn symud yn barhaol i drefn gweithio o bell ar gyfer yr holl staff.

  1. Ôl-troed carbon llai

Fel sefydliad, rydym yn cydnabod ein cyfrifoldeb i leihau ein heffaith amgylcheddol ein hunain. Ar gyfer Cwmpas, y prif ysgogwr i weithio o bell fu’r effaith y mae wedi’i chael ar ein hôl-troed carbon a’r buddion amgylcheddol amlwg. Ers 2019, rydym wedi lleihau milltiredd busnes 87%, wedi lleihau argraffu yn y swyddfa 97%, ac wedi lleihau ein hôl-troed carbon cyfan 43%. Bydd newid yn barhaol i weithio o bell yn gweld y gwelliannau hyn yn parhau. 

  1. Ymgeiswyr amrywiol

Yn y dyddiau pan oeddem yn gweithio mewn swyddfeydd, roedd recriwtio wedi’i gyfyngu’n aml i ymgeiswyr a allai gymudo i leoliad penodol, gan gyfyngu’n sylweddol ar y gronfa dalent a oedd ar gael. Gyda gweithio o bell, gallwn recriwtio’n llythrennol o unrhyw le yng Nghymru. Gallwn hefyd recriwtio pobl sydd â chyfrifoldebau gofal neu anableddau a allai ei chael hi’n anodd cymudo i swyddfa bob dydd. Trwy gynnig y dewis i weithio o gartref, rydym yn denu cronfa fwy, a mwy amrywiol, o dalent sy’n golygu y gallwn gynrychioli’n well y cymunedau lle’r ydym yn gweithio. 

  1. Cyflogeion hapusach, mwy cynhyrchiol

Yn ôl y SYG, dywedodd dros dri-chwarter (78%) o’r rheiny a oedd yn gweithio gartref ar ryw ffurf fod gallu gweithio o gartref wedi rhoi cydbwysedd gwell rhwng bywyd a gwaith iddynt ym mis Chwefror 2022. Mae’r ffigur hwnnw wedi’i ategu gan ein staff ni’n hunain mewn cyfres o arolygon. Fel sefydliad sy’n cael ei arwain gan werthoedd, rydym yn rhoi blaenoriaeth i les staff, ac mae gweithio o bell yn ffordd wych o gefnogi hyn. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod hefyd fod angen cyswllt wyneb yn wyneb ar staff, felly rydym yn trefnu cyfarfodydd cwmni personol yn rheolaidd i wneud yn siŵr ein bod yn dal i fwynhau treulio amser gyda’n gilydd yn y gwaith. Hefyd, mae gan staff fynediad at rwydwaith Cymru gyfan o gyfleusterau gweithio wrth sawl gweithfan ar gyfer adegau pan nad ydyn nhw eisiau gweithio o gartref. 

  1. Mynediad i farchnadoedd ehangach

Mae Cwmpas yn sefydliad sy’n gweithio yng Nghymru, ac yng Nghymru y bydd ein calon o hyd. Ond mae gweithio o bell a thelathrebu wedi’i gwneud hi’n haws o lawer i gefnogi cleientiaid mewn rhannau eraill o’r DU, fel cwmnïau adeiladu yn Llundain, prifysgolion yn yr Alban ac awdurdodau lleol yn Lloegr. Rydym wedi’i gweld hi’n haws gweithio gyda phartneriaid ledled y byd, fel Cooperatives Europe ym Mrwsel. Hefyd, mae gweithio ar-lein wedi gwella hygyrchedd i’n gwasanaethau yng Nghymru. Nawr, gall pawb fynychu ein digwyddiadau ar-lein, hyfforddiant a rhwydweithiau, ni waeth beth yw eu lleoliad daearyddol, mynediad at drafnidiaeth neu ffactorau eraill.

Yn ogystal, mae defnyddio gweithfannau gwahanol mewn amryfal leoliadau wedi ein gwneud ni’n fwy gweledol a’n galluogi i feithrin perthnasoedd cydweithredol gydag amrywiaeth ehangach o bartneriaid cymunedol – rhywbeth yr oedd yn anoddach ei gyflawni pan oeddem yn swatio yn ein swyddfeydd ein hunain.

  1. Buddsoddi yn yr hyn sy’n bwysig

’Does dim dwywaith y gall gweithio hyblyg a gweithio o bell leihau gorbenion a gwneud busnes yn fwy proffidiol. Fodd bynnag, fel sefydliad nid er elw, rydym wedi ein cymell gan y ffaith y gall llai o orbenion olygu y gallwn fuddsoddi mwy mewn staff, seilwaith TG a gwella gwasanaethau ar gyfer cleientiaid. Yn hytrach na gwario arian ar rent a phapurach, gallwn flaenoriaethu ein gwariant ar bethau sy’n gwneud gwahaniaeth i’n cleientiaid a’n staff. Er enghraifft, yn hytrach na staff yn treulio oriau o’u hamser yn teithio rhwng cyfarfodydd, mae gweithio o bell yn eu rhyddhau ar gyfer gweithgareddau mwy cynhyrchiol i gefnogi cleientiaid. Hefyd, mae llai o orbenion yn ein gwneud ni’n fwy gwydn i newidiadau mewn cyllid a chostau cynyddol.

Er ein bod wedi cau ein swyddfeydd yng Nghaerffili, Abertawe a Gogledd Cymru, credwn yn gryf yn ein gallu i ddarparu gwasanaeth hyblyg, hygyrch a phersonoledig i’n cleientiaid, ble bynnag y maent. Yn yr un modd, rydym yn sicrhau bod ein cyflogeion yn hapus ac yn gynhyrchiol.

Byddwn yn parhau i chwilio am ffyrdd newydd ac arloesol o weithio fel y gall ein sefydliad adeiladu cymdeithas decach ac economi wyrddach i Gymru a ledled y DU.