Cyllid ar gyfer Grwpiau Cymunedol yng Nghymru: Gwybodaeth am GRANTIAU

24 Awst 2022

Gan Paul Stepczak

Mae arian yn brin, nid yn unig i unigolion ond hefyd i grwpiau cymunedol. Fel rhywun sydd wedi bod yn rhan o ysgrifennu ceisiadau am grantiau am y rhan fwyaf o fy ngyrfa, mae’n deg dweud bod nifer y grantiau wedi lleihau, ac mae’r gystadleuaeth am y grantiau hyn wedi cynyddu dros amser.

Mae hyn wedi bod yn duedd barhaus a dydy hi ddim yn ymddangos ei fod yn mynd i newid. Fodd bynnag, dydy un peth ddim wedi newid, pryd bynnag y byddaf yn siarad â grŵp cymunedol am sut maen nhw’n mynd i ariannu syniad, cyllid grant yw’r ymateb cyntaf (ac fel arfer yr unig un). Dydy hyn ddim yn iach.

Mae grantiau’n ffordd wych o ysgogi syniadau, ond dyna lle y dylai stopio yn y mwyafrif o achosion; dw i wedi gofyn i bobl “felly beth fyddwch chi’n ei wneud pan ddaw’r grant yna i ben” gormod o weithiau, dim ond i glywed yr ymateb “gawn ni grant arall”. Felly, beth sydd o’i le ar hynny?

Anaml iawn y bydd cyllidwr yn talu am yr un peth ddwywaith (wedi’r cyfan, dylech fod wedi cyflawni eich amcanion yn ystod y grant cyntaf), ac anaml iawn bydd cyllidwr newydd yn rhoi arian i chi er mwyn gorffen prosiect sydd wedi cael cyllideb yn barod (dydy’r naill na’r llall am fynd i mewn i ddadl ynglŷn â phwy all gymryd y clod am y prosiect, p’un a yw’n llwyddiannus ai peidio). Yn anffodus, mae’r siawns o gael y ‘grant arall’ hwnnw’n llawer mwy yn eich erbyn nag o’ch plaid.

Yng Nghymru, rydyn ni wedi bod yn gymharol ffodus gyda digonedd o grantiau dros y blynyddoedd, ond mae hyn wedi cael ei effaith andwyol ei hun drwy greu diwylliant sy’n dibynnu ar grantiau gan fygu datblygiad meddylfryd mwy mentrus. Drwy fod yn ddibynnol ar y grant rydych chi’n ddibynnol ar benderfyniad (ac weithiau anghenion) rhai eraill (swyddogion y llywodraeth, cyllidwyr ac ati) sydd y tu allan i’ch cylch rheoli chi. Wrth fod yn fentrus, rydych chi’n rheoli eich tynged eich hun, gallwch fod yn hyblyg i newid ac yn fwy cynaliadwy yn y tymor hir. Mae angen i grwpiau cymunedol fod yn fentrus yn gyntaf a defnyddio grantiau i gefnogi eu gweledigaeth, eu cenhadaeth, a’u hamcanion, heb newid i gyd-fynd ag anghenion unrhyw grant sydd ar gael. Felly pam mae hyn yn bwysig nawr?

Dydy llefydd eraill yn y DU ddim wedi cael eu bendithio gyda lefel y grantiau rydyn ni wedi eu cael yng Nghymru. Felly maen nhw wedi gorfod bod yn fwy mentrus… ac mae hynny eisoes yn cael effaith arnom ni yng Nghymru. Wrth i fwy o grantiau gael eu canoli i’r DU, bydd grwpiau cymunedol Cymreig yn cystadlu â’r grwpiau eraill hyn fydd â hanes o ddefnyddio grantiau i ychwanegu gwerth i wasanaeth (yn hytrach na bod yn ddibynnol arnynt). Mae’n debyg y bydd ganddyn nhw ddyluniad prosiect mwy effeithlon, a gwarant cadarnach y bydd eu prosiectau’n fwy cynaliadwy (gan y byddan nhw’n ofalus o wario’u harian eu hunain, yn hytrach nag arian rhywun arall, yn fwy doeth).

Felly, beth yw’r opsiynau o ran symud i ffwrdd o fod yn ddibynnol ar grantiau? Byddwn i’n awgrymu bod dau ddewis amlwg nad ydw i wedi gweld llawer ohonyn nhw yng Nghymru (maen nhw’n bodoli, ond dyw hyn ddim yn amlwg). Mae’r rhain yn blatfformau cynhyrchu incwm a rhoddion.

Cynhyrchu incwm i grwpiau cymunedol

Fel grŵp cymunedol, bydd gennych chi set benodol o gryfderau sy’n gwbl amhrisiadwy i rai sefydliadau, ond mae’n bosibl nad ydych chi’n sylweddoli hynny. Dim ond ar ôl i mi roi’r gorau i fod yn weithiwr datblygu cymunedol mewn cymuned fach am 10 mlynedd y sylweddolais i hyn. Gan fy mod wedi colli fy swydd (gan nad oedd fy mhrosiect wedi cael ei ail-ariannu) roeddwn i’n cael ceisiadau, ac yn cael fy nhalu am ddarparu technegau ymgysylltu cymunedol i gyrff y sector cyhoeddus, cynnal grwpiau ffocws ar gyfer elusennau a threfnu digwyddiadau ymgynghori cymunedol ar gyfer Llywodraeth Cymru. Pam? Am fod gen i 10 mlynedd o brofiad yn gweithio gydag aelodau’r cyhoedd a’m bod wedi hwyluso trafodaethau cymunedol di-ri… rhywbeth y mae pob grŵp cymunedol yn ei wneud o ddydd i ddydd ond rhywbeth nad yw’r sefydliadau hyn yn gallu ei wneud eu hunain. Mae digonedd o gyfleoedd i gefnogi rhagnodi cymdeithasol, ymgysylltu â’r gymuned ac ymgynghori ond mae’n rhaid i chi wybod lle mae’r cyfleoedd yn codi a/neu adael i bartïon a allai fod â diddordeb wybod eich bod yn darparu gwasanaeth o’r fath. Fy argymhellion yw:

  • Cofrestrwch ar www.gwerthwchigymru.llyw.cymru
  • Nodwch pa fath o gymorth sydd ei angen ar gyrff cyhoeddus a gwnewch gysylltiadau yn yr adrannau hynny
  • Mapiwch eich cryfderau a’ch galluoedd eich hun er mwyn canfod beth allwch chi ei gyflawni a hyrwyddwch yr hyn y gallwch chi ei gynnig.

Llwyfannau rhoddion

Dw i wir ddim yn meddwl ein bod ni’n codi digon o arian yng Nghymru, yn enwedig drwy ddefnyddio llwyfannau ar-lein. Yn ôl Charity Digital, dyblodd rhoddion ar-lein yn ystod y pandemig tra bo’r platfform “goDonate” yn adrodd (o’i ddata o gasglu £40m), bod rhoddion ar-lein wedi tyfu 115% mewn nifer a 97% mewn incwm: (https://charitydigital.org.uk/topics/topics/extent-of-online-giving-boom-revealed-8841).

Os ydych chi’n grŵp cymunedol ac nad ydych chi’n defnyddio platfform rhoddion ar-lein, yna mae’r ffigyrau yma’n rhywbeth sy’n anodd ei anwybyddu. Felly ble ydych chi’n dechrau? Mae Charity Digital yn rhoi awgrymiadau defnyddiol yma: https://charitydigital.org.uk/topics/topics/the-best-online-fundraising-platforms-for-charities-5324.

Ond, nid yw cofrestru ar gyfer platfform rhoddion yn golygu y bydd yr arian yn dod i mewn ar unwaith. Meddyliwch amdano fel gwefan – dydy pobl ddim yn ymweld â hi dim ond oherwydd bod gennych chi wefan, mae angen i chi ei hyrwyddo er mwyn cyfeirio pobl ati. Fy argymhellion yw:

  • Dewiswch eich llwyfan rhoddion yn ddoeth. Ydy’r llwyfan yn gweithio’n well gydag elusennau mwy neu grwpiau cymunedol bach? Oes rhaid i chi dalu tanysgrifiad ychwanegol neu ydy hynny wedi’i gynnwys yn y rhodd? Oes rhaid i chi dalu am y gweinyddu, neu wneud unrhyw weinyddu eich hun, neu a yw hynny’n dod o fewn y rhodd hefyd?
  • Peidiwch â jest gadael iddo eistedd ar eich gwefan, mae angen i chi ei hyrwyddo heb ofyn yn uniongyrchol am arian. Rhowch werth ar rodd fel bod y cyhoedd yn gallu gweld yn union ble bydd eu harian yn mynd- pa un o’r canlynol sy’n apelio fwyaf? A) “Rhowch yma”, neu B) “Rhowch £5 i fwydo 5 o bobl ddigartref am wythnos”.
  • Peidiwch byth â chyfyngu eich gweithgareddau godi arian i’ch cynulleidfa bresennol. Os ydym yn defnyddio’r enghraifft “£5 ar gyfer 5 person digartref’ uchod, beth am ofyn i noddwr corfforaethol gyfrannu rhodd? Bydd ganddyn nhw gymalau budd cymunedol mewn rhai contractau penodol. Bydd ganddyn nhw nodau cyfrifoldeb cymdeithasol, ac yn anaml iawn y byddan nhw’n troi eu cefn ar stori gadarnhaol yn y wasg. Eto, gydag un trafodiad syml o £500 (swm bach iawn i lawer o gorfforaethau), gallan nhw honni eu bod newydd gyfrannu at fwydo 500 o bobl digartref.
  • Defnyddiwch y cyfryngau cymdeithasol i ehangu’ch cynulleidfa. O brofiad, byddai’r rhan fwyaf o grwpiau cymunedol sydd â llwyfan rhoddion yn mynd yn syth i’w tudalen Facebook i hyrwyddo’u rhodd. Ond, mae problem yma 1) byddwch ond yn cyrraedd y bobl sy’n edrych, yn hoffi neu’n rhoi sylwadau ar eich tudalen neu bostiadau diweddar yn rheolaidd (h.y. rydych yn anelu at y rhai sydd eisoes o’ch plaid) , a 2) fel arfer, mae postiadau Facebook colli eu heffaith ar ôl 5 awr. Oni bai ei fod yn derbyn llawer o sylw’n gyflym, mae’n annhebygol y bydd llawer mwy yn ei weld. Felly, bydd angen i chi ddyfeisio rhywfaint o strategaethau marchnata digidol i gyrraedd cynulleidfaoedd gwahanol ar blatfformau gwahanol yn rheolaidd. Er enghraifft, rydych chi’n fwy tebygol o ddod o hyd i fusnesau corfforaethol ar LinkedIn a’r genhedlaeth iau ar TikTok. Mae angen i chi hefyd ystyried pa lwyfan yw’r gorau i gyrraedd eich cynulleidfa darged; Mae Facebook yn dda ar gyfer codi arian lleol oherwydd bod eich cyrhaeddiad wedi’i seilio ar eich cysylltiadau uniongyrchol a’u rhyngweithiadau â’ch tudalen, ond mae TikTok yn osgoi eich cysylltiadau uniongyrchol ac yn rhannu gyda chynulleidfa fyd-eang, yn seiliedig ar y pwnc neu’r diddordeb.
  • Dechreuwch ffilmio! “Rydyn ni’n cofio 95% o’r hyn rydyn ni’n ei weld ac yn ei glywed drwy fideo tra ein bod ond yn cofio 10% o’r hyn rydyn ni’n ei ddarllen” (Jon Mowat o Hurricane Media yn #BeMoreDigital 2022). Felly, bydd angen stoc o ddelweddau sy’n edrych yn broffesiynol a fideos byr (iawn) i hyrwyddo’ch achos (mae digonedd o apiau a gwefannau am ddim sy’n gallu helpu gyda hyn).

Gobeithio y bydd y syniadau hyn yn eich helpu i edrych mewn ffordd wahanol ar gynhyrchu incwm i’ch grŵp a dod yn llai dibynnol ar gyllid grant. Os hoffech unrhyw gyngor pellach am yr hyn sydd wedi’i grybwyll yma, mae croeso i chi gysylltu â mi, Paul Stepczak, paul.stepczak@cwmpas.coop

 

Paul Stepczak yw’r Ymgyghorydd Masnachol a Cheisiadau ar gyfer Cwmpas ac mae hefyd yn aelod o Dîm Gweithredol Newid. Mae Newid yn bartneriaeth i hyrwyddo arferion digidol da ar draws y trydydd sector yng Nghymru. Mae’n brosiect hyfforddi a chymorth a ddarperir gan CGGC, Cwmpas a ProMo-Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru.