Diwrnod Rhyngwladol y Menywod: Mae mentrau cymdeithasol Cymru yn Cyflymu Gweithredu ar gyfer yr holl fenywod a merched

6 Mawrth 2025

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni, rydym yn ymuno â mentrau cymdeithasol o’r un feddylfryd ledled Cymru i ddathlu menywod anhygoel. 

Mae mentrau cymdeithasol yn creu cyfleoedd i fenywod a merched, gan flaenoriaethu lles, dod o hyd i gyfleoedd a’u rhannu, a grymuso menywod trwy amrywiaeth o ffyrdd. 

Mae menywod yn wynebu rhwystrau systemig sy’n effeithio ar eu lles, eu bywydau proffesiynol a phersonol, ac yn bygwth cydraddoldeb. O ddisgwyliadau llafur di-dâl i ansicrwydd ariannol a thrais ar sail rhywedd, mae’r heriau hyn yn aml yn cyfyngu ar gyfleoedd menywod i ffynnu. 

I lawer o fenywod sydd ar yr ymylon, mae heriau’n cael eu gwaethygu ymhellach gan rwystrau hiliol neu economaidd-gymdeithasol sy’n cyfyngu ar fynediad at gyfleoedd. 

Mae’r heriau hyn yn rhai gwirioneddol. 

Mae’n gallu teimlo fel brwydr anodd – ond ledled Cymru a’r DU, mae mentrau cymdeithasol yn creu atebion sy’n cael eu hybu gan y gymuned sy’n cefnogi menywod a’r gymuned ehangach. 

Drwy gydnabod yr heriau unigryw y mae menywod yn eu hwynebu, mae mentrau cymdeithasol yn helpu menywod i ddysgu sgiliau newydd, dod o hyd i gyfleoedd gwaith, ac elwa ar gefnogaeth gymunedol. 

Weithiau, am y tro cyntaf, mae gan fenywod lais, a’r cyfleoedd y maent yn eu haeddu i gyrraedd eu potensial a byw eu breuddwydion. 

Dyma sut mae mentrau cymdeithasol arloesol, a’r menywod sy’n eu rhedeg, yn gweithio gyda’u cymunedau i fynd i’r afael â’r materion sy’n effeithio fwyaf ar fenywod. 

Mae Run 4 Wales (R4W) wedi’i ysgogi i ddarparu digwyddiadau o safon fyd-eang gyda rhaglen gymdeithasol gadarnhaol. Mae eu syrffed yn cael eu buddsoddi mewn chwaraeon cymunedol a phrosiectau lleol drwy Sefydliad Elusennol R4W. Darllenwch astudiaethau achos Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar eu gwefan. 

Mae’r Fenter Effaith Gymunedol (Community Impact Initiative) yn cefnogi aelodau’r gymuned i wella eu hiechyd a’u lles, ac i ddysgu sgiliau newydd drwy adfywio tai yn eu cymunedau lleol. Darllenwch astudiaethau achos Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar eu gwefan. 

Mae Groundwork Gogledd Cymru yn gweithio ochr yn ochr â chymunedau lleol, cyrff cyhoeddus a chwmnïau preifat i greu effeithiau cadarnhaol gyda’i gilydd i bobl, lleoedd a’r blaned. Darllenwch astudiaethau achos Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar eu gwefan. 

Asiantaeth ddatblygu yw Cwmpas sy’n gweithio i greu newid er gwell, yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig. 

Rydym yn gwmni cydweithredol sy’n canolbwyntio ar greu economi decach a gwyrddach a chymdeithas fwy cyfartal, lle mae pobl a’r blaned yn dod gyntaf. 

Mae tua 10 miliwn o fentrau cymdeithasol dros y byd, sy’n creu 200 miliwn o swyddi ar draws gwahanol sectorau, ac yn codi oddeutu $2 triliwn mewn refeniw blynyddol. 

Yng Nghymru, mae busnesau cymdeithasol yn cyfrif am 2.6% o gyfanswm busnesau, yn cyflogi dros 65,000 o weithwyr, ac yn creu trosiant blynyddol o £4.8 biliwn. 

Mae tua hanner y mentrau cymdeithasol ledled y byd yn cael eu harwain gan fenywod – enghraifft wych o sut mae’r sector yn mynd yn groes i dueddiadau ac yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau. 

Dyma rai astudiaethau achos Diwrnod Rhyngwladol y Menywod sy’n tynnu sylw at rai o’r menywod ysbrydoledig o fentrau cymdeithasol yng Nghymru yr ydym wedi’u cefnogi. 


Julia Rees – Clwb Gymnasteg Maldwyn Dragons  

Julia Rees - Clwb Gymnasteg Maldwyn Dragons

Rhoddodd Cwmpas gyngor i’r entrepreneur cymdeithasol, Julia Rees, y llynedd ar gynlluniau ar gyfer ei syniad, Clwb Gymnasteg Maldwyn Dragons yn y Drenewydd, Powys. 

Ers 20 mlynedd, mae Julia a’i thîm wedi hyfforddi cannoedd o bobl ifanc yn y Drenewydd i ymarfer sgiliau cymdeithasol a datblygu hunanhyder, disgyblaeth, ffitrwydd a chyfeillgarwch trwy gymnasteg. Pan fyddant yn 17 oed, gallant ddod yn hyfforddwyr eu hunain, gyda llwybr i ennill arian am weddill eu bywydau trwy hobi y maent yn ei garu.  

Mae Julia yn cynnig lle diogel i bobl ifanc ymarfer sgiliau cymdeithasol, cymuned, sgiliau bywyd, ffitrwydd, cyfeillgarwch, hobi hwyliog, boddhad yn sgil goresgyn heriau, cyfleoedd i dyfu a dysgu, swyddi a chyflog. 

Mae busnes Julia yn enghraifft berffaith o sut mae mentrau cymdeithasol yn chwalu rhwystrau, yn hyrwyddo cyfleoedd, ac yn datrys materion cymdeithasol. 


Helen Williams – Hyb Cymunedol Borth

Helen Williams - Hwb Cymunedol Borth

“Bymtheg mlynedd yn ôl, roeddwn i’n fam i bedwar o blant ifanc ac yn cadeirio grŵp canolfan deuluol a oedd yn cael ei chynnal ddiwrnod yr wythnos. Erbyn hyn, rwy’n rheoli Hyb Cymunedol Borth

“Rydym wedi tyfu’n raddol i fod yn sefydliad sy’n darparu cefnogaeth i ystod eang o bobl a grwpiau oedran yn y rhanbarth hwn o gefn gwlad gogledd Ceredigion.  

“Rydym yn cynnal gweithgareddau cymorth cymunedol gan gynnwys canolfan deuluol Borth, clwb ieuenctid Borth, gweithgareddau i oedolion hŷn gan gynnwys cerdded er lles, a grŵp sy’n deall dementia, Sied Dynion Borth, a man Croeso Cynnes a chaffi cymunedol. Mae cynigion newydd yn cynnwys Llyfrgell o Bethau, a chaffi creadigol dros dro i oedolion hŷn. 

“Gall bywyd fod yn anodd, ond yn y gornel fach hon o gefn gwlad Cymru, mae bod yn rhan o Hyb Cymunedol Borth yn golygu bod wrth galon y gymuned leol.  

“Mae cefnogaeth yn allweddol i ni – helpu pobl i deimlo ymdeimlad o berthyn a chynhwysiant. Y pethau bach sy’n bwysig – y gwahaniaeth mewn pobl ers iddyn nhw ddechrau dod. Nid oes amheuaeth – mae pobl yn gwerthfawrogi’r Hyb.”


Nia Llywelyn – Hwyliaith 

Nia Llywelyn - Hwyliath cym

“Ar ôl gyrfa hir, des i nôl at fy ngwreiddiau yng Ngheredigion i ddangos i bobl nad oes rhaid i ddysgu Cymraeg fod yn anodd, ac mae’n gallu bod yn hwyl!  

“Mae’r Gymraeg mor hanfodol bwysig i dreftadaeth a hunaniaeth fodern Cymru.  

“Dyna pam dwi yma – i roi yn ôl i’m cymuned, a gwneud yn siŵr bod pawb yn gallu siarad Cymraeg sydd eisiau siarad Cymraeg, ni waeth beth yw eu hoedran. 

“Mae clywed yr iaith yn cael ei siarad yn y gymuned yn rhoi hyder i bobl, a’r cymhelliant i ddod at ei gilydd, i ymarfer siarad Cymraeg gyda chyd-ddysgwyr, a pharhau i ddysgu. 

“Gall iaith fod yn hwyl – ac mae’r Gymraeg yn hudolus ac yn agor y drws i fyd cwbl newydd.”


Shoruk Nekeb – Grange Pavilion Youth Forum 

Shoruk Nekeb - Grange Pavilion Youth Forum

Mae Shoruk Nekeb yn chwaer hŷn, yn adeiladwr cymuned, yn eiriolwr ieuenctid, ac yn fyfyriwr Gradd Meistr mewn Pensaernïaeth. Mae hi hefyd yn gyd-gyfarwyddwr Grange Pavilion Youth Forum, sef menter gymdeithasol wedi’i harwain gan bobl ifanc yn Grangetown, Caerdydd, y mae ei rhaglenni’n helpu pobl ifanc i ddysgu ffynnu, arwain a llunio eu cymunedau trwy hyfforddiant busnes, prosiectau amgylcheddol a mentrau creadigol.  

Mae empathi ac ymroddiad Shoruk i’w chymuned yn gadael etifeddiaeth barhaol ar dirwedd Grangetown.  

“Mae jyglo fy astudiaethau, heriau personol a theuluol, a’r ffaith fy mod yn dod o gefndir Libyaidd wedi llunio fy safbwynt a’m gwytnwch. Mae llywio mannau lle mae menywod ifanc, yn enwedig y rheiny o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, yn cael eu tangynrychioli wedi bod yn anodd, ond mae hefyd wedi ysgogi fy angerdd dros greu cyfleoedd cynhwysol i ferched ifanc fel fi. 

“Dwi wedi bod yn ffodus i weithio ochr yn ochr â menywod anhygoel sydd wedi llunio fy nhaith. Nawr, dwi’n rhoi yn ôl, ac yn helpu menywod ifanc i dyfu’n  arweinwyr, ennill annibyniaeth ariannol, a magu hyder mewn amgylchedd proffesiynol.”


Alex Kegie – Nurologik 

Alex Kegie - Nurologik

“Dwi’n gwybod yn bersonol sut brofiad yw llywio byd nad yw wedi cael ei adeiladu ar eich cyfer chi. A minnau’n berson awtistig/ADHD gyda dyslecsia a sensitifrwydd synhwyraidd, dwi wedi gorfod ymddiswyddo o swyddi oherwydd nad oedd yr amgylcheddau’n hygyrch.  

“Mae unigolion niwrowahanol yn wynebu rhwystrau llethol – nid heriau synhwyraidd yn unig, ond hefyd camddealltwriaeth eang, trafferthion gyda chyflogaeth, ac argyfwng iechyd meddwl. 

“Sefydlais i Nurologik oherwydd fy mod i eisiau helpu creu byd lle mae pobl niwrowahanol nid yn unig yn goroesi ond yn ffynnu. Efallai y bydd ymwelwyr yn cyrraedd digwyddiad lle dwi’n edrych yn ddigalon, wedi fy llethu, ac wedi gorflino. Maen nhw’n gadael yn dawel, yn gwenu ac yn ddiolchgar iawn. 

“Mae gen i weledigaeth o fyd lle mae amgylcheddau sy’n gyfeillgar i’r synhwyrau yn nodweddion arferol mewn lleoedd gwaith a mannau cyhoeddus – rhan hanfodol o ddylunio cynlluniau preswyl, masnachol a threfol.  

“Dwi eisiau i’m plant, wyrion a phob unigolyn, ni waeth beth fo’u niwroteip, deimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u cynnwys, ac yn cael cyfle i brofi byd sydd wir yn eu gwerthfawrogi.”


Alison Gorman – Dream Home Swansea 

Alison Gorman - Dream Home Swansea

“Treuliais y 33 mlynedd diwethaf yn gweithio yn y GIG fel seicolegydd ym maes iechyd, galar a thrawma. Cefais ddiagnosis o ganser yr ofari dair blynedd yn ôl, ac fe wnes i ymddeol yn sgil salwch y llynedd. Ers hynny, dwi wedi cael llawdriniaeth fawr ac wedi bod i mewn ac allan yn cael cemotherapi – ond dwi’n gwybod na fyddai Dream Home Swansea lle mae heddiw pe bawn i’n dal i weithio’n amser llawn. 

“Dechreuodd y cynlluniau cyntaf ar gyfer Dream Home Swansea yn 2017, pan sefydlais i grŵp i helpu pobl ifanc ag anghenion ychwanegol i bontio o’u cartrefi i leoedd byw â chymorth a oedd wir yn cynrychioli eu hanghenion a’u dymuniadau. 

“Mae wedi cymryd wyth mlynedd i ddatblygu sesiynau ymgynghori ac amlygu’r hyn y mae pobl ifanc ei eisiau, mewn gwirionedd. Rydym wedi cael cefnogaeth Cwmpas am y pedair blynedd diwethaf. 

“Mae llawer i’w wneud o hyd, ond rydym yn gwneud cynnydd da.”


Helen Davies – Sunflower Lounge 

Helen Davies - Sunflower Lounge

“Dywedodd pobl fy mod yn wallgof yn ceisio sefydlu Sunflower Lounge – sef caffi a chanolfan hyfforddi lle mae pobl ifanc sydd wedi ymddieithrio o’u teuluoedd (fel fi pan oeddwn i’n ifanc) a phobl ifanc sy’n ymadawyr gofal yn gallu dysgu sgiliau mewn amgylchedd diogel, dibynadwy, meithrin cyfeillgarwch, annibyniaeth, a hunan-barch, ac o’r diwedd, teimlo eu bod yn perthyn – ond fe es i ati, beth bynnag!  

“Bedair blynedd yn ddiweddarach, mae gennym ein safle bach ein hunain, pobl ifanc o bob rhan o dde a gorllewin Cymru sydd eisiau cymryd rhan, llu o oedolion dibynadwy sy’n fy nghefnogi i, y Lounge, a’r bobl ifanc.  

“Mae wedi bod yn broses hynod iachaol, gan oresgyn syndrom y ffugiwr a’r gred nad oeddwn i’n dda i ddim.  

“Mae wedi dangos i mi fod trin pobl â chariad, parch a charedigrwydd yn llawer mwy boddhaus na bod yn gaeth i arian. Fy mantra yw ‘Dewch o hyd i’ch llwyth’ a ‘Cryfach gyda’n gilydd’. Ar y diwrnodau anodd, dwi’n gorffwys, ond dwi ddim yn rhoi’r gorau iddi. Weddill yr amser, dwi’n gwthio’r negyddol i ffwrdd ac yn cloddio’n ddwfn, yn gwthio am newid, ac yn gwneud yn siŵr, os ydych chi’n rhan o’r llwyth, nad ydych chi byth ar eich pen eich hun.”