Cyhoeddi’r rheiny sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2025

1 Medi 2025

Denodd chwe wythnos o gyhoeddusrwydd a phlatfform ar-lein newydd i’r gwobrau 101 o gynigion ar gyfer Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2025, sef nifer ddigynsail.  

Meddai Cyfarwyddwr Menter Cwmpas, Glenn Bowen: 

“Mae ansawdd a nifer y cynigion ar gyfer y Gwobrau eleni yn dangos dyfnder, ehangder ac amrywiaeth y sector mentrau cymdeithasol yng Nghymru, felly rwy’n optimistaidd ac yn gyffrous am ddyfodol ein cymunedau.” 

Mae’n bleser gennym gyflwyno’r rhestr lawn o’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol eleni.  

Categori 1, Gwobr yr Un i’w Wylio – mae hwn i fusnesau newydd arloesol sy’n gwneud eu marc yn eu dwy flynedd gyntaf. 

Mae Our Voice Our Journey o Gaerffili yn cefnogi pobl ifanc 11-25 oed, yn enwedig y rheiny sy’n delio â thrais, anghydraddoldeb neu ymyleiddio. “Yng nghwmni buddiant cymunedol Our Voice Our Journey, dydyn ni ddim yn siarad ar ran pobl ifanc – rydyn ni’n sefyll wrth eu hymyl.”  

Dywed Cegin y Bobl, o Lanarthne, Sir Gaerfyrddin: “Credwn fod bwyd yn ganolog i iechyd, lles, cynaliadwyedd amgylcheddol a chysylltiad cymunedol. Rydyn ni’n rhoi blaenoriaeth i ymgysylltiad â phlant a theuluoedd a ymyleiddiwyd, ac yn cefnogi defnyddwyr banciau bwyd, oedolion sydd wedi’u hynysu a chymunedau gwledig.”  

Meddai Greenspace SOS, sydd wedi’i leoli yng Nghoety, Pen-y-bont ar Ogwr: “Rydyn ni’n darparu gwasanaethau achub a gwella’r ardd yn rhad ac am ddim i deuluoedd a phobl agored i niwed, gan greu ardaloedd diogel, croesawgar sy’n cefnogi lles ac sydd wir yn gwneud gwahaniaeth i fywyd pobl.”  

Mae Impact Wellbeing Solutions Ltd o Bort Talbot yn cyflwyno gweithdai mewn ysgolion sy’n canolbwyntio ar ddatrys problemau ac adeiladu tîm, gan gryfhau cysylltiadau a grymuso unigolion i ffynnu fel rhan o gymuned wydn. “Rydyn ni yma i helpu pobl ddatgelu eu cryfderau a’u gwerthoedd, a symud tuag at newid cadarnhaol.”  

Mae Categori 2, Arloesiad y Flwyddyn mewn Menter Gymdeithasol, a noddir gan Atkins Realis, i fusnesau sydd wedi dod â rhywbeth newydd, ffres a chyffrous i’r farchnad, gyda’r nod o fynd i’r afael â materion cymdeithasol neu amgylcheddol. 

Mae Holistic Hoarding o Gaerdydd, sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, yn mynd i’r afael â’r bwlch critigol mewn gwasanaethau cymorth i unigolion sy’n ymrafael ag ymddygiad celcio, yn enwedig pobl sy’n wynebu cael eu troi allan ac ynysu cymdeithasol oherwydd problemau iechyd meddwl cymhleth. “Mae ein cefnogaeth yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau fel gwneud penderfyniadau a datrys problemau, a chreu gofod byw mwy diogel a hwylus.”  

Mae Mothers Matter, yn Nhonypandy, wedi cefnogi dros 3000 o fenywod, dynion a’u teuluoedd, o genhedlu i 5 oed, â gofal sy’n ystyriol o drawma ers 2020. “Rydyn ni’n darparu gwasanaethau cyfannol sy’n pontio’r bwlch rhwng gofal clinigol a chymorth cymunedol. Rydyn ni’n herio’r stigma ac yn sicrhau nad yw’r un rhiant na theulu’n cael eu gadael i straffaglu ar eu pen eu hunain.” 

Fe wnaeth Tanio, sef elusen celfyddydau cymunedol, ddatblygu prosiect Connecting Carers, gan gynnig gweithdai wythnosol ar les i ofalwyr di-dâl ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. “Fe wnaeth y gweithdai helpu i leihau unigrwydd ac ynysu, a chreu cyfle i ofalwyr di-dâl rannu teimladau a bod yn eiriolwyr eu hanghenion eu hunain.” 

Mae Categori 3, Profwch Hi: Gwobr Effaith Gymdeithasol, i fentrau cymdeithasol a all ddangos eu heffaith gymdeithasol trwy ddata, storïau a deilliannau clir yn gysylltiedig â’u cenhadaeth.  

Adeiladwyd Prosiect Baxter, sy’n rhan o Therapeutic Activities Group CIC, ar y syniad mai ymddiriedaeth a mwynhad yw’r porth at newid. “Mae ein model yn paru ymarferwyr â chŵn i ddarparu sesiynau ystyriol o drawma mewn ysgolion. Maen nhw’n gynnes ac yn llawn hwyl. Pan fydd plentyn yn teimlo’n ddiogel a’i fod yn cael ei gydnabod, rydyn ni’n dechrau mynd i’r afael â phroblemau sylfaenol, yn araf bach. Mae’n waith sy’n gofyn am amynedd, ond mae’n effeithiol.”  

Mae Elite Clothing Solutions (ECS) ym Mhontyclun yn gweithgynhyrchu a brandio dillad gwaith o safon uchel. “Mae dros 45% o’n gweithlu yn anabl neu o dan anfantais. Rydyn ni’n darparu hyfforddiant strwythuredig, cyflogaeth â thâl, a gweithle a luniwyd i gefnogi twf personol a phroffesiynol. Rydyn ni’n falch o fod yn gwau cynaliadwyedd, cyfle a balchder yn ôl i ffabrig diwydiant Cymru.”  

Mae Down to Earth, sydd wedi’i leoli yn Abertawe, yn mynd i’r afael â rhai o heriau amgylcheddol a chymdeithasol mwyaf ein hoes – ar yr un pryd – trwy gyd-ddylunio a chyd-greu cartrefi, ysgolion ac ysbytai gan ddefnyddio dyluniadau a deunyddiau o fyd natur yn unig. “Dros y 12 mis diwethaf, rydyn ni wedi gweithio gyda thros 1800 o bobl o gefndiroedd sydd mewn perygl, ac ar y cyrion, i greu newidiadau rhyfeddol yn eu bywyd, ac yn y gymuned o’u cwmpas. Mae’r effaith yn weddnewidiol.”   

Mae Role Play Lane ym Mhontypridd yn cynnig sesiynau chwarae rôl, partïon pen-blwydd, teithiau ysgol, mannau hurio cymunedol a gofod caffi croesawgar i deuluoedd, a’r cyfan yn gynhwysol a fforddiadwy. “Mae ein gwaith yn mynd y tu hwnt i chwarae. Rydyn ni’n lle diogel, dibynadwy lle mae pobl yn cysylltu, yn dysgu ac yn ffynnu. Yn Role Play Lane mae pobl yn gwneud ffrindiau, mae lles yn gwella, mae hyder yn tyfu ac mae’r dyfodol yn newid.”  

Mae Categori 4, Menter Gymdeithasol Amgylcheddol y Flwyddyn, yn dathlu busnesau sy’n mynd i’r afael â materion amgylcheddol fel cenhadaeth graidd. 

Mae Groundwork Gogledd Cymru yn hybu lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol ac mae’n trawsnewid bywyd mewn cymunedau dan anfantais trwy amrywiaeth o raglenni ar draws gogledd Cymru sy’n canolbwyntio ar yr awyr agored a gweithgarwch ymarferol. “Rydyn ni’n cynnwys cymunedau mewn amddiffyn yr amgylchedd naturiol ac yn cynorthwyo pobl i ailddefnyddio / ailgylchu / trwsio mwy o eitemau’r cartref.”  

Mae Datblygiadau Egni Gwledig (DEG), o Gaernarfon, yn gwbl ymrwymedig i faterion amgylcheddol a chyfiawnder cymdeithasol. “Rydyn ni wedi cefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy mewn cymunedau lleol, y disgwylir iddynt gynhyrchu digon o drydan i bweru 585 o gartrefi; hefyd, rydyn ni’n cynorthwyo cymunedau i ddefnyddio ynni yn fwy effeithlon, lleihau’r ddibyniaeth ar danwyddau ffosil a lleihau’r defnydd ar ynni a chostau ynni. Am bob £1 sy’n cael ei buddsoddi yn DEG, mae £3.58 o werth cymdeithasol yn cael ei gynhyrchu.” 

Mae Groundwork Wales yn y Coed-duon yn gweithio ar draws rai o’r cymunedau mwyaf difreintiedig yn ne Cymru i leihau tlodi a diogelu amgylcheddau lleol. “Rydyn ni’n hybu dysgu, cyflogadwyedd, iechyd a lles, yn cynorthwyo cymunedau i ailddylunio a defnyddio mannau agored sydd wedi cael eu hesgeuluso, ac atal gwastraff rhag mynd i safleoedd tirlenwi trwy ein siop ailddefnydd.”   

Mae Categori 5, Menter Gymdeithasol sy’n Meithrin Amrywiaeth, Cynhwysiant, Tegwch a Chyfiawnder, a noddir gan y Co-op, i fusnesau sy’n hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb yn weithgar. 

Sefydlwyd More Than Flags and Rainbows (MTFAR) o Gaerdydd gan gyn-ddirprwy bennaeth ysgol oedd wedi wynebu bwlio homoffobig fel disgybl ac, yn ddiweddarach, fel athro. “Rydyn ni wedi tyfu’n sefydliad cenedlaethol sy’n gweithio i wneud byd addysg Cymru’n well, yn decach ac yn fwy cynhwysol, i fynd i’r afael â bwlio ac i gyffredinoli amrywiaeth ar draws y cwricwlwm. Rydyn ni wedi gweithio gyda thros 4,000 o addysgwyr a phobl ifanc ers ein lansio yn 2024.” 

Ym mis Hydref 2013, cafodd cyn Gyfrifydd Siartredig a sylfaenydd The Tax Academy, yn Sir Ddinbych, ei garcharu am bedwar mis, ac mae bellach yn darparu cymorth treth ac addysg ar dreth i garcharorion yn holl garchardai Cymru. “Rydyn ni wedi delio â thros 8,000 o achosion treth mewn 10 mlynedd. Rydyn ni am helpu carcharorion i gael trefn ar eu materion treth, fel y gallant ailintegreiddio i gymdeithasol a chael gwaith adeg eu rhyddhau, heb faich dyledion treth arnynt.”  

Mae Assadaqaat Community Finance (ACF) yng Nghaerdydd yn darparu cyllid di-log, cymorth busnes pwrpasol, hyfforddiant a mentoriaeth i bobl sydd, yn draddodiadol, wedi’u cau allan o gyllid prif ffrwd. “Ni ddylai cyllid fyth fod yn rhwystr rhag cyfle. Ein cenhadaeth yw grymuso pobl i wireddu eu potensial, torri cylchoedd cau allan, a chreu economi tecach, mwy gwydn.” 

Mae mentrau cymdeithasol yn fwy tebygol o lawer o gael eu rhedeg a’u harwain gan fenywod na busnesau traddodiadol, a nod Categori 6, Hyrwyddwr Menywod y Flwyddyn mewn Menter Gymdeithasol, yw dathlu arweinyddiaeth, eiriolaeth ac effaith benywaidd. 

Helen Davies yw sylfaenydd y Sunflower Lounge yng Nghastell-nedd, sy’n meithrin pobl ifanc sydd wedi cael profiad o fod mewn gofal, ymadawyr gofal a phobl ifanc sydd wedi ymddieithrio rhag eu teuluoedd. “Mae’r ddealltwriaeth gywir a’r cymorth unigryw yn aml ar goll i bobl ifanc sydd wedi cael profiad o fod mewn gofal. Mae’r Sunflower Lounge wedi’i adeiladu ar sail eu hanghenion nhw. Os ydych chi’n rhan o’r llwyth, dydych chi byth ar eich pen eich hun.” 

Hannah Evans yw cyfarwyddwr Qualia Law CIC, sy’n arbenigo mewn materion eiddo ac ariannol o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005, gan gefnogi pobl heb alluedd meddyliol. “Fe wnaethom sefydlu fel math newydd o wasanaeth cyfreithiol i’r bobl fwyaf bregus. Mae ein gwaith yn atal camdriniaeth ariannol yn uniongyrchol, mae gwella iechyd a lles ac mae’n amddiffyn annibyniaeth.” 

Mae Kelly Farr yn arwain y Female Veterans’ Alliance, sy’n darparu seibiannau lles preswyl a gweithdai i dros 200 o fenywod sydd wedi gwasanaethu yn Lluoedd Arfog y DU, gan adlewyrchu ymrwymiad Kelly i yrru newid ar draws y sector a throi rhwystrau yn weithredu. “Mae’r mannau hyn wedi mynd i’r afael â materion hollbwysig, fel trawma rhywiol milwrol, colli hunaniaeth, iechyd meddwl ac ynysu, gan gynnig iachâd, grymuso, cysylltiad ac eiriolaeth.”  

Mae Categori 7, Gwobr Menter Gymdeithasol yn y Gymuned, a noddir gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, i fentrau sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn mewn cymunedau lleol, sy’n cael effaith leol sylweddol. 

Mae’r Fern Partnership wedi’i gwreiddio’n ddwfn yn y gred bod pob plentyn, pob teulu a phob cymuned yn haeddu’r cyfle i ffynnu. “Rydyn ni’n rhedeg chwe chyfleuster gofal plant Little Ferns, wedi’u lleoli yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cwm Rhondda a Chwm Cynon, sy’n cynnig gofod diogel a meithringar lle mae hyder yn ffynnu. Mae ein gofal plant hefyd yn cynorthwyo rhieni, gan eu helpu i ddychwelyd i’r gwaith, i hyfforddiant neu i addysg, gan fod yn dawel eu meddwl bod eu plant mewn dwylo rhagorol.”  

Mae Menter y Plu yn rhedeg tafarn bentref hanesyddol Y Plu yn Llanystumdwy, Gwynedd, gan gyfuno treftadaeth, bywyd diwylliannol a gwydnwch economaidd i wasanaethu’r gymuned leol. “A hithau’n fenter gymdeithasol Gymraeg, ym mherchnogaeth y gymuned, mae Menter y Plu yn cyfuno treftadaeth, bywyd diwylliannol a gwydnwch economaidd i wasanaethu’r gymuned leol.”  

Mae Choirs For Good yn rhedeg 12 o gorau cymunedol ar draws Cymru sy’n gwella lles meddyliol a chorfforol ac sy’n hybu dysgu gydol oes a chysylltiadau trwy bŵer canu torfol. “Mae canu’n weithred bwrpasol o ddaioni cymdeithasol, gan helpu pobl i deimlo’n dda, gwneud da, a chynnal y lles hwnnw er da. Rydyn ni’n gweithio ar y cyd â sefydliadau eraill i gynhyrchu effaith gymdeithasol, ddiwylliannol, amgylcheddol ac economaidd gadarnhaol.” 

Mae Oriel Elysium Gallery yn cynnal rhaglen o weithdai am ddim i deuluoedd ar incwm isel a chymunedol wedi’u hymyleiddio’n ddiwylliannol yn Abertawe, gan ddenu dros 25,000 o ymwelwyr y flwyddyn. “Rydyn ni’n sefydliad sy’n cael ei arwain gan niwrowahaniaeth ac mae ein gwreiddiau mewn pobl, lle a diben, gan ddarparu gweithgareddau a chyfleoedd i unigolion awtistig a niwrowahanol archwilio, creu a chydweithredu i adrodd eu stori eu hunain a dysgu sgiliau newydd.”  

Mae Categori 8, Menter Gymdeithasol Cymru y Flwyddyn, a noddir gan Drafnidiaeth Cymru, yn dathlu’r mentrau cymdeithasol uchaf eu perfformiad yn 2025 sy’n arddangos twf cadarn, cynaliadwyedd, effaith gymdeithasol ac arweinyddiaeth yn eu maes. 

Mae Platfform wedi cynnal gwasanaethau iechyd meddwl a chymunedol ers dros 35 mlynedd ac mae ganddo bortffolio o 140 prosiect a mwy, ar draws de Cymru yn bennaf. “Rydyn ni’n dod o hyd i ffyrdd o sefydlogi amgylchiadau pobl a meithrin gobaith at y dyfodol trwy ymyriadau pwrpasol, wedi’u cyd-greu, sy’n cael eu harwain gan yr hyn y mae ei eisiau a’i angen ar bobl a sefydliadau. Rydyn ni’n cyfrif am rychwant oes, fel bod pawb yn teimlo’u bod yn gallu perthyn a ffynnu.”  

Mae GISDA, a sefydlwyd ym 1985, yn darparu cymorth a llety teilwredig, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, i bobl ifanc bregus a digartref yng Ngwynedd. “Mae cyrraedd pob unigolyn mewn angen yn flaenoriaeth o hyd. Mae ein dull therapiwtig yn cael ei arwain gan bobl ifanc, i bobl ifanc, ac mae’n amlygu pwysigrwydd manteisio ar fannau gwyrdd a gwneud y mwyaf o’r celfyddydau mewn ffurfiau amrywiol.”  

Mae Down to Earth a’r Fern Partnership hefyd wedi cyrraedd y rownd derfynol yng nghategori Menter Gymdeithasol y Flwyddyn. 

Aeth Glenn Bowen, Cyfarwyddwr Menter Cwmpas ymlaen i ddweud: 

“Mae’r criw rhagorol hwn sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn dystiolaeth bod mentrau cymdeithasol ar draws Cymru yn cadw’r economi gylchol i symud lle y dylai, sef yn agos at adref, ac ar yr un pryd yn creu swyddi, codi incwm proffidiol a gyrru masnach o’r gwaelod i fyny ar draws rhwydwaith o gyflenwyr, prynwyr, partneriaid a chwsmeriaid lleol. 

“Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru yw’r amser perffaith i gofleidio a hyrwyddo’r busnesau blaengar hyn, sy’n datrys problemau ac sy’n ganolog i’n cymunedau. Gallai unrhyw un ohonynt ennill. Edrychaf ymlaen at eu cefnogi nhw i gyd yn y seremoni Wobrwyo.” 

Cynhelir Cynhadledd a Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru yn Neuadd y Dref Maesteg ar 9 Hydref, dan arweiniad cyn-gyflwynydd newydd y BBC, Sian Lloyd, a fydd yn cyhoeddi’r enillwyr. 

Cofrestrwch i sicrhau eich tocynnau ar gyfer Cynhadledd a Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru yma