Dathlu busnesau ledled Cymru am effaith gymdeithasol mewn seremoni wobrwyo flynyddol

11 Hydref 2022

Mae mentrau cymdeithasol ledled Cymru wedi ennill gwobrau mawr eu bri am wneud gwahaniaeth i fywydau a chymunedau dros y 12 mis diwethaf.

Roedd Gwobrau blynyddol Busnes Cymdeithasol Cymru 2022 yn nodi nawfed flwyddyn y seremoni, a welodd wobrau yn cael eu rhoi i naw menter gymdeithasol ac entrepreneuriaid cymdeithasol o bob cwr o’r wlad.

Roedd yr enillwyr yn y digwyddiad ddydd Llun yn cynnwys undeb credyd a lwyddodd i roi benthyg mwy o arian nag erioed i bobl yn ystod yr argyfwng costau byw, sefydliad sy’n adfer ac ailgylchu beiciau i annog pobl i deithio ar ddwy olwyn, a chymdeithas a achubodd unig dafarn cymuned rhag cau.

Mae’r gwobrau yn rhan o raglen Busnes Cymdeithasol Cymru a ddarperir gan Cwmpas, asiantaeth ddatblygu er newid economaidd a chymdeithasol, ac yn cael eu cyllido gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Banc Cymunedol Smart Money Cymru enillodd y wobr Technoleg er Budd, sef undeb credyd yng Nghaerffili a newidiodd i fusnes digidol yn gyntaf ac arweiniodd hyn at allu benthyg mwy o arian i bobl mewn angen yn ystod yr argyfwng costau byw presennol ynghyd â lleihau’r effaith ar yr amgylchedd.

Enillodd Groundwork Gogledd Cymru, sef elusen amgylcheddol yn Wrecsam sy’n cynnig cyfleoedd gwirfoddoli i bobl yn y Gogledd, y wobr Menter Gymdeithasol Amgylcheddol, ac enillodd y Prif Swyddog Gweithredol Karen Balmer y wobr Menywod mewn Menter Gymdeithasol am arolygu datblygiad y sefydliad i fod yn un o fentrau cymdeithasol mwyaf llwyddiannus y DU.

Enillodd y Fenter Effaith Gymunedol ym Mhen-y-bont ar Ogwr y wobr Meithrin Amrywiaeth, Cynhwysiant, Cydraddoldeb a Chyfiawnder am ei gwaith yn adfer safleoedd gwag a’u dychwelyd i’r farchnad tai tra’n cynnig cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant i bobl fregus.

Y sefydliad nid-er-elw Cardiff Cycle Workshop, sy’n adfer ac ailgylchu beiciau i annog pobl yng Nghaerdydd i deithio ar ddwy olwyn, gipiodd y wobr Tîm Menter Gymdeithasol y Flwyddyn ar ôl helpu i roi mwy na 3,000 o feiciau yn ôl ar y ffordd yn y 12 mis diwethaf.

Enillodd grŵp o fentrau cymdeithasol o Abertawe, Down to Earth, y tlws ar gyfer y Wobr Profi: Effaith Gymdeithasol am eu gwaith yn trawsnewid canolfannau cymunedol, canolfannau addysg a lleoliadau ledled Abertawe tra’n gweithio gyda chymunedau bregus ac ar y cyrion.

Mae Galeri Caernarfon Cyf, yr ymddiriedolaeth ddatblygu wrth wraidd canolfan gelfyddydau’r Galeri a phrosiect adfywio Cei Llechi gwerth £5.9 miliwn yng nghanol tref hanesyddol Caernarfon, wedi ennill y tlws Trawsnewid Cymuned a Lle.

Cipiodd Menter Ty’n Llan o Landwrog, a achubodd unig dafarn y gymuned rhag cau fel lleoliad cymunedol amlbwrpas, y wobr Y Fenter i’w Gwylio yn y seremoni.

Enillodd Emmaus South Wales y brif wobr ar gyfer Menter Gymdeithasol y Flwyddyn. Elusen ddigartrefedd wahanol yw hon, ac mae’n cynnal nifer o fusnesau cymdeithasol, gan gynnwys Lucie, Trên Tir Porthcawl. Trwy roi cyfleoedd â chymorth i bobl ddigartref weithio mewn rolau sy’n wynebu cwsmeriaid, mae Lucie yn herio stereoteipiau tra’n codi arian ar gyfer gwasanaethau elusennol Emmaus.

Meddai Glenn Bowen, Cyfarwyddwr Menter Cwmpas: “Mae mentrau cymdeithasol sy’n rhan greiddiol o’n cymunedau yn darparu llawer o gefnogaeth, gwasanaethau a swyddi mawr eu hangen.

“Mae gennym enghreifftiau rhagorol o fusnesau yn cyfrannu at leihau effaith newid hinsawdd ac yn cyrraedd aelodau newydd o’r gymuned drwy eu gwaith ym meysydd tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant. Llongyfarchiadau i’n holl enillwyr gwych.”

Mae categorïau Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru yn cael eu noddi gan Ecology Building Society, Legal and General, Creating Enterprise, Acuity Law, NatWest, Triodos, Choose 2 Reuse, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, BIC Innovation a Great Western Railway.