Cyhoeddir rhestr fer Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2023

29 Awst 2023

Yn dilyn ymateb gwych i’r alwad am enwebiadau ar gyfer gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru eleni, rydym yn falch iawn o gyhoeddi’r rhestr fer.

Mae’r gwobrau yn rhan o raglen Busnes Cymdeithasol Cymru a ddarperir gan gonsortiwm o ddarparwyr sy’n cynnwys Cwmpas, Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru, Social Firms Wales, UnLtd a’r WCVA, ac fe’i hariennir gan Lywodraeth Cymru.

Mae Gwobrau blynyddol Busnes Cymdeithasol Cymru yn dathlu’r mentrau cymdeithasol ledled Cymru sy’n gweithio i wneud gwahaniaeth yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang. Dyma’r rhestr fer am Wobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2023;

 

Menter Gymdeithasol y Flwyddyn (Noddwyd gan Dŵr Cymru Welsh Water)

Câr-y-Môr

…busnes sy’n eiddo i’r gymuned sy’n defnyddio ffermio cefnfor adfywiol, sicrwydd bwyd, a chreu swyddi cynaliadwy i wella’r amgylchedd arfordirol, a gwella lles y gymuned leol. Mae’r cyfan dros gariad i’r Môr.

Galeri Caernarfon Cyf

…ymddiriedolaeth datblygu tref a sefydlwyd i fynd ar drywydd prosiectau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol er lles y gymuned yng Nghaernarfon a’r cyffiniau. Eu gweledigaeth yw bod unrhyw beth yn bosibl trwy feddwl yn greadigol a gweithredu cynaliadwy.

Partneriaeth Ogwen

…Fenter Gymdeithasol a sefydlwyd drwy gydweithio arloesol gan Gynghorau Cymuned Bethesda, Llanllechid a Llandygai, sy’n ymroddedig i greu budd cymunedol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol i’w hardal leol yn Nyffryn Ogwen.

Un i Wylio (Noddwyd gan Dŵr Cymru Welsh Water)

Menter y Glan

…cymdeithas budd cymunedol a ffurfiwyd i godi arian i brynu ei thafarn a’i bwyty lleol, gan achub calon pentref Pennal, a chreu hwb i gryfhau’r gymuned.

Signposted Cymru

…ymyriad cychwynnol ac uniongyrchol gydag ataliaeth gynnar i unigolion sy’n cael trafferth
ac angen cefnogaeth gyda materion iechyd meddwl a lles. Mae eu cefnogaeth yn ymatebol a
wedi’i deilwra ar gyfer unigolion sy’n ymdrechu am ddyfodol mwy disglair.

The Bike Lock

…menter gymdeithasol sydd wedi ymrwymo i wneud Caerdydd (a thu hwnt) yn ddinas fwy egnïol, iachach, a hapusach. Eu cenhadaeth yw chwalu’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag teithio’n llesol, trwy ddarparu mannau parcio diogel i dros 50 o feiciau, gweithredu caffi sy’n gwerthu cynnyrch lleol, cynaliadwy a moesegol, a gweithredu man cymunedol ar gyfer gweithio a digwyddiadau.

Meithrin Amrywiaeth, Cynhwysiant, Tegwch, a Chyfiawnder (Noddwyd gan The Co-op)

Inside Out Wales

…cwmni buddiant cymunedol sy’n cynnig cymorth ac arweiniad i bobl ag euogfarnau sy’n dymuno sefydlu hunangyflogaeth, cael mynediad i addysg bellach neu uwch yn y gymuned, neu ddechrau cyflogaeth.

NeuDICE CIC

…yw’r Gymuned Niwrogyfeiriol a Chynhwysol o Entrepreneuriaid, ymateb effeithiol, unigryw i’r anghyfartaledd mae pobl niwroddargyfeiriol yn profi. Mae eu gwasanaeth yn cynnwys hyfforddi a mentora ar gyfer busnesau sy’n cael eu harwain gan bobl niwroddargyfeiriol, a hyfforddiant ar gyfer busnesau prif ffrwd a sefydliadau academaidd i feithrin eu niwrogynwysoldeb.

Outside Lives

…mudiad llawr gwlad a arweinir gan wirfoddolwyr, sy’n gweithredu fel cyfrwng i rymuso pobl leol i rannu eu syniadau a’u harfogi gyda’r sgiliau a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i’w gwireddu.

Hyrwyddwr Menywod

Hannah Pugh, Holistic Hoarding

Ymunodd Hannah â Holistic Hoarding yn 2022 fel Gweithiwr Cymorth Therapiwtig. O fewn 6 mis cafodd ddyrchafiad i Gydlynydd Prosiect. Wnaeth cydweithwyr Hannah ei enwebu am y wobr yma am ei bod yn cymryd pob her yn ei cham, ac yn amgylchynu pawb y mae’n cwrdd gyda chariad, caredigrwydd a gwir dosturi.

Eleanor Shaw, People Speak Up

Eleanor yw Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Artistig a Busnes People Speak Up (PSU). Ar ôl amser yn gweithio yn y maes addysg am sawl flwyddyn, teimlai Eleanor yr alwad i wneud gwahaniaeth mwy dylanwadol. Ar ôl  gadael ei rôl arweiniol mewn Addysg Bellach, cymerodd amser i ffwrdd i deithio i ddod o hyd i iachâd a phwrpas. Daeth Eleanor o hyd i hynny trwy adrodd straeon.

Lucy Powell, Outside Lives Ltd

Roedd Lucy, sylfaenydd Outside Lives, yn cydnabod bod ei hymdrechion fel Gweithiwr Cymdeithasol wedi’i chyfyngu gan ffactorau allanol. Arweiniodd hyn at ddatblygu model lle’r oedd pobl yn cael eu cydnabod gan eu cryfderau a’u sgiliau, heb eu cyfyngu gan ddisgrifiad o’u hanabledd neu eu statws ariannol.

Menter Cymdeithasol yn y Gymuned (Noddwyd gan Legal and General)

Câr-y-Môr

…gymdeithas budd cymunedol sy’n eiddo cyfartal i’w holl aelodau, ac sydd wedi ymrwymo i gael effaith gadarnhaol ar arfordir Cymru a’r gymuned leol.

Fforwm Arfordirol Sir Benfro

…Gwmni Buddiant Cymunedol arobryn sy’n ymroddedig i warchod a chynnal arfordiroedd a chefnforoedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Eu cenhadaeth yw ysbrydoli, cydweithio a darparu atebion ar gyfer cymunedau arfordirol cynaliadwy.

With Music in Mind

…cwmni sy’n anelu at wella lles a lleihau arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd i bobl 50+ oed drwy redeg canu, ymarfer corff ysgafn, a grwpiau cymdeithasol yn y gymuned. Ar hyn o bryd maent yn rhedeg chwe grŵp wythnosol mewn pedwar lleoliad ym Mro Morgannwg, mae’r grwpiau yn cynnwys canu neu ymarfer corff ysgafn, gyda lluniaeth ac awr o weithgaredd cymdeithasol strwythuredig i ddilyn.

Arloesedd y Flwyddyn gan Menter Gymdeithasol (Noddwyd gan Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant)

Câr-y-Môr

…fferm wymon dan berchnogaeth gymunedol yn Sir Benfro, sy’n goruchwylio gweithrediadau purfa gwymon, gan greu dwysfwyd bio-symbylyddion a fydd yn gwella iechyd y pridd drwy leihau’r angen am wrtaith synthetig.

Creu Menter

…is-gwmni i Cartrefi Conwy, sydd yn darparu ystod o wasanaethau contractio a datblygu i gleientiaid ar draws y sector cyhoeddus a phreifat. Mae cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys adeiladu cartrefi ardystiedig Passivhaus sy’n cynnig y gorau o ran effeithlonrwydd ynni ac allyriadau carbon isel, gan gynnig manteision iechyd ac ariannol sylweddol i ddeiliaid.

SimpLee Swim Ltd

…yn darparu gwersi nofio arbenigol i rai ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau. Mae dod o hyd i ysgol nofio i blentyn ag anghenion dysgu ychwanegol neu anabledd bron yn amhosibl. Mae SimpLee Swim ar genhadaeth i newid hynny.

Seremoni wobrwyo

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo gyda’r nos yng Nghaerdydd ar y 18fed o Hydref yn y Senedd.

Archebwch eich tocyn

Bydd enillwyr gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru yng Ngwobrau cenedlaethol Menter Gymdeithasol y DU.

Mae gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2023 yn cael eu cefnogi’n falch gan ein noddwyr:

Prif noddwr: Dŵr Cymru

Noddwyr categori: Legal and General, The Co-op, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Mae’n gyfnod cyffrous wrth i ni symud ymlaen i’r cam beirniadu terfynol lle byddwn yn dewis enillwyr cyffredinol y categorïau. I gael rhagor o wybodaeth am wobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2023 e-bostiwch awards@cwmpas.coop.