Diwrnod Rhuban Gwyn: Ein Hymrwymiad i Newid y Stori i Fenywod a Merched

24 Tachwedd 2023
Y 25ain o Dachwedd yw’r Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Dileu Trais yn erbyn Menywod, pan fyddwn yn arsylwi Diwrnod y Rhuban Gwyn; diwrnod wedi’i neilltuo i godi ymwybyddiaeth o fynychder trais ar sail rhywedd, a sut mae dynion a bechgyn yn allweddol i’w ddileu. Nod y fenter fyd-eang hon yw grymuso menywod a merched i fyw eu bywydau heb gysgod aflonyddu, cam-drin a thrais.

Enillodd Cwmpas ein Hachrediad Rhuban Gwyn yn 2021, gan wneud yr addewid Rhuban Gwyn i beidio byth â defnyddio, esgusodi nac aros yn dawel am drais dynion yn erbyn menywod a merched. Mae gwaith hanfodol Rhuban Gwyn i roi terfyn ar drais dynion yn erbyn menywod a merched yn adlewyrchu ein gwerthoedd, yn enwedig gwerth cydweithredu. Mae angen i ni gymryd cyfrifoldeb a herio agweddau sy’n creu anghydraddoldeb i fenywod a merched yng Nghymru, ac ar draws y byd. Rydym yn falch o fod yn rhan o ymgyrch Rhuban Gwyn ar gyfer 2023 – Newid y Stori – ac rydym yn addo chwarae ein rhan.

Mae Cwmpas yn ymroddedig i helpu i adeiladu Cymru sy’n rhoi pobl a’r blaned yn gyntaf, a bydd rhoi diwedd ar drais ar sail rhywedd yn dod â ni’n nes at y nod hwn. Ar ôl cefnogi mentrau cymdeithasol fel Thrive Women’s Aid a Physical Empowerment CIC, sefydliadau sy’n cefnogi menywod a merched sydd wedi profi cam-drin a thrais, mae’n amlwg i ni fod gan fentrau cymdeithasol y pŵer i greu newid i fenywod a merched.

Mae Thrive Women’s Aid yn elusen sy’n cefnogi goroeswyr a dioddefwyr camdriniaeth, gan ddarparu lloches i fenywod, merched, a theuluoedd sydd mewn perygl uniongyrchol, a’u cefnogi i ailadeiladu eu bywydau yn rhydd rhag ofn a chamdriniaeth. Buom yn gweithio’n agos gyda nhw i sefydlu eu cangen fasnachu, sy’n darparu gwasanaeth glanhau ac arlwyo, ac sy’n parhau i dyfu, gyda’r elw yn galluogi Thrive Women’s Aid barhau i ddarparu eu gwasanaethau hanfodol.

Mae Physical Empowerment CIC yn cynnig hyfforddiant hunanamddiffyn emosiynol, corfforol a meddyliol, ac maent yn sefydliad sy’n gweithio gyda goroeswyr trawma corfforol, gan roi cyfle iddynt gysylltu â’u corfforoldeb a’u cryfder mewnol trwy hyfforddiant corfforol. Mae eu gwaith yn grymuso goroeswyr i ailintegreiddio mewn i’w gymdeithasau a rhoi cyfleoedd i bobl i fod y gorau y gallant. Eu nod yw hybu menywod a dynion i gydweithio i roi terfyn ar drais, ac i greu ymwybyddiaeth ehangach o’r defnydd o hunanamddiffyn fel arf adsefydlu trawma.

Mae Diwrnod Rhuban Gwyn yn gyfle i ni ddod at ein gilydd a newid y naratif sy’n ymwneud â thrais ar sail rhywedd. Mae’n alwad i weithredu i herio stereoteipiau niweidiol, hyrwyddo perthnasoedd iach, a meithrin parch a chydraddoldeb. Rydym ni fel sefydliad wedi ymrwymo i newid y naratif drwy godi ymwybyddiaeth a darparu hyfforddiant i alluogi a grymuso ein staff, penodi llysgenhadon gwirfoddol, fel fi, sydd wedi gwneud addewid y Rhuban Gwyn, a threfnu gweithgareddau codi arian i gefnogi gwaith hanfodol Rhuban Gwyn.

Fel cymdeithas, rhaid i ni fynd ati i herio’r agweddau a’r ymddygiadau sy’n parhau trais ar sail rhywedd. Mae addysg, ymwybyddiaeth, a sgyrsiau agored yn hanfodol i newid y stori i fenywod a merched. Rhaid i ni sefyll yn erbyn pob math o aflonyddu, cam-drin a thrais a gweithio tuag at ddyfodol lle gall pawb fyw heb ofn.

Ar ddiwrnod Rhuban Gwyn rydym yn adnewyddu ein hymrwymiad i helpu i greu byd lle gall pob menyw a merch fyw bywyd heb gysgod trais a gwahaniaethu.

Gyda’n gilydd, gall pob un ohonom wireddu’r weledigaeth hon.

 

– Glenn Bowen, Cyfarwyddwr Menter Cwmpas, a Llysgennad Rhuban Gwyn