Economeg y Doesen a’r Economi Llesiant – amser tyngedfennol i Gymru
Mae consensws cynyddol bod angen newid radical yn ein meddylfryd economaidd i adeiladu Cymru lewyrchus, gynaliadwy a thecach. Mae hyn yn rhywbeth y mae llawer o bobl wedi bod yn frwdfrydig drosto ers amser hir, ond nawr yn fwy nag erioed, mae’n teimlo fel pe baem wedi cyrraedd trobwynt.
Yn Cwmpas, rydym yn credu y dylai ein heconomi a’n cymdeithas weithio’n wahanol, gan roi pobl a’r blaned yn gyntaf. Rydym yn cefnogi pobl a chymunedau i ddechrau a thyfu mentrau cymdeithasol a mentrau cydweithredol, cefnogi busnesau i drosglwyddo i berchnogaeth gweithwyr a gwneud y mwyaf o’u gwerth cymdeithasol, a gweithio gyda’r llywodraeth a chyrff cyhoeddus i feithrin cymunedau ffyniannus, cynhwysol a chynaliadwy.
Bydd cefnogi twf y modelau a’r egwyddorion busnes hyn yn wirioneddol ailffocysu ein heconomi i flaenoriaethu lles a chynaliadwyedd. Rydym yn frwdfrydig ynghylch gweithio gydag eraill i gyflawni hyn ac roeddem yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth ag WE Cymru i ddod â phobl ynghyd i drafod sut i wneud hynny.
Gŵyl Syniadau
Cafodd Gŵyl Syniadau Economi Llesiant Cymru ei chynnal am y tro cyntaf ar 18 Tachwedd yn Arena Abertawe, wedi’i threfnu gan WE Cymru mewn partneriaeth â Cwmpas, 4theRegion, Oxfam Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol. Daeth pobl o amrywiaeth o wahanol sefydliadau, sectorau, cymunedau a safbwyntiau ynghyd i drafod y syniad o economi llesiant, a sut y gall fod y fframwaith economaidd amlycaf yng Nghymru a chael effaith wirioneddol ar fywydau pobl.
Ni ellir tanamcangyfrif brys y sefyllfa yng Nghymru. Ar ddiwrnod y gynhadledd, dywedodd BBC Cymru Wales bod nifer y bobl ddigartref yng Nghymru ar ei uchaf erioed.
Yn Snapshot of Poverty yr Hydref, canfu Sefydliad Bevan y canlynol:
“Mae arwyddion o galedi yn parhau ar yr un lefel ag y maent ers sawl blwyddyn, er gwaethaf dychwelyd i gyfraddau chwyddiant mwy arferol. Ledled Cymru, mae llawer yn parhau i fethu fforddio’r hanfodion. Ar yr un pryd, mae cyfraddau benthyca ac ôl-ddyledion ar filiau yn parhau i gynyddu’n raddol, gan dynnu sylw at y niwed ofnadwy y mae’r argyfwng yn ei wneud i fywydau pobl.”
Ni all pethau barhau fel hyn.
Economeg Llesiant
Wrth wraidd economeg llesiant mae’r haeriad y dylai polisi economaidd ganolbwyntio ar wella bywydau pobl mewn ffordd deg a chynaliadwy, nid twf economaidd er ei fwyn ei hun.
Cyflwynwyd y brif araith yn yr Ŵyl Syniadau gan un o economegwyr amlycaf y byd, Kate Raworth, a roddodd gyflwyniad ysbrydoledig ynghylch pam mae angen y newid hwn yn y dull economaidd. Roedd yn ddiddorol clywed sut mae ei model Economeg y Doesen (Doughnut Economics,) sy’n adnabyddus yn rhyngwladol, yn cael ei weithredu ledled y byd, ar draws gwahanol wledydd, sectorau a haenau o lywodraeth. Mae’r model yn offeryn gweledol i ddeall y cydbwysedd rhwng sylfeini cymdeithasol a nenfydau ecolegol a sut y dylai datblygu cynaliadwy anelu at greu economïau a chymunedau sy’n cyd-fynd â’r ffiniau hyn.
Yn hanfodol, nid yw economeg y doesen neu fynd ar drywydd economi llesiant yn eithrio’r posibilrwydd o dwf economaidd.
Ond roedd cyfres o gwestiynau gan Donella Meadows yn allweddol:
“Twf beth, a pham, ac i bwy, a phwy sy’n talu’r gost, a pha mor hir y gall bara, a beth yw’r gost i’r blaned, a faint sy’n ddigon?”
Er y gall cefnogi gweithgarwch economaidd mwy cadarnhaol greu twf, ni ddylem aberthu rhannau o’n cymunedau yr ydym yn eu gwerthfawrogi os nad ydynt yn gwneud y mwyaf ohono, neu drosglwyddo perchnogaeth o’n tir neu asedau yn gyfnewid am dwf cyflym. Yn enwedig lle mae’r twf hwnnw’n golygu elw sy’n cael ei dynnu o’r gymuned yn hytrach na’i ailddosbarthu. Mae angen i ni fuddsoddi yn ein cymdeithas a gwerthfawrogi’r rhannau o’n heconomi a’n cymunedau sy’n creu effeithiau gwirioneddol i’r rheiny sy’n dioddef fwyaf, creu’r amodau i bawb ffynnu, a chreu economïau lleol sy’n ailddosbarthu, sy’n gynaliadwy ac sy’n wydn yn wyneb yr heriau sy’n ein hwynebu.
Mae enghreifftiau o leoedd ledled y byd yn dangos y gellir gweithredu’r dull newydd hwn o ddatblygu economaidd, a’i fod yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl.
Newid y ffordd rydym yn gwneud busnes
Mae cefnogi’r dull hwn o ddatblygu economaidd yn golygu annog a meithrin modelau busnes amrywiol sy’n gwreiddio llesiant a pherchnogaeth ddemocrataidd.
Yn Cwmpas, rydym wedi bod yn cefnogi cwmnïau cydweithredol, busnesau cymdeithasol a mentrau cymunedol ers degawdau. Mae’n bryd i ni roi’r modelau hyn wrth wraidd ein strategaeth economaidd yng Nghymru – gan adeiladu sefydliadau angor newydd sy’n creu ysbryd newydd o entrepreneuriaeth sy’n ateb yr heriau sy’n ein hwynebu ac yn rhannu cyfoeth ac elw yn ein cymunedau.
Mae Cymru wedi arwain y ffordd ar hyn o’r blaen, ac mae mewn sefyllfa dda i wneud hyn eto. Rydym yn wlad sy’n ddigon mawr i gwmpasu amrywiaeth o gymunedau a sectorau gydag economi a sbardunau ariannol digonol i gael effaith bendant, gan fod yn ddigon ystwyth a chysylltiedig i fod yn arloesol wrth ddatblygu a gweithredu polisïau. Rydym wedi dangos yr ewyllys wleidyddol i wneud pethau’n wahanol drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Ac fel y trafodwyd o’r blaen, mae’r angen am newid yn amlwg ac yn ddybryd.
Yn bwysicaf oll, nid ydym yn dechrau o ddim. Mae mentrau cymdeithasol a busnesau sy’n eiddo i’r gymuned eisoes yn gwneud gwaith anhygoel – cyfrifwyd yn yr adroddiad mapio diweddaraf yn 2022 fod maint y sector busnesau cymdeithasol yn £4.8bn, gyda chyfanswm y gyflogaeth yn 65,299 a nifer y gwirfoddolwyr yn 54,261, gan greu ystod eang o ganlyniadau yn amrywio o wella iechyd a lles, i fynd i’r afael ag allgau cymdeithasol, i ddiogelu’r amgylchedd.
Yng Nghymru, rydym wedi mwy na dyblu nifer y busnesau sy’n eiddo i weithwyr yng Nghymru ers 2021, gan angori sefydliadau mewn cymunedau a chreu gwell canlyniadau i weithwyr.
Mae gennym hanes hir o gymunedau Cymru yn adeiladu busnesau cydweithredol, sy’n eiddo i’r gymuned, gan adeiladu cyfoeth cymunedol a grymuso pobl leol.
Nid syniadau newydd yw’r rhain – ond mae eu rhoi wrth wraidd polisi economaidd yn newydd. Gwneud hynny fyddai’r cam cyntaf tuag at wireddu uchelgais economi llesiant yng Nghymru sydd wir yn gwreiddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Troi ysbrydoliaeth yn weithredu
Cawsom ein hysbrydoli gan yr holl areithiau yng Ngŵyl Syniadau Abertawe – ond lawn gymaint gan y sgyrsiau a gawsom drwy gydol y dydd gyda phobl o bob cwr o Gymru sy’n benderfynol o wneud i hyn ddigwydd.
Pu’n ai yn bobl sy’n dechrau eu mentrau cymunedol eu hunain i gefnogi pobl leol ac adeiladu cyfoeth cymunedol, academyddion sy’nn defnyddio eu gwybodaeth a’u profiad i ddatblygu ein dealltwriaeth, neu gyrff cyhoeddus sy’n edrych i drawsnewid eu dulliau a dod yn sefydliadau angori yn yr economi llesiant – mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae wrth wneud i hyn ddigwydd.
Y cam nesaf i fudiad yr economi llesiant yw amlygu camau pendant y gallwn eu cymryd, ac roeddem yn falch iawn o weld y camau hynny’n cael eu mynegi yn y digwyddiad ddydd Llun. Roedd cyhoeddi mesur amgen o berfformiad economaidd i gystadlu â GYC y pen yn arbennig o bwysig, ac edrychwn ymlaen at adeiladu ar hyn gyda phartneriaid a nodi polisïau y credwn y byddant yn adeiladu cyfoeth cymunedol ac yn cefnogi’r economi llesiant.
Mae Cwmpas yn gweithio ar draws ystod o sectorau, ac yn cefnogi cymunedau i ailgydbwyso ein heconomi a chefnogi llesiant. Rydym yn gyffrous cael bod ar flaen y gad yn yr ymgyrch hon ar adeg allweddol i economi Cymru a’n cymunedau.