Gwasg Pia – mae ein Hymddiriedolaeth Perchnogaeth gan Weithwyr yn ymgorffori popeth sydd eisoes yn bwysig i ni

4 Chwefror 2025

Mae Gwasg Pia, un o’r prif ddarparwyr fformat hygyrch annibynnol yn y Deyrnas Unedig, wedi newid o berchnogaeth breifat i berchnogaeth gan weithwyr, bron i ddeugain mlynedd ar ôl iddo gael ei sefydlu fel cwmni cydweithredol yn ôl ym 1985.

Perchnogaeth gan weithwyr yw un o’r modelau olyniaeth busnes sy’n tyfu gyflymaf yn y Deyrnas Unedig, gan hybu cydnerthedd a phroffidioldeb busnes, a sicrhau ymrwymiad y gymuned a gweithwyr.

Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i ddyblu nifer y busnesau a berchnogir gan weithwyr yng Nghymru erbyn diwedd tymor y Senedd hon – targed a gyflawnwyd ddwy flynedd yn gynnar.

Sefydlwyd Gwasg Pia fel busnes teiposod sy’n dylunio a chynhyrchu platiau argraffu. Newidiodd gyfeiriad i gyhoeddi llawlyfr braille ar gyfer rhaglen BBC Radio 4, ac yn ddiweddarach fe ddatblygodd Braille Maker, sef y brif feddalwedd cyfieithu braille yn y Deyrnas Unedig.

Bellach, mae’r perchennog, sef Sharon Williams, wedi penderfynu y bydd newid i berchnogaeth gan weithwyr yn sicrhau dyfodol y cwmni; gan ddychwelyd i’w wreiddiau yn y mudiad cydweithredol. A hithau’n 53 oed, a heb fwriad i adael y busnes, mae hi’n awyddus i sicrhau bod y newid i berchnogaeth gan weithwyr yn cael ei sefydlu’n gadarn cyn lleihau ei horiau gwaith neu feddwl am ymddeol – rhywbeth nad yw’n ei ragweld am flynyddoedd lawer i ddod.

Cefnogwyd Pia drwy gydol y broses gan dîm Perchnogaeth gan Weithwyr Cwmpas, a arweiniodd Sharon a staff Pia drwy’r strwythur newid busnes ac, yn bwysig, y newid o ran ffordd o feddwl ac ymagwedd sy’n angenrheidiol i ddod yn berchnogion-weithwyr.

Dywedodd Sharon:

“Mae perchnogaeth gan weithwyr ar gyfer Gwasg Pia fel busnes wastad wedi bod yn uchelgais hirdymor i mi, ond doeddwn i ddim eisiau gorfod gwneud y penderfyniad hwnnw a gwneud y newidiadau ar adeg argyfwng, pan roeddwn i eisiau ymddeol.

“Rwy’n credu mai dyma’r adeg iawn i ni symud i berchnogaeth gan weithwyr nawr, fel y gallaf aros yn rheolwr-gyfarwyddwr a gadael i’r model busnes newydd ymwreiddio’n iawn, gan sicrhau bod ein tîm rheoli a’n 45 o aelodau staff yn llwyr gefnogi’r strwythur newydd.

“Rydyn ni’n fusnes unigryw. Nid oes gennym lawer o gystadleuwyr yn y farchnad hon, felly byddai gwerthiant masnach wedi bod yn amhosibl bron. Sylweddolais i hynny’n gynnar. Rydym yn falch iawn o’n gwerthoedd craidd, sef arwain drwy esiampl a chyfrannu at gymdeithas, felly pe byddai cwmni argraffu arall yn ein prynu, ni allwn fod yn sicr ychwaith y byddai’r gwerthoedd hyn yn parhau.

“Mae ymddiriedolaeth gweithwyr yn ymgorffori popeth sydd eisoes yn bwysig i ni yma yng Ngwasg Pia, ac mae’n ffordd dda o ddychwelyd i wreiddiau’r busnes, a ddechreuodd fel cwmni cydweithredol yng nghanol yr wythdegau. Dyma’r ateb perffaith i bawb.

“Mae’r Ymddiriedolaeth Perchnogaeth gan Weithwyr yn fodel busnes blaengar i ni i gyd, yn hytrach na chynllun ymadael i mi yn bersonol.

“Hoffwn ddiolch i Cwmpas am yr holl gymorth â’r newid hefyd, o ddechrau’r broses i’w chwblhau – bu’n ddi-dor.”

Dywedodd Branwen Ellis, Ymgynghorydd Perchnogaeth gan Weithwyr arbenigol ar gyfer Cwmpas, a weithiodd ar y newid gyda thîm Pia:

“Mae’n wych gweld Pia yn dychwelyd i’w wreiddiau cydweithredol, gan sicrhau bod ethos a gwerthoedd y busnes yn cael eu gwarchod ar gyfer y dyfodol. Mae Pia yn fusnes unigryw iawn, felly roedd newid i fod ym mherchnogaeth gweithwyr yn gynllun olyniaeth perffaith iddo.”

Wrth sôn am newid i Berchnogaeth gan Weithwyr, dywedodd un o weithwyr Gwasg Pia, y trawsgrifiwr braille Craig Morgan:

“Mae’n wych bod Pia bellach ym mherchnogaeth gweithwyr. Mae hyn yn golygu ein bod ni i gyd yn cael elwa ohono ac yn gallu teimlo ein bod ni wir yn rhan o rywbeth arbennig. Gan fod pawb yn tynnu i’r un cyfeiriad, gallwn rannu’r llwyddiant a lleisio ein barn am sut mae pethau’n cael eu gwneud. Mae’r newid hwn yn wych i’n dyfodol ac yn gwneud Pia yn lle gwell fyth i weithio. Dyma edrych ymlaen at ddyfodol disglair a chyffrous i ni i gyd.”

Rhoddodd Darwin Gray gyngor cyfreithiol i Wasg Pia ar newid i Ymddiriedolaeth Perchnogaeth gan Weithwyr.

Yn ystod y Diwrnod Perchnogaeth gan Weithwyr ym mis Mehefin y llynedd, dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg bryd hynny:

“Mae perchnogaeth gan weithwyr yn arwain at nifer o fuddion i weithwyr a busnesau fel ei gilydd, ac mae tystiolaeth yn dangos bod busnesau a berchnogir gan weithwyr yn fwy cynhyrchiol a chydnerth. Mae’r lleoedd hyn wedi’u gwreiddio yn eu cymunedau, gan ddarparu swyddi hirdymor o ansawdd da i’r ardal leol.”

Dysgwch fwy am dîm Perchnogaeth gan Weithwyr Cwmpas yma.