Gofal a arweinir gan y gymuned: Datrys problemau gofal cymdeithasol

12 Hydref 2022

Lansio ‘Gofal Preseli’ – datrys problemau gofal yng ngogledd-ddwyrain Sir Benfro

 

Mae pawb yn cydnabod her gofal cymdeithasol. Gyda newidiadau demograffig a chyfnod o ansicrwydd economaidd, mae’n ymddangos bod mwy o broblemau nag atebion. Mae Cwmpas, ein hasiantaeth ddatblygu ar gyfer newid cymdeithasol ac economaidd positif, yn cael ei chyllido gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i weithio gyda dau bartner cymunedol i gymryd camau ymarferol i ganfod a threialu atebion posib. Yn ddiweddar, lansiodd un o’n partneriaid, PAVS (Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro), Gofal Preseli gyda’r gymuned yng ngogledd-ddwyrain Sir Benfro[1].

Nid yw’r syniad o rôl ganolog i gymunedau wrth ddatblygu dulliau newydd o ran gofal cymdeithasol yn un cwbl newydd ond yn y gorffennol mae “Big Society”[2] wedi bod yn gyfystyr â chymryd cam yn ôl a gadael i wirfoddolwyr neu endidau yn y gymuned leol ddatrys problemau heb gydlynu, cymorth ac atebion ariannu digonol. Afraid dweud bod pobl yn nerfus ynghylch ailwampio gwasanaethau mae pobl yn dibynnu arnynt.

Mae’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn galw am fwy o ffocws ar lesiant, atal, cydweithredu a chyd-gynhyrchu ar gyfer llais a rheolaeth pobl. Mae Gofal Preseli’n rhaglen “profi a dysgu”, sef proses dwy flynedd ailadroddol sy’n dechrau gyda sgyrsiau, arolygon a gweithdai, gan gynnwys cymaint o bobl â phosib yn y gwaith o gynllunio, profi a darparu model gofal a llesiant cynaliadwy a arweinir gan y gymuned, yn seiliedig ar asedau’r ardal. Dyma ymdrech gydunol i symud oddi wrth y dull mewnol ac am i lawr o ran gofal cymdeithasol, sy’n canolbwyntio ar gynnal gwasanaethau gyda llai o adnoddau neu ofyn sut i ddiwallu anghenion sylfaenol pobl. Mae angen ailystyried yr “angen” ei hun a’r ffyrdd o ymateb i ofynion gofal.

Un o’r blaenoriaethau cyntaf yw datblygu dealltwriaeth a rennir o asedau’r ardal, a meddwl sut y gellid eu rhoi ar waith i greu atebion. Gallant gynnwys unrhyw beth o gartrefi gofal, meddygfeydd teulu, clybiau chwaraeon, gofalwyr â thâl a di-dâl, Cysylltwyr Cymuned, cynghorau tref a chymuned, busnesau lleol, neuaddau cymuned, grwpiau gwirfoddol a chymunedol, yr amgylchedd naturiol, ynghyd â phrofiad, gwybodaeth, sgiliau, doniau a syniadau cyfunol yr holl bobl sy’n byw yn yr ardal.

 

Roedd yn amlwg bod gan y gymuned ei hun gyfraniad hollbwysig i’w wneud wrth ailgynllunio gwasanaethau, ac mai cydweithio yw’r ffordd i glymu ein lleoedd, cymunedau ac asiantaethau statudol lleol gyda’i gilydd. Roedd Hilary Cottam, sydd wedi arwain sawl arbrawf i ailgynllunio gwasanaethau a chysylltiadau yn y wladwriaeth les, yn ystyried bod gweithredu seiliedig ar le yn llawer mwy tebygol o arwain at welliannau sylweddol a pharhaus. Mae’n disgrifio “systemau llorweddol newydd trwchus” a fydd yn helpu i gyfuno’r asedau a’r cyfraniadau lleol gyda’r ddarpariaeth statudol. Nid yw’n achos o wneud rhywbeth yn lle rhywbeth arall. Gellir ehangu’r gyfatebiaeth hon yng ngogledd-ddwyrain Sir Benfro i ystyried y ddelwedd o blethu, gyda phartneriaid sector cyhoeddus a gwasanaethau statudol yn ffurfio’r edau ystof fertigol, a gweithgareddau llesiant a gofal a arweinir gan y gymuned yn ffurfio’r edau anwe lorweddol.

Gofal Preseli yw’r cam cyntaf o ran helpu cymunedau i ddod o hyd i’w hateb eu hunain i broblemau gofal cymdeithasol. Gallai ystyried sut i alluogi cymuned i fyw’n dda, yn hytrach na pharhau gyda modelau gofal sy’n bodoli eisoes, fod yn fwy effeithiol a defnyddio adnoddau’n fwy effeithlon yn y pen draw.

[1] Y partner arall yw’r sefydliad datblygu cymunedol, Gweithredu yng Nghaerau a Threlái y a elwir yn ‘ACE’. Mae wwedi’i lansio yn ne-ddwyrain Caerdydd a bydd yn lansio ACE Cares i brofi a dysgfu am atebion a arweinir gan y gymuned i broblemau gofal cymdeithasol.

[2] https://www.theguardian.com/society/2013/mar/05/end-david-camerons-big-society