Cwmpas yn cefnogi Hoop Recruitment i drosglwyddo i berchnogaeth gweithwyr

Mae Hoop Recruitment, sef un o gwmnïau recriwtio mwyaf blaenllaw Cymru dan berchnogaeth annibynnol, wedi trosglwyddo i berchnogaeth gweithwyr gyda chymorth busnes gan Cwmpas a chefnogaeth gyfreithiol gan Acuity.
Cafodd ei sefydlu yn 2016, ac mae gan y busnes drosiant o oddeutu £20 miliwn, mae ganddo swyddfeydd yng Nghaerdydd ac Abertawe, ac mae’n cyflogi tua 40 aelod o staff. Mae’n arbenigo mewn recriwtio ar gyfer y sectorau nyrsio, gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol, addysg, adnoddau dynol a gwasanaethau proffesiynol.
Perchnogaeth gweithwyr yw un o’r modelau olyniaeth busnes sy’n tyfu gyflymaf yn y DU. Mae’n gosod gweithwyr wrth galon gwneud penderfyniadau corfforaethol a chreu cyfoeth, a gall hybu gwytnwch a phroffidioldeb busnes, a chynyddu ymrwymiad cymunedol a gweithwyr.
Mae busnesau dan berchnogaeth gweithwyr yn tueddu i fod yn fwy gwydn yn wyneb her economaidd, ac yn aml mae ganddynt gyfraddau trosiant is a lefelau uwch o foddhad swydd.
Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i ddyblu nifer y busnesau dan berchnogaeth gweithwyr yng Nghymru erbyn diwedd tymor y Senedd hon. Gyda chefnogaeth tîm Perchnogaeth Gweithwyr Cymru Cwmpas, cyflawnwyd y targed hwnnw ddwy flynedd yn gynt na’r disgwyl.
Bu’r sefydlwyr, Paul Lewis a Hywel Roberts, yn gweithio gyda’i gilydd yn gynharach yn eu gyrfaoedd, a gwnaethant ddatblygu Hoop Recruitment fel cwmni recriwtio sy’n canolbwyntio ar y cwsmer/cleient.
Nid oes gan Paul, fel Prif Swyddog Gweithredol, a Hywel, fel Prif Swyddog Gweithredu, unrhyw gynlluniau i adael y busnes, a bydd y ddau yn parhau ar y Bwrdd.
Mae Paul a Hywel yn teimlo bod model yr Ymddiriedolaeth Perchnogaeth Gweithwyr (EOT) yn hanfodol ar gyfer llwyddiant y busnes yn y dyfodol ac maent yn fwy cyffrous nag erioed am y newid sy’n cael ei greu yn y diwydiant recriwtio.
Esboniodd Paul:
“Yn Hoop, rydym yn ymfalchïo mewn gwneud pethau’n wahanol. Fe wnaeth fy nghyd-sefydlydd, Hywel Roberts, a minnau ddechrau’r busnes gyda chenhadaeth glir – creu asiantaeth recriwtio sydd wir yn rhoi pobl yn gyntaf, gan symud i ffwrdd o argraff pobl am y diwydiant sy’n gallu bod yn heriol, weithiau. Ers hynny, rydym wedi tyfu’n gyson, ac eleni fe gyrhaeddon ni garreg filltir arwyddocaol gan drosglwyddo i fod yn Ymddiriedolaeth Perchnogaeth Gweithwyr. Mae’r newid hwn wedi rhoi i’n tîm gwir ran yn nyfodol Hoop ac mae’n cyd-fynd â’n hymrwymiad i adeiladu busnes ar sail ymddiriedaeth, cydweithredu a meddwl ar gyfer yr hirdymor.
“A minnau’n Brif Swyddog Gweithredol, rydych chi eisiau i’ch busnes dyfu a ffynnu yn unol â’ch gwerthoedd a’ch credoau, ac rydyn ni’n teimlo y gall Hoop wneud hyn hyd yn oed yn fwy o dan berchnogaeth ein gweithwyr.
“Mae’r diwylliant gwaith wastad wedi bod yn wych yma yn Hoop. Rydyn ni wedi gweithio’n hyblyg ers i’r busnes ddechrau ac wedi canfod, wrth fod yn hyblyg ac ystyriol o deuluoedd, ein bod ni’n denu’r gweithwyr recriwtio proffesiynol gorau yn y diwydiant i weithio i ni. Nawr, gan ein bod dan berchnogaeth gweithwyr, gallwn roi hyd yn oed mwy yn ôl i’n tîm, gan greu cwmni sy’n llawn perchnogion busnes, i bob pwrpas. Mae ein gweithlu yn fwy penderfynol ac yn canolbwyntio yn fwy nag erioed i gyflawni ein gweledigaeth, cenhadaeth a diben.
“Rydyn ni nawr yn eiriolwyr enfawr dros Ymddiriedolaethau Perchnogaeth Gweithwyr. Gan ddefnyddio’r model busnes hwn, rydym yn gobeithio ehangu a gwneud Hoop yn un o’r busnesau mwyaf yng Nghymru dan berchnogaeth annibynnol, a chreu busnes rydym hyd yn oed yn falchach ohono, un sy’n rhoi cymaint ag y gall yn ôl i gleientiaid a staff, fel ei gilydd.”
Darparodd Acuity gyngor cyfreithiol i Hoop Recruitment ar drosglwyddo i fod yn Ymddiriedolaeth Perchnogaeth Gweithwyr, gyda BPU yn cynghori ar ei brisiad. Cafodd y busnes gefnogaeth gan Busnes Cymdeithasol Cymru, a ddarparwyd gan Cwmpas.
Mae gwasanaeth Perchnogaeth Gweithwyr Cymru o Cwmpas yn rhan o Fusnes Cymdeithasol Cymru a theulu Busnes Cymru, ill dau wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Branwen Ellis, ymgynghorydd perchnogaeth gweithwyr arbenigol gyda Cwmpas:
“Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Paul a Hywel ac roedd yn amlwg o’r dechrau y byddai’r model perchnogaeth gweithwyr yn gweithio’n dda iddyn nhw a’r busnes, gan ei fod yn amlwg yn cyd-fynd â’r diwylliant sefydliadol. Rwy’n credu bod y ddau ohonyn nhw o’r farn bod y model Ymddiriedolaeth Perchnogaeth Gweithwyr nid yn unig yn opsiwn cynllunio olyniaeth dda, ond hefyd yn ffordd o wella eu diwylliant sefydliadol ymhellach, i rymuso eu gweithlu, ac i roi rhywbeth yn ôl.
“Rwy’n edrych ymlaen at weld Hoop yn mynd o nerth i nerth o dan ei berchnogaeth newydd, ac yn dymuno’r gorau iddyn nhw ar gyfer y dyfodol.”
Ar Ddiwrnod Perchnogaeth Gweithwyr ym mis Mehefin y llynedd, dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg ar y pryd:
“Mae perchnogaeth gweithwyr yn darparu nifer o fuddion i weithwyr a busnesau, fel ei gilydd, gyda thystiolaeth yn dangos bod busnesau dan berchnogaeth gweithwyr yn fwy cynhyrchiol ac yn fwy gwydn. Mae’r rhain yn lleoedd sydd wedi’u gwreiddio yn eu cymunedau, gan ddarparu swyddi hirdymor o safon yn yr ardal leol.”
Nid yw perchnogaeth gweithwyr yng Nghymru yn ymwneud â chydnabod ac addysgu busnesau am y model busnes yn unig. Mae’n ymwneud â hyrwyddo gweledigaeth ar gyfer economi fwy gwydn, teg ac arloesol. Mae’n ymwneud ag adeiladu cymunedau cryfach, a chreu Cymru decach lle mae gan bawb ran mewn llwyddiant.
Darganfyddwch fwy am gymorth perchnogaeth gweithwyr Cwmpas yma.