Ffyniant economaidd, yr economi sylfaenol, a mentrau cymdeithasol a chymunedol
Yn ddiweddar, ymatebodd Cwmpas i ymchwiliad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd ar yr Economi Sylfaenol. Tynnodd ein hymateb sylw at yr angen i gefnogi’r datblygiad o fodelau busnes mentrau cymdeithasol, cydweithredol a democrataidd o fewn yr economi sylfaenol. Mae angen hyn i greu ffyniant cynhwysol a chynaliadwy yng Nghymru.
Mae’r blog hwn gan ein Swyddog Polisi ac Ymgysylltu, Dr Daniel Roberts, yn archwilio ein prif ystyriaethau a blaenoriaethau.
Mae economi Cymru yn tanberfformio’n barhaus yn golygu ein bod yn gweld trafodaethau cyson ar y gwahanol ffyrdd i’w thrawsnewid – boed yn gynlluniau i roi hwb i dwf economaidd, symud tuag at economi les, neu ganolbwyntio ar yr economi sylfaenol. Mae’r blog hwn yn rhoi sylw i sut gallai’r syniadau hyn gyd-fynd â’i gilydd a’r rhan allweddol y gall modelau cydweithredol, cymunedol a chydweithredol ei chwarae wrth ymuno â nhw.
Mae llywodraeth newydd y DU yn canolbwyntio’n fawr ar dwf economaidd. Y cyntaf o’i phum cenhadaeth i ailadeiladu Prydain yw “sicrhau’r twf parhaus uchaf yn y G7 – gyda swyddi da a thwf mewn cynhyrchiant ym mhob rhan o’r wlad yn gwneud pawb, nid dim ond yr ychydig prin, yn well eu byd.”
Yn yr un modd, nododd Prif Weinidog newydd Cymru, Eluned Morgan, mai un o brif feysydd blaenoriaeth ei llywodraeth yw “swyddi gwyrdd a thwf – creu swyddi gwyrdd sy’n mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ac yn adfer natur, gan sicrhau bod teuluoedd ar eu hennill; a chyflymu penderfyniadau cynllunio i dyfu economi Cymru”.
Ar yr un pryd, bu Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd yn cynnal ymchwiliad ar yr economi sylfaenol. Mae Llywodraeth Cymru wedi arwain y ffordd o ran ymgymryd â’r maes polisi hwn, a cheisiodd yr ymchwiliad archwilio sut mae hyn wedi’i weithredu a’r effaith y mae wedi’i chael.
Un pwynt i’w ystyried yw sut olwg a allai fod ar bolisi economi sylfaenol yn yr oes wleidyddol newydd, lle mae twf yn ôl ar frig yr agenda yng Nghymru. Oherwydd natur yr economi sylfaenol, mae’n cael ei hystyried bod ganddi lai o botensial o ran twf uniongyrchol na sectorau eraill – felly a fydd hi’n cael llai o sylw yn sgil hyn?
Yn Cwmpas, dydyn ni ddim yn credu y dylai gael llai o sylw. Er y gallai sectorau sy’n rhan o’r economi sylfaenol gynnig llai o gyfleoedd i fusnesau sydd â chryn botensial o ran twf neu greu llawer o swyddi yn y tymor byr, mae angen ailgydbwyso yn sylfaenol economi is Cymru er mwyn sicrhau ffyniant cynaliadwy. Bydd cefnogi cymunedau a busnesau o fewn yr economi sylfaenol yn hanfodol i hyn. Does dim angen i hyn ddod ar draul twf economaidd – yn hytrach, mae’n rhoi’r sylfeini ar waith i sicrhau ffyniant yn y tymor hir.
Daw hyn ar ffurf ailgydbwyso’r economi fel bod pŵer economaidd a phenderfyniadau yn cael eu cadw’n lleol. Mae hyn yn creu economi fwy cynhwysol, adfywiol yn hytrach nag economi sy’n echdynnu. Mae hefyd yn cynyddu cynhyrchiant ar draws yr economi yn hytrach na dibynnu ar rai sectorau yn unig.
Mae’n bosibl iawn tyfu’r economi heb dicio’r blychau hyn. Byddai hyn yn golygu nad ydyn ni’n datrys y problemau y mae angen i ni eu datrys – fel datblygiad anghyfartal ledled Cymru, tlodi parhaus, a cholli swyddi oherwydd penderfyniadau sy’n cael eu gwneud mewn mannau eraill.
Bydd cryfhau’r economi sylfaenol yn hanfodol i feithrin twf cynhwysol sydd o fudd i bawb yng Nghymru. Bydd hefyd yn ailgydbwyso economïau lleol ac yn adeiladu cyfoeth cymunedol. Y ffordd orau o ailgydbwyso ein heconomi, ac economïau lleol, yw cynyddu nifer y busnesau sy’n fentrau cymdeithasol a chydweithredol sy’n eiddo i’r gymuned. Dyma pam:
Ffyniant cynaliadwy
Bydd canolbwyntio ar yr economi sylfaenol yn cefnogi’r datblygiad o fusnesau mewn sectorau hanfodol yng Nghymru. Bydd creu cadwyn gyflenwi gref o fusnesau yng Nghymru yn y sectorau hyn yn creu economi gadarnach, wydn sy’n cadw cyfoeth yn yr ardal leol pan fydd pethau’n dda. Mae perchnogaeth leol hefyd yn golygu bod y busnesau hyn yn llai tebygol o fethu yn ystod cyfnodau heriol.
Dylai datblygu modelau menter gydweithredol, gymunedol a chymdeithasol yn y gofod hwn fod yn safon aur ar gyfer hyn. Profwyd bod perchnogaeth ddemocrataidd a modelau busnes cymdeithasol yn asedau hollbwysig wrth adeiladu cyfoeth cymunedol. Mae’n angori sefydliadau yn eu cymunedau, gan flaenoriaethu lles a gwerth cymdeithasol dros gynhyrchu cyfoeth preifat. Mae hyd yn oed yn cynyddu gwytnwch hefyd.
Twf cynhwysol
Bydd mabwysiadu ‘dull economi sylfaenol’ yn allweddol i ddatblygu dull sy’n seiliedig ar le o ddatblygiad economaidd, gan sicrhau bod ffyniant yn cael ei deimlo ym mhob rhan o’r wlad. Mae dulliau sy’n benodol i sector o ddatblygiad economaidd yn aml yn canolbwyntio ar glystyrau a chrynhoad, gan ffafrio rhai rhannau o’r wlad dros eraill. Mae cryfhau’r economi sylfaenol yn golygu bod pob lle yn gallu elwa.
Profwyd bod modelau busnes cymdeithasol yn creu hyd yn oed mwy o werth i weithwyr a chymunedau. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Social Enterprise UK, mewn partneriaeth â’r Living Wage Foundation, adroddiad sy’n ymchwilio i ansawdd y gyflogaeth a grëwyd gan fentrau cymdeithasol ac yn cymharu hyn â’r gymuned fusnes ehangach. Mae 84% o fentrau cymdeithasol yn dweud eu bod yn talu’r Cyflog Byw gwirioneddol – dyna 8 o bob 10 menter gymdeithasol o’i gymharu ag amcangyfrif o 1 o bob 9 cyflogwr ar draws yr economi ehangach.
Mae ein gwaith ymchwil wedi canfod bod 22% o gyflogwyr a gyflogodd weithwyr newydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi nodi bod y rhain yn cynnwys unigolion a oedd yn ddi-waith cyn dechrau swydd. Mae hyn yn atgyfnerthu rôl y sector o ran darparu cyfleoedd am waith i unigolion sydd ymhellach i ffwrdd o’r farchnad lafur. Ar ben hynny, mae’r data’n awgrymu bod busnesau cymdeithasol yn gyflogwyr lleol da, gyda 78% o weithlu busnesau yn byw o fewn 10 milltir i’w gweithle.
Cynhyrchiant
Mae cynhyrchiant wedi bod wrth wraidd y ddadl ar wella perfformiad economaidd Cymru a’r DU gyfan yn ystod y ddau ddegawd diwethaf. Mae’r economi sylfaenol yn rhan fawr o’r economi yng Nghymru – mewn rhai cymunedau, dyma’r economi gyfan. Mae angen dull arnon ni o gynyddu cynhyrchiant sy’n cynnwys pawb a phob lle, nid dibynnu ar sectorau penodol i gwmpasu’r bylchau. Mae cynnydd bach mewn cynhyrchiant ar draws yr economi sylfaenol gyfan yn gallu cael effaith fawr – er enghraifft, drwy wella’r defnydd o dechnoleg ddigidol. Amlygodd ein hadroddiad ar allgáu digidol ymhlith BBaCh Cymru yr angen am fwy o gefnogaeth i fabwysiadu technoleg ddigidol a’r manteision y gallai hyn eu cael ar gyfer cynhyrchiant.
Mae datblygu’r arfer o’r gweithwyr eu hunain yn cymryd perchnogaeth o fusnesau yn ffordd arall o gynyddu cynhyrchiant mewn economi. Yn ôl Adolygiad Busnes Harvard, yn seiliedig ar nifer o astudiaethau academaidd, mae cwmnïau yn fwy cynhyrchiol, yn tyfu’n gyflymach ac yn llai tebygol o fethu na’u cymheiriaid lle mae ganddyn nhw’r canlynol:
- Mae o leiaf 30% o’r cyfranddaliadau yn eiddo i grŵp eang o weithwyr.
- Mae gan bob gweithiwr fynediad at berchnogaeth.
- Mae crynodiad y berchnogaeth yn gyfyngedig.
Beth fydd y camau nesaf?
Ein casgliad yw bod ‘dull economi sylfaenol’ yn fwy angenrheidiol nag erioed i greu’r amodau lle mae ffyniant cynaliadwy a chynhwysol yn bosibl. Rhan allweddol o wneud hyn fydd ailgydbwyso economi Cymru ac economïau lleol ynddi. Y ffordd orau o wneud hyn yw cynyddu maint y cydweithfeydd, mentrau cymdeithasol a busnesau sy’n eiddo i’r gymuned. Mae’n bryd i’r modelau hyn gael eu rhoi wrth wraidd ein strategaeth economaidd.
Gallwn gryfhau’r economi sylfaenol a chefnogi cymunedau i greu’r amodau am ffyniant cynaliadwy trwy wneud y canlynol:
- Meithrin cymunedau a chadwyni cyflenwi i ddatblygu’r gallu i ddechrau a thyfu busnesau cydweithredol a busnesau sy’n eiddo i’r gymuned.
- Ymgorffori hawliau i berchnogaeth gymunedol mewn deddfwriaeth.
- Ymgymryd â ffyrdd arloesol eraill o ddatblygu’r economi gydweithredol yng Nghymru.
Cwmpas yw asiantaeth datblygu economaidd Cymru sy’n gweithio i greu newid cadarnhaol yn ein cymunedau, a byddai’n croesawu’r cyfle i weithio gyda chi i gyflawni’r uchelgais hwn. Gallwch ddarllen ein hymateb llawn i ymchwiliad y Senedd yma.