Cyllid Grant Bach Perthyn yn cael ei gyhoeddi yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Yn dilyn ymlaen o rownd gyntaf lwyddiannus o Gyllid Grantiau Bach Perthyn drwy Lywodraeth Cymru ar ddechrau 2023, a welodd bron i £240,000.00 o gyllid wedi’i sicrhau rhwng 22 o grwpiau cymunedol ar draws Gogledd-Orllewin a De-Orllewin Cymru i symud ymlaen a/neu ddatblygu eu prosiectau cymunedol.
Mae Perthyn yn gyffrous i weld y Gweinidog dros Addysg a’r Gymraeg, Jeremy Miles MS yn lansio’r ail rownd o Gynllun Grantiau Bach Perthyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar yr 8fed o Awst 2023.
Mae ceisiadau bellach ar agor, ac rydym yn gwahodd grwpiau cymunedol i wneud cais am gyllid o hyd at £12,500.00 i sefydlu neu gefnogi mentrau cydweithredol, mentrau cymdeithasol, a phrosiectau tai a arweinir gan y gymuned.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cymryd camau sylweddol i helpu i sicrhau y gellir rheoli niferoedd ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr yn effeithiol.
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles:
Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, gan gynnwys pob cymuned yng Nghymru. Rwy’n falch o weld y syniadau creadigol sydd wedi eu cynnig gan grwpiau cymunedol ledled y wlad. Bydd y grantiau hyn yn helpu i greu cyfleoedd, yn darparu tai fforddiadwy ac yn helpu i warchod y Gymraeg.
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles:
“Mae prosiectau bach yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr yn ein cymunedau ni. Ry’n ni eisoes yn gweld cymunedau ger maes yr Eisteddfod yn gweithio i gyflawni prosiectau arloesol. Rwy’n edrych ymlaen at weld llawer o greadigrwydd, dysgu am syniadau a chlywed am brofiadau pobl yr wythnos yma yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan.
“Ry’n ni wedi gweld llawer o syniadau creadigol sut mae cymunedau yn cefnogi’r Gymraeg ar lawr gwlad ac wedi gweld hefyd yr effaith y gall swm cymharol fach o arian ei chael, a’r gwahaniaeth mae hynny’n ei wneud. Dyna pam rwy’n falch o gyhoeddi bod cyfle arall i grwpiau cymunedol wneud cais am gefnogaeth. Os ydych chi’n grŵp cymunedol sy’n cynnal prosiect a fydd yn cefnogi’r Gymraeg yn eich cymuned ac yn barod i’r prosiect gymryd y cam nesaf, fe fyddwn i’n eich annog chi i wneud cais am grant bach Prosiect Perthyn.”
Cwmpas fydd yn gweinyddu’r grant ar ran Llywodraeth Cymru. Dywedodd Jocelle Lovell, Cyfarwyddwr Cymunedau Cynhwysol yn Cwmpas:
“Wedi llwyddiant cynllun peilot y grant, mae Cwmpas yn falch dros ben o gael gweinyddu ail gylch o geisiadau. Mae’r grantiau wedi gwneud y fath wahaniaeth mewn cymunedau Cymraeg sydd â dwysedd uchel o ail gartrefi a byddant yn gwneud hynny eto. Mae’r grantiau refeniw yn helpu i feithrin gallu lleol a chyflymu syniadau cymunedau am gwmnïau, mentrau cydweithredol a phrosiectau tai fforddiadwy newydd.”