Anogir sefydliadau treftadaeth yng Nghymru i wneud cais am y rownd ddiweddaraf o grantiau Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a gefnogir gan becyn dysgu cynhwysfawr i greu incwm cynaliadwy.
Gyda sefydliadau treftadaeth ledled y DU dan bwysau cynyddol a chyfyngiadau ariannol, gan gynnwys effaith barhaus Covid-19 a’r argyfwng costau byw, mae angen menter gymdeithasol yn fwy nag erioed i adeiladu ffrydiau incwm cynaliadwy a chadarn sy’n rhoi pobl a’r blaned yn gyntaf.
Mwy am Gamau at Gynaliadwyedd
Mae Cwmpas yn falch iawn o fod yn cyflwyno Rownd 3 o Gamau at Gynaliadwyedd, rhaglen Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, mewn partneriaeth â’r Academi Mentrau Cymdeithasol, i ddarparu llwybr cymorth i fynd i’r afael â heriau presennol.
Ar eu taith 14 mis, bydd sefydliadau treftadaeth yn dysgu bod yn fwy uchelgeisiol, blaengar a bod yn hunan dibynnol, gan gydweithio â chymheiriaid mewn sefydliadau sydd â chenadaethau tebyg ac arbenigwyr sector o bob rhan o’r DU.
Mae’r rhaglen wedi creu newid cadarnhaol gwirioneddol drwy raglenni blaenorol, gan gynnwys 110 o ddysgwyr ledled y DU – gan gynnwys 13 o sefydliadau ymgeisiol llwyddiannus o Gymru a llawer yn nodi cynnydd mewn hyder wrth roi syniad sy’n creu incwm ar waith.
Dywedodd Gwenllian Thomas, Swyddog Gwerthu Masnachol a Marchnata Cwmpas:
“Rydym yn annog unrhyw sefydliadau sydd â syniad creu incwm mewn golwg i fynegi eu diddordeb.
“Dyma’r trydydd tro i ni gyflwyno’r rhaglen gyffrous hon yng Nghymru, sydd nid y unig yn rhoi hwb ariannol i sefydliadau treftadaeth ond hefyd yn darparu pecyn dysgu i sicrhau bod ganddynt y wybodaeth i wneud yn siŵr bod y fenter gymdeithasol y maent yn ei chreu yn rhoi hwb ariannol iddynt a dyfodol cynaliadwy.”
Ariannu
Gall pob sefydliad llwyddiannus wneud cais am grant ariannu o hyd at £10,000 i gymell mwy o incwm masnachu yn ystod, ac yn syth ar ôl y rhaglen.
Dyddiad cychwyn
Bydd rownd tri yn cychwyn ym mis Hydref ar gyfer pobl a hoffai gynyddu cynaliadwyedd eu sefydliad treftadaeth ac arwain mewn ffordd sy’n helpu i gynhyrchu ac arallgyfeirio incwm eu sefydliad.
Cofrestrwch eich diddordeb cyn 13 Medi
I gofrestru eich diddordeb, gwnewch gais neu ddarganfod mwy am y rhaglen Camau at Gynaliadwyedd: https://your.socialenterprise.academy/course/view.php?id=596 (linc Saesneg)
Fe fydd y rhaglen yn Saesneg, ac mi fydd modd cael gwybodaeth a dogfennau yn y Gymraeg.
Dywedodd Vicki Roskems, Sefydliad Enbarr a chyfranogwr ar raglenni’r llynedd: