Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2024: Sbotolau ar fenywod sy’n arwain mentrau cymdeithasol yng Nghymru

8 Mawrth 2024

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod 2024 rydym yn tynnu sylw at y menywod rhyfeddol sy’n sbarduno newid yn y sectorau menter gymdeithasol a chydweithredol yng Nghymru. 

Ymunwch â ni wrth i ni ddarganfod straeon y menywod ysbrydoledig sydd, trwy eu harweinyddiaeth a’u hymroddiad, wedi trawsnewid eu bywydau eu hunain a chyfrannu’n sylweddol at rymuso ac ymreolaeth economaidd menywod yng Nghymru ac ar draws y byd. 

Dr Anne Collis – Cyd-sylfaenydd NeuDICE 

Mae Dr Anne Collis yn entrepreneur cymdeithasol cyfresol gyda doethuriaeth mewn rheolaeth sefydliadol. Mae hi’n awtistig ac mae ganddi ddegawdau o brofiad o weithio i greu amgylcheddau busnes lle gall gweithwyr ac entrepreneuriaid ffynnu, gan gynnwys bod yn gyd-sylfaenydd Barod CIC, menter gydweithredol arloesol sy’n cael ei rhedeg a’i staffio gan bobl ag anableddau dysgu a hebddynt. 

Ei ffocws yw hyfforddi ac ysbrydoli cenhedlaeth newydd o entrepreneuriaid benywaidd niwrowahanol. 

Pan nad yw’n gweithio ar ei diddordebau busnes, mae’n gwirfoddoli yn ei chapel. 

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fenywod sy’n ystyried sefydlu busnes cymdeithasol? 

Y cyngor y byddwn i’n ei roi i fi fy hun pan oeddwn yn iau a menywod eraill yw – bod yn hyderus mewn pwy ydych chi, a bod yn hyderus wrth siarad arian.  

Treuliais ormod o amser yn ceisio edrych fel fy stereoteip o ‘fenyw mewn busnes’ yn hytrach na berchen ar bwy ydw i (dynes niwro-ddargyfeiriol nad yw’n cydymffurfio â rhyw). Cynyddodd fy effaith gymdeithasol unwaith i mi roi’r gorau i gydymffurfio a ffeindio llwybr fy hun. Ni allwn fod wedi dod o hyd i’r dewrder i fod yn fi fy hun yn gyhoeddus heb fenywod fel mentoriaid, modelau rôl ac hwylwyr. 

Pa mor bwysig yw grymuso economaidd i fenywod? 

Mae cael arian yn cynyddu eich opsiynau a’ch rheolaeth dros eich bywyd eich hun. Mae dibynnu’n ariannol ar eraill yn eich gadael yn agored i niwed ble bynnag yr ydych yn byw yn y byd a beth bynnag yw’ch diwylliant. 

Mae grymuso economaidd yn fater byd-eang. Rwyf wrth fy modd yn gallu cefnogi menywod yng Ngogledd Uganda i ddatblygu eu mentrau cymdeithasol eu hunain. Rwyf wedi cael cymaint o gymorth ac arweiniad busnes am ddim dros y blynyddoedd; mae hwn yn gyfle i mi gefnogi menywod heb fynediad i freintiau o’r fath. 

Pam mae’n bwysig i fenywod fod yn weladwy ac yn weithgar yn y gofod menter gymdeithasol? 

Mae angen i fenywod fod yn weladwy ac yn egnïol ym mhob man cyhoeddus. Pan ddywedaf ‘menywod’, rwy’n golygu’r holl amrywiaeth o fenywod, nid dim ond y rhai gwyn, cis-het, addysgedig a chroyw. Fel menyw, roedd yn rhaid i mi ymladd i gael clywed fy llais a chael sedd wrth y bwrdd. Fy rôl nawr yw gwneud yn siŵr bod yr amrywiaeth gogoneddus o fenywod yn weladwy ac yn egnïol. Nid oes lle i ferched sy’n tynnu’r ysgol y tu ôl iddynt. 

Liz Downie, Prif Swyddog Gweithredol Thrive Women’s Aid a Thrive Group 

Liz Downie yw Prif Swyddog Gweithredol elusen cam-drin ddomestig Thrive Women’s Aid, a’i chwaer-sefydliad Thrive Group – menter gymdeithasol sy’n darparu gwasanaethau glanhau ac arlwyo, a Playhem, canolfan chwarae ym Mhort Talbot. Mae’r holl elw o Thrive Group yn mynd yn uniongyrchol i Thrive Women’s Aid. 

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fenywod sy’n ystyried sefydlu busnes cymdeithasol? 

Mae menywod yn aml yn wynebu gwahaniaethu a rhagfarn o fewn y diwydiant felly mae’n bwysig dysgu a chysylltu â menywod eraill yn y gymuned ac adeiladu rhwydwaith cefnogaeth o fenywod cryf i helpu i chwalu’r rhwystrau hyn. 

I’r menywod sydd am sefydlu busnes cymdeithasol, mae angen inni gofio bod gan bob sylfaenydd ei stori ei hun, ei angerdd a’i lwybr ei hun. Cewch eich ysbrydoli gan fenywod eraill o’ch cwmpas, cefnogwch eich gilydd a byddwch yn benderfynol o dorri trwy unrhyw rwystr sydd yn eich ffordd. 

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fenywod sy’n ystyried sefydlu busnes cymdeithasol? 

Mae grymuso economaidd yn hanfodol er mwyn i fenywod gynyddu eu mynediad at gyfleoedd economaidd ac adnoddau megis cyflogaeth, sgiliau ac asedau. 

Pa mor bwysig yw grymuso economaidd i fenywod? 

Mae grymuso economaidd yn hanfodol er mwyn i fenywod gynyddu eu mynediad at gyfleoedd economaidd ac adnoddau megis cyflogaeth, sgiliau ac asedau. 

Meleri Davies, Prif Weithredwr Partneriaeth Ogwen 

Meleri Davies yw Prif Weithredwr Partneriaeth Ogwen a Chyfarwyddwr Gwirfoddol Ynni Ogwen ac Ynni Cymunedol Cymru. Yn ei gwaith beunyddiol, mae’n arwain tîm o staff i ddatblygu prosiectau adfywio gan greu budd cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol i’r ardal. 

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fenywod sy’n ystyried sefydlu busnes cymdeithasol? 

Byddwn yn annog unrhyw fenyw i fynd amdani. Roeddwn i’n arfer gweithio yn y sector cyhoeddus ac roeddwn i’n teimlo ar goll mewn môr o bolisi a biwrocratiaeth. Pan ddechreuais i ym Mhartneriaeth Ogwen, roedd fy rôl yn golygu fy mod yn gwneud popeth o gynllunio busnes i brofi legionella! Roeddwn yn gweithio ar fy mhen fy hun ddau ddiwrnod yr wythnos a dros y 10 mlynedd diwethaf, rydym wedi llwyddo i dyfu’r sefydliad i gyflogi 23 o bobl leol. Rydym hefyd wedi sefydlu 2 fenter gymdeithasol newydd ac wedi cefnogi llawer o fusnesau a sefydliadau lleol. Yn bwysicach fyth, mae ein prosiectau wedi cefnogi nifer o bobl yn ein cymuned. Mae’r swydd yn parhau i roi ac rwy’n teimlo mor ffodus i fod yn gweithio gyda phobl anhygoel mewn sector mor arbennig. 

Pa mor bwysig yw grymuso economaidd i fenywod? 

Mae menywod bob amser wedi bod wrth galon datblygiad cymunedol. Yn hanesyddol, efallai bod hyn mewn rolau fel codi arena, trefnu digwyddiadau neu gymryd cofnodion, ond rydym yn ei weld mwy o fenywod yn dod i flaen y gad yn y sector cymunedol a menter gymdeithasol. Nid dim ond gweithio yn y cefndir, ond codi eu lleisiau a bod yn fwy hyderus yn eu gallu i arwain a chyflawni prosiectau cymunedol. Mae mor bwysig i ni arwain yn ogystal â chefnogi yn y sector hwn. 

Pam mae’n bwysig i fenywod fod yn weladwy ac yn weithgar yn y gofod menter gymdeithasol? 

Mae menywod bob amser wedi bod wrth galon datblygiad cymunedol. Yn hanesyddol, efallai bod hyn wedi’i weld mewn rolau fel codi arian, trefnu digwyddiadau neu gymryd cofnodion, ond yr hyn yr ydym yn ei weld yn awr yw mwy o fenywod yn dod i flaen y gad yn y sector cymunedol a menter gymdeithasol. Nid dim ond gweithio yn y cefndir, ond codi eu lleisiau a bod yn fwy hyderus yn eu gallu i arwain a chyflawni prosiectau cymunedol. Mae mor bwysig i ni arwain yn ogystal â chefnogaeth yn y sector hwn. 

Shilpa Vyas – Sylfaenydd Young And Mindful CBC 

Mae dau beth yr wyf yn hynod frwdfrydig yn eu cylch – addysgu a myfyrdod/meddylgarwch, a phan ddaeth y ddau yn un, crëwyd Young And Mindful CBC. Daeth addysgu o hyd i mi yn hytrach na’r ffordd arall. Rwyf wedi addysgu mewn ysgolion dramor ac yn y DU, ac yn 2009 gadewais y system addysg, a sefydlu busnes tiwtora i barhau i addysgu. 

Yn 2003, roedd angen i fy ffordd o fyw newid yn sylweddol, a throais at ysbrydolrwydd am atebion. Rwyf wedi dysgu popeth y gallaf am ymwybyddiaeth ofalgar am yr 20+ mlynedd diwethaf ac o ganlyniad wedi goresgyn profiadau heriol personol yn y gorffennol, gan newid fy ffordd o fyw yn llwyr. Pwrpas addysg yw helpu pobl ifanc i aeddfedu, i fod yn rhydd o ofn, ac i fod yn unigolion integredig sy’n gallu delio â bywyd. 

Shilpa Vyas ydw i, sylfaenydd Young And Mindful CIC a dyma pam wnes i ei sefydlu. 

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fenywod sy’n ystyried sefydlu busnes cymdeithasol? 

Rydych chi yma, mae bywyd i fyw, ac os oes gennych chi weledigaeth sy’n ymwneud â sefydlu menter gymdeithasol yna peidiwch â gwastraffu’ch amser ac egni dim ond meddwl amdani.  

Does dim ots fod yna rai eraill yn cynnig yr un fath o beth yn barod, does dim ots a ydych chi’n becso os bydd yn llwyddiant neu beidio, ac yn sicr does dim ots os yw eraill yn meddwl nad ydych chi’n barod. Gallwch chi roi cynnig arni, gwneud eich gorau glas, a gweld beth sy’n digwydd … dyna fyw eich bywyd yr unig ffordd y gallwch chi. 

Pa mor bwysig yw grymuso economaidd i fenywod? 

Heb ennill eich bywoliaeth eich hun, nid oes unrhyw sicrwydd, annibyniaeth, rhyddid na phŵer gwneud penderfyniadau yn eich bywyd eich hun. Mae cael eich cyfrif banc eich hun, eich cerdyn credyd eich hun, gallu gwario eich arian eich hun, mor syml ag y gall fod, yn rhoi ymdeimlad o sicrwydd a diogelwch i fenywod y gallant ei fwynhau hefyd. Gall menywod gael y ‘gorau o ddau fyd’ – gyrfa a theulu. Gartref mae’r rhan fwyaf o fenywod eisoes yn naturiol fedrus mewn cyllidebu, yn deall sut mae twf ariannol a chynaliadwyedd yn bwysig i deulu ffynnu ac maent yn gwybod pwysigrwydd cynilo neu fuddsoddi. Mae’n hawdd trosglwyddo’r sgiliau hyn i fusnes. Yn y gweithle gall menywod ddod ag agwedd ‘sgiliau meddal’ at fusnes, a dyna pam eu bod yn gynhwysol, yn gyfathrebol, yn ofalgar ac yn hyblyg. Deellir perthnasoedd cwsmeriaid yn well â’r dull hwn ac maent yn bwysicach nag erioed y dyddiau hyn. 

Pam mae’n bwysig i fenywod fod yn weladwy ac yn weithgar yn y gofod menter gymdeithasol? 

Mae menywod yn ysbrydoli ei gilydd. Cafodd fy chwaer ei recriwtio gan Microsoft. Mae gan fy chwaer yng nghyfraith ei busnes ei hun. Sefydlodd merch fy mhartner ei busnes ei hun yn ei 20au. Mae llawer o fy ffrindiau yn gweithio mewn mannau corfforaethol dramor. Mae gweld eraill o’n cwmpas yn cymryd y camau i gyflawni eu nodau er y rhwystrau maent yn wynebu yn bwysig i fenywod ledled y byd. Yr hyn a welwn o’n cwmpas sy’n ein hannog i weithredu. Os gall un fenyw ei wneud, yna gall un arall hefyd. 

Omonigho Idegun – Sylfaenydd Wrexham Africa Community CBC

Ganed Omonigho Idegun yn Nigeria a symudodd i Lundain yn 2006, gan symud yn ddiweddarach i Gymru yn 2011. Sefydlodd Omo Gymuned Affrica Wrecsam yn 2019, gan helpu dim ond 15 o deuluoedd. Tyfodd y grŵp, ac ym mis Ebrill 2023 daeth Cymuned Affrica Wrecsam yn CBC. 

Mae Cymuned Affrica Wrecsam bellach yn helpu dros 300 o deuluoedd o bob rhan o Wrecsam a’r cyffiniau. Ar 21 Gorffennaf 2023, agorodd Omo Farchnad Gymunedol Affricanaidd Obehi â’i chyd-gyfarwyddwyr. Wnaeth Omo rhoi’r gorau i’w swydd dydd i wirfoddoli yn y siop 7 diwrnod yr wythnos. Cyn hyn arferai Omo deithio sawl gwaith yr wythnos i Fanceinion, Lerpwl a Birmingham i gael nwyddau i’r teuluoedd yr oedd hi’n eu cefnogi. 

Roedd hyn i gyd wrth ofalu am ei mab sy’n awtistig, a merch sy’n nofiwr cystadleuol. 

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fenywod sy’n ystyried sefydlu busnes cymdeithasol? 

Gall dechrau busnes cymdeithasol fod yn daith heriol ond gwerth chweil. Trwy barhau i ganolbwyntio ar eich angerdd a phwrpas, gan ddefnyddio’ch cryfderau a’ch adnoddau, a cheisio cefnogaeth gan eich rhwydwaith, gallwch greu menter ystyrlon a chynaliadwy sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn y byd. 

Pa mor bwysig yw grymuso economaidd i fenywod? 

Mae grymuso economaidd nid yn unig yn bwysig ar gyfer gwella bywydau menywod unigol ond hefyd ar gyfer hyrwyddo datblygiad cymdeithasol ac economaidd ehangach a sicrhau cydraddoldeb rhywiol. Dylai ymdrechion i rymuso menywod yn economaidd fynd i’r afael â rhwystrau strwythurol fel cyfreithiau ac arferion gwahaniaethol, mynediad anghyfartal i addysg ac adnoddau, a diffyg mynediad at gyllid a marchnadoedd. 

Pam mae’n bwysig i fenywod fod yn weladwy ac yn weithgar yn y gofod menter gymdeithasol? 

Mae cyfranogiad gweithgar menywod yn y gofod menter gymdeithasol yn hanfodol ar gyfer ysgogi newid cymdeithasol cadarnhaol, hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol, a chreu cymdeithas fwy cynhwysol a theg. 

Mae menywod yn aml yn cael eu heffeithio’n anghymesur gan faterion cymdeithasol ac amgylcheddol fel anghydraddoldeb rhyw, mynediad i addysg, gofal iechyd, a grymuso economaidd. Mae cael menywod yn cymryd rhan weithredol mewn mentrau cymdeithasol yn sicrhau ein bod yn mynd i’r afael  â’r materion hyn a bod datrysiadau’n cael eu cynllunio gydag ymagwedd sy’n sensitif i ryw. 

Mae arweinwyr benywaidd gweladwy yn y gofod menter gymdeithasol yn fodelau rôl i fenywod eraill, gan eu hysbrydoli i ddilyn gyrfaoedd mewn entrepreneuriaeth gymdeithasol a rolau arwain. 

Saadia Abubaker – Sylfaenydd Saadia Speaks

Menyw ifanc sy’n defnyddio pŵer ei llais i rymuso’r genhedlaeth nesaf trwy eu dysgu sut i greu cyfleoedd eu hunain, a thyfu i fod y fersiwn orau ohonyn nhw, beth bynnag fo’u hamgylchiadau. Mae Saadia yn rhagweld byd lle mae pob person ifanc yn cael y cyfle i gyrraedd ei botensial mwyaf ac mae hi eisiau chwarae rhan weithredol wrth greu’r byd yna. Mae’n cyflwyno rhaglenni gweithdy, dosbarthiadau meistr ac yn cynnal ei phodlediad ei hun gyda’r nod o gyflawni’r genhadaeth hon. 

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fenywod sy’n ystyried sefydlu busnes cymdeithasol? 

Fy nghyngor i fenywod a hoffai sefydlu busnes yw nabod eich pwrpas, chwiliwch am arweiniad a chymorth gan fenywod eraill sydd yn y gofod ar hyn o bryd, ac ewch amdani! 

Pa mor bwysig yw grymuso economaidd i fenywod? 

Mae grymuso economaidd i fenywod yn hanfodol oherwydd ei fod yn galluogi menywod i gael mwy o reolaeth dros eu harian sy’n cyfrannu at effaith gadarnhaol ar eu hiechyd a’u lles. Mae grymuso economaidd yn rhoi cyfle i fenywod wneud mwy o gyfraniadau at dwf a datblygiad economaidd. Yn olaf, mae grymuso economaidd yn bwysig gan ei fod yn rhoi mwy o rym i fenywod wneud penderfyniadau yn eu bywydau personol a phroffesiynol. Gall hyn yn ei dro arwain at fwy o hunan-barch, hyder a grymuso merched yn gyffredinol. 

Pam mae’n bwysig i fenywod fod yn weladwy ac yn weithgar yn y gofod menter gymdeithasol? 

Mae’n bwysig i fenywod fod yn weithgar yn y gofod menter gymdeithasol gan fod y gofod hwn nid yn unig yn darparu llwyfan i fenywod ffynnu, archwilio’u potensial a chyflawni eu hangerdd, ond mae’n rhoi lle i fenywod ysgogi effaith gymdeithasol ar achosion sy’n bwysig iddynt. 

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fenywod sy’n ystyried sefydlu busnes cymdeithasol? 

Os rydych yn ystyried sefydlu busnes cymdeithasol achos eich bod wedi gweld bwlch neu broblem yn eich cymuned, a bod gennych chi syniad unigryw ar sut i’w drwsio. GWYCH! Mae angen eich ar eich cymuned, a gallai’r byd yn gyffredinol elwa o’ch syniad. Peidiwch â bod ofn – mae yna lawer o gefnogaeth, ac efallai y byddwch yn newid bywyd (neu gannoedd o fywydau!) 

Pa mor bwysig yw grymuso economaidd i fenywod? 

Mae grymuso economaidd yn hanfodol i fenywod, yn enwedig pan ystyriwn fod rhyddhad economaidd menywod yn beth ddiweddar iawn yn ein hanes (ac yn dal i fod yn ddiffygiol mewn sawl rhan o’r byd heddiw). Mae menywod yn haeddu ymreolaeth, ac un o’r prif ddulliau a ddefnyddir i reoli menywod yw dileu hawliau economaidd. Ni allwn sefyll dros hyn, ac mae pob entrepreneur benywaidd yn y gofod busnes cymdeithasol yn dangos ein bod yn wybodus, yn benderfynol, yn alluog ac yn deilwng. 

Pam mae’n bwysig i fenywod fod yn weladwy ac yn weithgar yn y gofod menter gymdeithasol? 

Mae menywod yn bwerus – mae gennym fewnwelediadau a syniadau sy’n unigryw i’n profiadau, ond sydd hefyd wedi’u hadeiladu ar empathi a thosturi at eraill. Rydyn ni’n gwybod sut i ddyfalbarhau, fel mae cymaint ohonom wedi gorfod ei wneud mewn sawl agwedd ar ein bywydau. Pan fydd menywod yn cael eu gweld a’u clywed yn y maes menter gymdeithasol, mae’n golygu bod syniadau newydd yn cael eu profi a datrysiadau newydd yn cael eu canfod. Ac mae’n golygu bod cenedlaethau’r dyfodol yn edrych tuag atom ni fel arweinwyr, ac yn gweld bod menywod yn gallu newid pethau er gwell.

Alicia Stark – Cyfarwyddwr Choirs For Good

Mae Alicia Stark yn un o gyd-sylfaenwyr a chyfarwyddwyr Choirs For Good, busnes cymdeithasol dielw sy’n ceisio helpu pobl i deimlo’n dda a gwneud daioni trwy ganu mewn grŵp. Yn gantores côr brwd ar hyd ei hoes, ganed Alicia yng Nghanada a’i magu yn America, cyn ymfudo i Gymru yn 2009. Mae ganddi PhD mewn Cerddoriaeth Boblogaidd, ond mae wedi rhoi’r gorau i’r llyfrau ar gyfer chwifio ei breichiau o flaen ei dau gôr: Choirs for Good Y Fenni a CHoirs for Good Caerdydd. Ers 2020, mae Choirs For Good wedi bod yn helpu i wella lles ac iechyd meddwl gydag ymarferion canu wythnosol (yn rhithiol yn gyntaf, yna wyneb yn wyneb). Mae’r mudiad a’i 12 côr wedi codi miloedd o bunnoedd i elusennau lleol a chenedlaethol, ac wedi gwirfoddoli oriau di-ri i gefnogi achosion da yn eu cymunedau. Mae Alicia yn falch o fod wedi bod yn un o sylfaenwyr Choirs For Good, ochr yn ochr â thair menyw wych arall – ac un dyn pluog iawn!