Diogelwch ar-lein: Canllaw Digidol i Nadolig Diogel

19 Rhagfyr 2023

O deuwch ffyddloniaid ar daith trwy fyd hud y we dros yr ŵyl! Wrth i siopa ar-lein, cyfarchion Nadoligaidd ac addurniadau digidol gyrraedd eu hanterth, mae’n bryd i chi roi’ch siwmper Nadoligaidd rithwir amdanoch a sicrhau bod eich sled (neu liniadur) yn ddiogel rhag cythreuliaid y byd seiber. Dewch i ni ddatgelu awgrymiadau a ffeithiau llawen i gadw eich dathliadau digidol yn ddiogel a gorfoleddus!

  1. Cyfrineiriau Cryf

Eich amddiffyniad cyntaf rhag cythreuliaid digidol yw cyfrinair mor anodd ei ddatrys â rysáit cudd Pegwn y Gogledd ar gyfer pwdin Nadolig. Cymysgwch briflythrennau, llythrennau bach a rhifau, a thaenwch ambell nod arbennig yn y cymysgedd tra byddwch chi wrthi. Cofiwch nad yw enwau ceirw a blynyddoedd geni’n addas – byddwch yn fwy unigryw na phluen eiriau mewn storm eiriau! Rydym yn argymell eich bod yn dewis tri gair ar hap – byddai’n cymryd 16 cwadriliwn o flynyddoedd i ddatrys ‘PwdinEiraNadolig’. Ond peidiwch â defnyddio honno!

  1. Peidiwch â bod yn Gybydd: Diweddarwch eich Meddalwedd

Yn union fel y mae ellyllon Sion Corn yn gweithio’n ddiflino i greu teganau, mae datblygwyr meddalwedd yn trwsio bygiau ac yn gwella diogelwch yn gyson. Cadwch eich dyfeisiau a’ch rhaglenni’n gyfredol er mwyn elwa o’r patsys a’r amddiffynfeydd diweddaraf yn erbyn cythreuliaid seiber sy’n ceisio difetha hwyl yr ŵyl.

  1. Da neu Ddrwg? Gwiriwch Ddiogelwch Gwefannau

Cyn i chi ddechrau llenwi’ch basged siopa rithwir gydag anrhegion, gwiriwch fod y wefan ar y rhestr dda. Edrychwch am “https://” yn yr URL, symbol clo clap, a sêl ymddiried. Mae’r rhain yn nodi bod eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo’n ddiogel, gan sicrhau bod eich taith ar y sled ddigidol yn hwylus a diogel.

  1. Pwy sy’n dŵad dros y bryn? Byddwch yn effro i ymdrechion gwe-rwydo

Gochelwch rhag negeseuon e-bost sy’n cogio’u bod yn dod oddi wrth eich hoff siopau ar-lein neu gan y dyn ei hun. Osgowch glicio ar ddolenni amheus a pheidiwch fyth â rhannu gwybodaeth bersonol i ymateb i negeseuon e-bost digymell. Nid yw Sion Corn yn gofyn am fanylion eich cerdyn credyd drwy’r e-bost a dylai neb arall wneud ychwaith!

  1. Rhoi Anrhegion, nid Data: Byddwch yn Ofalus o’ch Preifatrwydd

Wrth greu cyfrif neu brynu rhywbeth, rhannwch y wybodaeth angenrheidiol yn unig. Po leiaf o friwsion byddwch chi’n eu gadael, po fwyaf llawen fydd eich profiad ar-lein. Gwiriwch osodiadau preifatrwydd ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd, oherwydd bydd Sion Corn yn gwybod pan fyddwch chi wedi bod yn gor-rannu.

  1. Dymuno Dilysu Dau Ffactor

Amddiffynnwch eich cyfrifon trwy haen ychwanegol dilysu dau ffactor (2FA). Bydd fel rhoi tinsel ar y goeden ddigidol – haen ychwanegol o liw sy’n gwneud popeth yn fwy diogel. Boed yn god trwy neges destun neu ap dilysu, gall 2FA gadw’r cythreuliaid draw.

  1. Cyfarchion yr ŵyl: Cadwch lygad ar hysbysiadau

Cadwch lygad allan am unrhyw weithgarwch anarferol yn eich cyfrifon. Os cewch chi hysbysiadau annisgwyl neu os gwelwch chi drafodion rhyfedd, carlamwch yn gynt na cheirw Sion Corn noswyl Nadolig. Rhowch wybod i’ch banc neu’r platfform rydych chi’n ei ddefnyddio am weithgarwch amheus ar unwaith a newidiwch eich cyfrineiriau ar unwaith.

  1. Di-wifr di-fai: Diogelwch eich Cysylltiad

Wrth i’r Tri Gŵr Doeth yn ymlwybro tuag at Fethlehem dref, mae’r gwŷr drwg digidol ar eu ffordd i feddiannu’ch rhwydwaith WiFi anniogel. Symudwch yn gynt na Sion Corn i lawr y simnai i’w ddiogelu! Newidiwch gyfrinair diofyn eich llwybrydd i rywbeth mwy diogel a harneisio hud amgryptio WPA3. Bydd yn gaer o gwmpas y gacen ddigidol.

  1. Helpwyr Bach Sion Corn: Defnyddiwch Apiau Dibynadwy

Wrth lawrlwytho apiau ar gyfer eich anghenion Nadoligaidd, cadwch at storfeydd ap dibynadwy. Darllenwch adolygiadau, gwiriwch y caniatâd a gwnewch yn siŵr bod yr ap gan ddatblygwyr dibynadwy. Nid yw Sion Corn yn caniatáu i unrhywun yn unig helpu danfon anrhegion, felly peidiwch ag ymddiried eich data i unrhyw hen ap.

  1. Taith Taliadau Diogel

Mae’n bryd agor y waled ddigidol a thaenu hwyl yr ŵyl. Defnyddiwch ddulliau talu diogel fel cardiau credyd neu blatfformau talu dibynadwy. Osgowch rannu eich manylion ariannol trwy’r e-bost neu wefannau anghyfarwydd. Mae’n well gan Sion Corn fod ei gwcis yn cael eu danfon yn ddiogel, felly hefyd eich taliadau.

Gyda’r rhoddion hael hyn, rydych chi’n barod i grwydro’r ffurfafen ddigidol yn ddiogel, gan gadw’r gwŷr drwg draw a sicrhau bod eich gŵyl yn orlawn o hwyl, chwerthin a danteithion digidol. Boed i’ch siwrnai siopa ar-lein fod yn ddiogel a’ch gwyliau’n llawn hud a lledrith Nadolig seiber-ddiogel!

Mae Hyder Digidol Sir Ddinbych yn cynnig amrywiaeth o sesiynau galw heibio, gweithdai a chyrsiau sgiliau hanfodol i helpu pobl yn Sir Ddinbych i ddysgu sut i ddefnyddio digidol i’w helpu i fanteisio ar y gwasanaethau y mae eu hangen arnynt yn eu bywyd bob dydd. Mae’r cyrsiau a gyflwynwyd yn ddiweddar wedi cynnwys sesiynau ar ddiogelwch ar-lein, siopa’n ddiogel ar-lein, hanes a hel atgofion, chwilio am swyddi, adnoddau iechyd a lles ar-lein, ymgyfarwyddo sylfaenol â llechen a chyfrifiadur, ac ymwybyddiaeth o’r cyfryngau cymdeithasol.

Rydym yn gweithio gyda thai cymdeithasol, yr awdurdod lleol, llyfrgelloedd, y trydydd sector ac unrhyw grwpiau sydd ag angen am gynhwysiant digidol. Rydym yn cyflwyno hyfforddiant mewn lleoliadau cymunedol a gallwn drefnu cyrsiau pwrpasol sy’n bodloni eich anghenion o ran cynhwysiant digidol.

I gael mwy o wybodaeth neu i gymryd rhan, mae croeso i chi gysylltu â ni. dcdenbighsire@cwmpas.coop

Ariennir Hyder Digidol Sir Ddinbych gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Dewch o hyd i Cwmpas ar y cyfryngau cymdeithasol:

X : @Cwmpas_Coop, Facebook: Cwmpas, LinkedIn: Cwmpas