Ceisiadau am gyllid cynaliadwyedd yn agored i sefydliadau treftadaeth

6 Medi 2022

Anogir sefydliadau treftadaeth yng Nghymru i wneud cais am y rownd ddiweddaraf o grantiau Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a gefnogir gan becyn dysgu cynhwysfawr i greu incwm cynaliadwy.

Gyda sefydliadau treftadaeth ledled y DU dan bwysau cynyddol a chyfyngiadau ariannol, gan gynnwys effaith barhaus Covid-19 a’r argyfwng costau byw, mae angen menter gymdeithasol yn fwy nag erioed i adeiladu ffrydiau incwm cynaliadwy a chadarn sy’n rhoi pobl a’r blaned yn gyntaf.

Mwy am Gamau at Gynaliadwyedd

Mae Cwmpas yn falch iawn o fod yn cyflwyno Rownd 3 o Gamau at Gynaliadwyedd, rhaglen Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, mewn partneriaeth â’r Academi Mentrau Cymdeithasol, i ddarparu llwybr cymorth i fynd i’r afael â heriau presennol.

Ar eu taith 14 mis, bydd sefydliadau treftadaeth yn dysgu bod yn fwy uchelgeisiol, blaengar a bod yn hunan dibynnol, gan gydweithio â chymheiriaid mewn sefydliadau sydd â chenadaethau tebyg ac arbenigwyr sector o bob rhan o’r DU.

Mae’r rhaglen wedi creu newid cadarnhaol gwirioneddol drwy raglenni blaenorol, gan gynnwys 110 o ddysgwyr ledled y DU – gan gynnwys 13 o sefydliadau ymgeisiol llwyddiannus o Gymru a llawer yn nodi cynnydd mewn hyder wrth roi syniad sy’n creu incwm ar waith.

Dywedodd Gwenllian Thomas, Swyddog Gwerthu Masnachol a Marchnata Cwmpas:

“Rydym yn annog unrhyw sefydliadau sydd â syniad creu incwm mewn golwg i fynegi eu diddordeb.

“Dyma’r trydydd tro i ni gyflwyno’r rhaglen gyffrous hon yng Nghymru, sydd nid y unig yn rhoi hwb ariannol i sefydliadau treftadaeth ond hefyd yn darparu pecyn dysgu i sicrhau bod ganddynt y wybodaeth i wneud yn siŵr bod y fenter gymdeithasol y maent yn ei chreu yn rhoi hwb ariannol iddynt a dyfodol cynaliadwy.”

Ariannu

Gall pob sefydliad llwyddiannus wneud cais am grant ariannu o hyd at £10,000 i gymell mwy o incwm masnachu yn ystod, ac yn syth ar ôl y rhaglen.

Dyddiad cychwyn

Bydd rownd tri yn cychwyn ym mis Hydref ar gyfer pobl a hoffai gynyddu cynaliadwyedd eu sefydliad treftadaeth ac arwain mewn ffordd sy’n helpu i gynhyrchu ac arallgyfeirio incwm eu sefydliad.

Cofrestrwch eich diddordeb cyn 13 Medi

I gofrestru eich diddordeb, gwnewch gais neu ddarganfod mwy am y rhaglen Camau at Gynaliadwyedd: https://your.socialenterprise.academy/course/view.php?id=596 (linc Saesneg)

Fe fydd y rhaglen yn Saesneg, ac mi fydd modd cael gwybodaeth a dogfennau yn y Gymraeg.

Dywedodd Vicki Roskems, Sefydliad Enbarr a chyfranogwr ar raglenni’r llynedd:

 

“Roedd y cwrs hwn yn amhrisiadwy i ni ar gyfer ein twf ac i ganolbwyntio egni ar ein cymuned. Trwy’r rhaglen fe wnaethon ni gwrdd â phobl ddiddorol, ar wahanol adegau ac yn gwneud gwaith gwych yn eu cymunedau ledled Cymru.”