Cyhoeddi Prif Weithredwr newydd Cwmpas

16 Mawrth 2023

Bethan Webber fydd Prif Weithredwr newydd Cwmpas. Bydd yn ymgymryd â’r rôl ddechrau Mai 2023.

Mae Cwmpas yn asiantaeth ddatblygu sy’n gweithio er newid cadarnhaol, yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig. Mae’n gwmni cydweithredol, â’i ffocws ar adeiladu economi werddach, decach a chymdeithas fwy cyfartal, lle y daw pobl a’r blaned yn gyntaf.

Mae Bethan yn ymuno â Cwmpas ar ôl pedair blynedd fel Prif Weithredwr Home-Start Cymru. A hithau’n eiriolwr angerddol dros gyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb a grym cymuned, daw Bethan â phrofiad o Home-Start, y gwasanaeth sifil a nifer o rolau ymddiriedolwr. Yn sgil gweithio i lywodraeth y DU a llywodraeth Cymru, ac arwain ar amrywiaeth o feysydd polisi o’r newid yn yr hinsawdd i’r blynyddoedd cynnar, mae Bethan hefyd wedi cyfrannu at ymchwil i faterion sy’n cynnwys gwydnwch cymunedol a thangynrychioliaeth ymhlith pobl sy’n ymwneud â gwleidyddiaeth.

Mae Bethan, sydd bellach yn byw yn y de, yn Gymraes Gymraeg a fagwyd yng nghymuned llechi’r gogledd. Y tu hwnt i’r gwaith, mae’n fam i dri o blant ac mae’n mwynhau bod tu allan, cerdded a theithio.

Meddai Bethan Webber:

“Rwy’n grediniwr mawr yng ngrym cysylltiad dynol fel llwybr at lesiant. Cymunedau sy’n dal llawer o’r atebion i’r heriau rydym ni’n eu hwynebu ac edrychaf ymlaen at ymuno â Cwmpas a datblygu’r agenda uchelgeisiol ar gyfer newid a fydd yn cefnogi economi werddach, decach i Gymru.”