Cwmpas yn ennill yr Aur. Eto!

8 Rhagfyr 2023

Mae Cwmpas yn parhau i fod yn rhan o glwb neilltuol ar ôl ennill gwobr Achrediad Aur Buddsoddwyr Mewn Pobl (BMP/IiP).

Mae dros 50,000 sefydliadau o dros 66 gwlad wedi’u hasesu gan BMP/IiP, gyda dim ond 26% yn cyflawni’r wobr Aur. Wnaeth Cwmpas cyntaf ennill yr achrediad Aur yn 2017.

Eleni wnaeth Cwmpas dangos ein bod gweithio yn y “ffordd gydweithredol”, ac ein bod yn cymryd agwedd ragorol i’n gwerthoedd a chyflwyno trawsnewid cymunedol yng Nghymru; rydym yn poeni am ein pobl ac rydym yn uchelgeisiol i gadw i wella gydag arweiniant uchelgeisiol.

Dwedodd Bethan Webber, Prif Weithredwr Cwmpas:

“Dwi wrth fy modd ac yn mor falch i rannu’r newyddion da o’n cyflawniad ar y cyd i unwaith eto cael ein cydnabod yn ffurfiol ein bod wedi cynnal ein hachrediad Aur.

“Mae’n gyflawniad gwych i unrhyw sefydliad ac mae’n arbennig o wir i Cwmpas, o ystyried y newid trawsnewidiol rydym newydd fod drwyddo, gan gynnwys y ffaith ein bod bellach yn gyflogwr anghysbell.

“Rwy’n credu’n gryf bod llwyddiant Cwmpas i wneud gwaith yn well i bawb yn dechrau ac yn gorffen gydag angerdd ein pobl. Mae’n deyrnged i dalent a phroffesiynoldeb ein holl staff ac arweinyddiaeth ein Bwrdd,ychwanegodd y Prif Weithredwr.

Dyma esiampl o’r adborth a roddodd staff am weithio i Cwmpas:

Cwmpas staff pose for a photograph with the Investors in People Gold award

“Mae’n braf iawn gweithio mewn sefydliad sy’n cael ei yrru gan ein gwerthoedd.”

“Dyma’r sefydliad gorau i mi weithio iddo. Maen nhw wir yn gwerthfawrogi pobl. Maen nhw’n gwneud ffỳs o bobl ac yn cydnabod eich cyfraniad bob amser.”

“Fe wnaethon nhw ofyn i mi beth hoffwn i ei wneud… dyna wnaeth i fy enaid ganu”

“Mae’r cyfnod sefydlu yma yn broses wych. Mae pobl yn awchus i ddechrau, ond pan fyddwch yn dod i Cwmpas, rydym yn genedlaethol ac mae’n bwysig iawn dod i adnabod pobl. Rydyn ni’n rhan o rywbeth mwy.”

“Mae’r hyn sy’n fy ysgogi y tu allan i’r sefydliad. Gallu cael effaith eang sy’n canolbwyntio ar bobl. Gweld pobl mewn lle gwell na phan ddechreuoch chi – dyna sy’n fy ysgogi.”

Yn Cwmpas, rydym yn gobeithio na fyddwn yn gorffen gydag Aur! Wrth i ni barhau i ymdrechu am fwy o welliannau ein huchelgais yw cyrraedd Platinwm, gan ymuno â dim ond 2% o gwmnïau yn y DU.

 

Cwmpas | Investors in People Gold award logos