Datganiad gan Cwmpas – Tai Fforddiadwy Dan Arweiniad Y Gymuned

Darllenon ni erthygl gan Nation Cymru ar 23 Ebrill: Cynlluniau wedi’u gwrthod ar gyfer cymuned mewn steil ffermdy.
Mae’r erthygl yn manylu’r rhesymau a roddwyd gan Gyngor Abertawe am wrthod cais am dai dan arweiniad y gymuned yn South Close, Llandeilo Ferwallt. Fel arbenigwyr sy’n darparu cefnogaeth i lawer o grwpiau tai dan arweiniad y gymuned ledled Cymru, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Gŵyr, rydym am gywiro camddealltwriaeth a fynegwyd gan swyddogion cynllunio ac a adroddwyd yn yr erthygl Nation Cymru.
Mae’r erthygl yn dweud:
“Dywedodd y swyddogion ymhellach fod tai fforddiadwy yn cael eu croesawu ond nad oedd y cynnig a gyflwynwyd yn cwrdd â’r diffiniad perthnasol oherwydd nad oedd yr ymddiriedolaeth yn gysylltiedig ag unrhyw landlord cymdeithasol cofrestredig.”
Mae’r honiad bod ni all cynnig gwrdd â’r diffiniad ar gyfer tai fforddiadwy oni bai bod yr ymgeisydd yn gysylltiedig ag unrhyw landlord cymdeithasol cofrestredig yn anghywir.
Cafodd, Polisi Cynllunio Cymru, y fframwaith Cymreig y caiff pob penderfyniad cynllunio ei asesu yn ei erbyn, ei newid yn 2024, ac mae’n rhoi’r un statws i sefydliadau tai dan arweiniad y gymuned â chymdeithasau tai ac awdurdodau lleol yn eu rôl fel darparwyr tai fforddiadwy.
Mae’r ddeddfwriaeth berthnasol yn nodi:
“4.2.27 Mae tai fforddiadwy yn cynnwys tai cymdeithasol ar rent sy’n eiddo i awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a thai canolradd lle mae’r prisiau neu’r rhenti yn uwch na rhent tai cymdeithasol ond yn is na’r prisiau neu’r rhenti ar y farchnad agored. Gallai tai fforddiadwy gynnwys hefyd y tai sy’n eiddo i fudiadau tai cymunedol sy’n bodloni diffiniad Llywodraeth Cymru ohonynt, fel a nodir ym mharagraff 4.2.26 uchod.”
Rydym yn cydnabod bod Adran Gynllunio Cyngor Abertawe wedi manylu ar resymau pellach dros eu penderfyniad. Byddwn yn parhau i weithio gydag Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Gŵyr yn ystod y broses apelio.
Mae Cymru yng nghanol argyfwng tai.
Nid oes gennym ddigon o gartrefi fforddiadwy a chymdeithasol i gartrefu’r bobl sydd eu hangen. Un o symptomau’r argyfwng hwn yw bod pobl leol yn cael eu gorfodi i dalu rhenti anfforddiadwy am gartrefi o ansawdd gwael sy’n peryglu eu hiechyd a’u lles, neu’n gorfod symud i ffwrdd o’u cymunedau yn gyfan gwbl.
Yn nhermau cynllunio, mae tai fforddiadwy yn golygu cartrefi sydd ar gael i bobl na allant fforddio prisiau’r farchnad reolaidd. Mae hynny’n berthnasol nid yn unig pan fydd y cartref yn cael ei feddiannu gyntaf, ond hefyd i unrhyw un sy’n byw yno yn ddiweddarach – a elwir yn ‘fforddiadwy am byth’.
Mae rhaglen Cymunedau’n Creu Cartrefi Cwmpas ar hyn o bryd yn cefnogi hanner cant o grwpiau tai dan arweiniad y gymuned yng Nghymru.
Anfonwch unrhyw gwestiynau i co-op.housing@cwmpas.coop.