Os nad ydych wedi cael cyfle eto i dyrchu drwy’r 332 tudalen o bapur gwyn Levelling Up, rwyf wedi gwneud ffafr i chi a rhoi ychydig o sylwadau ar bapur (mewn llai na 650 gair).
Mae’r uchelgais yn gywir
Nod y polisi yw gwneud y DU yn lle tecach, lle mae cyfoeth a chyfle’n cael eu lledaenu’n fwy cyfartal. Prin y byddai fawr neb yn dadlau â hynny. Mae’r Papur Gwyn yn darparu digon o ddata, dadansoddiad manwl ac ystyriaeth newydd o’r rhesymau pam nad yw mentrau’r gorffennol wedi gweithio.
Ni all un adran o’r llywodraeth yn unig godi’r gwastad
Cydnabyddir na all un adran o’r llywodraeth gyflawni hyn ar ei phen ei hun. Mae hyn yn amlwg, ond serch hynny’n wir ac wedi’i anwybyddu gan fentrau’r gorffennol. Ni allwn greu gwlad fwy cyfartal trwy ganolbwyntio ar yr economi’n unig ac anwybyddu iechyd, addysg neu dai. (Mae angen i ni ystyried trethiant cynyddol a gwariant lles hefyd, ond prin yw’r cyfeiriad atynt yn y Papur Gwyn).
Ymrwymiad hirdymor
Ac mae ymrwymiad i ddilyn y polisi hwn dros y tymor hir. Ni all yr un Llywodraeth rwymo Llywodraethau’r dyfodol, ond dylai’r gwahaniaethau amlwg a wynebwn argyhoeddi arweinwyr yn y dyfodol bod angen rhoi blaenoriaeth i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol. Neu dyna fyddech chi’n ei obeithio.
Beth am adnoddau?
Mae bwlch rhwng realiti a’r rhethreg. Mae angen adnoddau sylweddol i godi’r gwastad. Dyna’r wers o lefydd eraill. Ond i Gymru mae’n edrych fel y bydd llai o arian nag o’r blaen. Mae’r Sefydliad Materion Cymreig yn amcangyfrif y bydd Cymru’n cael llai na hanner yr hyn yr oeddem yn arfer ei gael o gronfeydd yr UE. Dywed Llywodraeth Cymru y bydd Cymru’n colli £1 biliwn erbyn 2024. Mae Cymru ar ei cholled. Mae Cymru ar ei cholled.
Cydweithio da
Mae’r Papur Gwyn yn sôn bod dulliau cydweithio da rhwng y llywodraeth, cynghorau, busnesau a chymdeithas sifil yn hanfodol os ydym am fod yn effeithiol. Unwaith eto mae’r gwersi ledled y byd yn profi bod hyn yn gywir. Gwyddom nad yw hyn yn digwydd eto yn y ffordd sydd ei angen. Nid yw’n gyfrinach nad yw Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cydweithio’n effeithiol. Dyw’r sector gwirfoddol ddim wrth y bwrdd. Rhaid mynd i’r afael â hyn os ydym am osgoi’r diffyg cydlynu a dyblygu a welsom yng Nghronfa Adfywio Cymunedol y DU yn ddiweddar. Gobeithio y byddan nhw’n mynd i’r afael â hyn. Fel dinasyddion, mae gennym hawl i ddisgwyl i lywodraethau gydweithio. Yn y cyfamser, mae gan bob un ohonom gyfraniad i’w wneud o ran sicrhau bod y polisi hwn yn gweithio. Yng Nghymru, rhaid inni edrych y tu hwnt i’r arian a gaiff ei ddosbarthu’n uniongyrchol i ni. Mae angen inni sicrhau cyfran deg o gronfeydd y DU gyfan hefyd, lle mae’n rhaid inni gystadlu â rhannau eraill o’r DU. Bydd rhaglenni ar bynciau sy’n amrywio o ymchwil a datblygu i berchnogaeth gymunedol yn gofyn am gynigion o’r radd flaenaf o Gymru i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd cystadleuol hyn. Rhywbeth nad ydym wedi llwyddo i’w wneud yn dda yn y gorffennol bob amser. Ac mae angen i ni weithio gyda’n gilydd. Mae angen i awdurdodau lleol Cymru, sydd yn llywio materion ariannu, gydweithio â’r rhai yn y trydydd sector yn ogystal â busnesau i lunio prosiectau effeithiol. Mae angen inni roi’r dasg o arwain prosiectau i fusnesau, mentrau cymdeithasol ac elusennau, lle mae’r arbenigedd ganddyn nhw. Mae angen i gynghorau gydweithio â’i gilydd hefyd er mwyn llunio prosiectau rhanbarthol neu Gymru gyfan lle mae hynny’n gwneud synnwyr. Mae’n braf gweld cyllid yn cael ei ddatganoli i’r lefel leol, ond nid yw gweithredu rhai mentrau ar lefel sirol yn gwneud synnwyr. Cymorth busnes a rhaglenni dychwelyd i’r gwaith er enghraifft. Ein lle ni yw sicrhau bod prosiectau’n cael eu cydlynu mewn ffordd sy’n gwneud synnwyr i ddinasyddion ac yn effeithlon.
Rydym yn barod i weithio gyda chi
Hoffai Cwmpas weithio gyda chynghorau, cyrff rhanbarthol a sefydliadau’r sector gwirfoddol ledled Cymru i baratoi ceisiadau a chyflwyno prosiectau. Cysylltwch i weld sut allwn ni helpu. Derek.Walker@cwmpas.coop