Cwmpas – yr enw newydd ar Ganolfan Cydweithredol Cymru

26 Ebrill 2022

Cyhoeddodd Canolfan Cydweithredol Cymru heddiw ei bod wedi newid ei henw i Cwmpas.

Wedi’i ffurfio ym 1982 gan TUC Cymru, mae’r sefydliad wedi ymsefydlu ei hun fel asiantaeth ddatblygu fwyaf y DU ar gyfer cwmnïau cydweithredol, mentrau cymdeithasol a busnesau sy’n eiddo i weithwyr, gyda hanes cadarn o gyd-ddarparu prosiectau gwerth miliynau o bunnoedd sy’n adeiladu economi decach ac yn hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol a digidol. Mae’r enw newydd yn arwydd o bennod nesaf yr asiantaeth ddatblygu sy’n gweithio dros newid economaidd a chymdeithasol yng Nghymru ac mewn rhannau eraill o’r DU. Y bwriad yw adlewyrchu rôl y sefydliad o ran helpu pobl a chymunedau i osod llwybr at ddyfodol gwell.

Heddiw (dydd Mawrth 26 Ebrill) cyhoeddodd Prif Weithredwr Cwmpas, Derek Walker, y datganiad canlynol:

“Mae’n bryd mynd ar drywydd enw a brand newydd ar gyfer ein sefydliad er mwyn adlewyrchu pwy ydym ni heddiw ac i le rydym yn anelu. Ers deugain mlynedd, mae Canolfan Cydweithredol Cymru wedi llwyddo i helpu pobl a chymunedau yn eu
hymgais i greu swyddi, busnesau a chymunedau cydweithredol. Wrth i’r sefydliad dyfu, mae ein gwaith wedi ehangu ac arallgyfeirio.

“Mae’r enw newydd yn ceisio mynd i’r afael â heriau’r enw presennol ac mae’n datgan ein pennod nesaf fel asiantaeth ddatblygu sy’n gweithio dros newid economaidd a chymdeithasol. Byddwn yn aros yn driw i’n gwreiddiau cydweithredol
wrth inni esblygu i ymateb i heriau a chyfleoedd newydd. Er y bydd ein ffocws bob amser yn aros yng Nghymru, rydym yn bwriadu cynyddu maint y gwaith a wnawn mewn rhannau eraill o’r DU.

“Bydd yr ymdeimlad hwn o weithio gyda phobl, cymunedau a busnesau au helpu i gyrraedd lle maen nhw am fod, bob amser wrth wraidd ethos y sefydliad ac rydym yn llawn cyffro am ein dyfodol.”

Mae gan Cwmpas strategaeth newydd sydd wedi’i datblygu ochr yn ochr â’r enw newydd mewn ymateb i’r pwysau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd digynsail a wynebir gan y wlad. Mae’r strategaeth hon yn nodi cynllun Cwmpas i helpu i adeiladu economi decach a gwyrddach a chymdeithas fwy cyfartal, lle mae pobl a’r blaned yn dod yn gyntaf.