Crwydro Gogledd Cymru: Darganfod Tirweddau Hudolus, Gwyliau Cynaliadwy, ac Effaith Gymunedol

18 Awst 2023

Croeso i harddwch hudolus a garw Gogledd Cymru, lle mae tirweddau syfrdanol ac arfordiroedd hardd yn gartref i sector mentrau cymdeithasol ffyniannus, sy’n darparu digonedd o gyfleoedd i anturiaethwyr sy’n gyfrifol yn gymdeithasol.

Ar wahân i hyfrydwch Yr Wyddfa a gwefr Zip World, mae gan Ogledd Cymru amrywiaeth o fentrau cymdeithasol cyffrous sy’n cynnig lleoedd i aros, bwyta a darganfod sy’n cael effaith gadarnhaol ar eu cymunedau lleol hefyd.

Yn y blog hwn, rydyn ni’n rhoi ein hargymhellion ar gyfer mentrau cymdeithasol y gallwch chi ymweld â nhw’r tro nesaf y byddwch chi yn y gogledd. Dyma rai o nifer o leoedd cyfrifol yn gymdeithasol yng Ngogledd Cymru.

Mae tref glan môr fechan Nefyn ym Mhen Llŷn yn gartref i glogwyni trawiadol a thraethau hardd ond mae hefyd yn gartref i dafarn gymunedol Yr Heliwr. Mae gan yr Heliwr lety byncws ac dewis da o gwrw wedi’i fragu’n lleol i’w brofi ar ôl taith gerdded ar hyd llwybr arfordir Cymru.

Mae Llety Arall, menter gymunedol yng Nghaernarfon, wedi’i lleoli mewn hen warws dafliad carreg o Gastell Caernarfon sy’n un o leoliadau treftadaeth y byd UNESCO. Mae’n cynnig hyd at wyth ystafell en-suite a chyfleusterau cegin cymunedol ar gyfer cyplau, teuluoedd neu grwpiau o hyd at 20 o bobl ar y tro. Llety Arall yw un o’r unig leoedd yng Nghymru (hyd yn hyn) y gellir ei archebu trwy Fairbnb, safle archebu moesegol cymunedol.

Os ydych chi’n aros yng Nghaernarfon, mae Canolfan Gelfyddydau Galeri yn lleoliad bywiog. Dyma’r lle i fynd ar gyfer ystod o berfformiadau dawns, drama a cherddoriaeth a sinema gyfoes. Mae llawer o leoedd i fwyta ac yfed yng Nghaernarfon ond os ydych chi awydd tamaid i’w fwyta mewn tafarn sy’n eiddo i’w chymuned ewch i Tŷ’n Llan yn Llandwrog, chewch chi ‘mo’ch siomi. Mae’n nhw’n gweini bwyd rhwng 5 ac 8yh o ddydd Mercher i ddydd Sadwrn a chinio dydd Sul rhwng 12 a 4yh. Cewch chi groeso cynnes bob tro!

Os ydych chi ym Mangor, mae’n werth galw yn Bwyd Da am blatiaid o ‘fwyd da’ wrth gwrs, mewn bwyty sy’n bwydo 100% o’i elw yn ôl i’w rhiant-elusen North Wales Recovery Communities.

Mae Roots Forest School yn Ynys Môn yn cynnig sesiynau ysgol goedwig yn ystod gwyliau’r haf bob dydd Mawrth ym mis Awst – rydych chi’n gallu gwersylla ar y safle mewn amrywiaeth o bebyll cloch neu fan wersylla VW.

Mae Nomad, ger Bangor, yn cynnig profiad tad a mab unigryw, ‘the Bond’, sef diwrnod a noson o antur a chysylltu sy’n dathlu’r berthynas rhwng tadau a meibion.

Os ydych chwilio am wefr, beth am roi cynnig ar rai o’r 14 llwybr beicio mynydd yn Antur Stiniog ym Mlaenau Ffestiniog. Mae’r fenter gymdeithasol gymunedol hon yn cynnig caffi, cyfleusterau llogi beiciau a siop yn ogystal â rhai o’r llwybrau lawr allt gorau yng Nghymru – os ydych chi’n ddechreuwr neu feiciwr llai profiadol, beth am roi cynnig ar y llwybr ‘Plwg a Phlu’? Mae gan feicwyr mwy profiadol y dewis o nifer o lwybrau mentrus i brofi eu sgiliau, a’u nerfau. Bydd diwrnod llawn yn costio £40 y person yn ystod yr wythnos a £44 ar benwythnosau.

Mae Sŵ Fynydd Gymreig yn cynnig rhywbeth i holl aelodau’r teulu. Dyma’r sŵ hynaf yng Nghymru ac mae’n elusen sy’n helpu i gefnogi bioamrywiaeth y ddaear trwy gymryd rhan mewn rhaglenni bridio cadwraethol. Yn edrych dros arfordir Bae Colwyn, mae’r sŵ yn gartref i tua 80 o wahanol rywogaethau gan gynnwys teigr Sumatraidd, tsimpansïaid, lemyriaid, eirth, aligatorod a nadroedd.

Felly, beth am ddechrau cynllunio taith i archwilio’r economi menter gymdeithasol fywiog sydd yng Ngogledd Cymru? Dewch i gael tamaid i’w fwyta, byddwch yn anturus, profwch y celfyddydau, a chael eich ysbrydoli gan y mentrau arloesol a chynaliadwy sydd gan Ogledd Cymru i’w cynnig. Mae economi menter gymdeithasol Gogledd Cymru yn dyst i rym cyfuno twristiaeth ag ymrwymiad i rymuso cymunedau a stiwardiaeth amgylcheddol. Felly, paciwch eich bagiau ac ewch ar daith sydd nid yn unig yn bodloni eich angen am antur ond sydd hefyd yn cefnogi mentrau cymdeithasol Gogledd Cymru. Dyma lle mae darganfod yn cwrdd ag effaith, ac mae atgofion yn cael eu creu ochr yn ochr â newid cadarnhaol.