Buddsoddiad ar y cyd o £948,000 gan Lywodraeth Cymru a Nationwide Foundation yn paratoi’r ffordd ar gyfer mwy o dai dan arweiniad y Gymuned yng Nghymru

18 Gorffennaf 2022

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu £540,000 dros y tair blynedd nesaf i Cwmpas (Canolfan Cydweithredol Cymru yn flaenorol) i barhau â’i thwf yn y sector Tai Cydweithredol a Thai Dan Arweiniad y Gymuned yng Nghymru. Mae’r Nationwide Foundation hefyd wedi cytuno i barhau â’i gyllid tan 2025 gyda buddsoddiad pellach o £408,539. 

Bydd y cyllid yn helpu i ddatblygu’r rhaglen Cymunedau’n Creu Cartrefi a gyflwynir gan Cwmpas, sydd wedi gosod targedau uchelgeisiol o fewn ei strategaeth pum mlynedd newydd i ddyblu nifer y grwpiau sy’n datblygu tai cydweithredol a thai dan arweiniad y gymuned (CCLH) yng Nghymru – i gynnwys cwblhau 150 o gartrefi carbon isel newydd, a llwybrau datblygu ar gyfer 250 o gartrefi eraill.

Dywedodd Julie James AS, y Gweinidog dros Newid Hinsawdd:

“Rwy’n falch ein bod wedi gallu cynyddu’r cyllid i’r sector tai dan arweiniad y gymuned a pharhau â rhaglen ar y cyd â’r Nationwide Foundation.

“Rhaid i dai dan arweiniad y gymuned barhau i fod yn rhan o’r ateb tai yng Nghymru. Mae ein cefnogaeth i’r sector mor gryf nawr ag yr oedd ddeng mlynedd yn ôl ac mae’r ymrwymiad a nodwyd yn ein Rhaglen Lywodraethu yn ailddatgan hyn. Mae pob sector yng Nghymru yn wynebu heriau yn y cyfnod digynsail hwn ac nid yw tai dan arweiniad y gymuned yn wahanol, ond rydym yn parhau i ymroi i gydweithio i oresgyn rhwystrau gyda’n gilydd.”

Dywedodd Gary Hartin, Rheolwr Rhaglen Nationwide Foundation:

“Gall tai dan arweiniad y gymuned fod yn ddull amgen ymarferol o gyflwyno tai gwirioneddol fforddiadwy. Gall greu cartrefi y mae pobl leol eu hangen yn y mannau maent eu heisiau nhw. Mae’r amodau i hyn ddigwydd yn gryf yng Nghymru a thrwy barhau i ariannu Cymunedau’n Creu Cartrefi, ein nod yw cadarnhau safle’r sector yn ogystal â chynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy, gweddus.”

Mae’r sector tai dan arweiniad y gymuned yng Nghymru yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau, a ddewisir i gyd-fynd ag anghenion cymuned benodol. Grwpiau bach o ffrindiau yn prynu tŷ i’w rannu, lesddeiliaid yn sefydlu pwyllgor rheoli tenantiaid, aelodau o’r gymuned yn prynu tir lleol i ddatblygu tai newydd, a phobl sydd eisiau datblygu cartrefi cynaliadwy – mae’r rhain i gyd yn enghreifftiau.

Mae Cwmpas wedi bod yn cefnogi ac yn hyrwyddo twf tai dan arweiniad y gymuned ers 2012 ac mae’n cyflwyno’r rhaglen Cymunedau’n Creu Cartrefi i ysgogi ymhellach y galw am dai dan arweiniad y gymuned ledled Cymru.

Dywedodd Jocelle Lovell, Cyfarwyddwr Cymunedau Cynhwysol yn Cwmpas:

“Mae tai cydweithredol a thai dan arweiniad y gymuned yn chwarae rôl hanfodol ochr yn ochr â chynghorau, datblygwyr a buddsoddwyr i greu cartrefi fforddiadwy yng Nghymru sy’n bodloni anghenion y gymuned leol ac yn cefnogi cenedlaethau’r dyfodol. Mae’r cyllid gan Lywodraeth Cymru a’r Nationwide Foundation yn hanfodol i adeiladu ar y cynnydd rhagorol sydd eisoes wedi’i wneud yn y maes hwn.

“Mae pobl eisiau mwy o reolaeth dros ble maen nhw’n byw, a gweithio gydag eraill i gyflawni nod ar y cyd. Maent yn hoffi’r ffaith bod y model tai cydweithredol a thai dan arweiniad y gymuned yn hyblyg i fodloni llawer o anghenion ac unrhyw ddeiliadaeth – felly mae’r canlyniadau’n aml yn fwy llwyddiannus. Rydym yn gwybod bod pob prosiect yn wahanol – felly mae ein cefnogaeth wedi’i theilwra i anghenion pob cymuned. P’un a ydych chi’n newydd i dai cydweithredol a thai dan arweiniad y gymuned, eisoes wedi ffurfio grŵp neu eisiau ymuno â grŵp sy’n bodoli eisoes, rydym eisiau helpu.”

Bydd y cyllid yn caniatáu i Cwmpas barhau i fod yn unig Ganolfan Tai Cydweithredol a Thai Dan Arweiniad y Gymuned (CCLH) Cymru gan ddarparu llais, cymorth ac arbenigedd i’r sector. Bydd Cwmpas yn parhau i ddylanwadu ar lefel leol a chenedlaethol i ddileu’r rhwystrau sy’n wynebu llawer o grwpiau.

Mae’r astudiaethau achos canlynol yn dangos sut mae Tai Cydweithredol a Thai Dan Arweiniad y Gymuned yn cyfrannu at y cyflenwad o dai fforddiadwy yng Nghymru a sut mae’r rhaglen Cymunedau’n Creu Cartrefi yn cefnogi’r sector Tai Cydweithredol a Thai Dan Arweiniad y Gymuned yn weithredol:

Tai Cydweithredol Tir Cyffredin, Machynlleth

Mae’r tîm Cymunedau’n Creu Cartrefi wedi bod yn cefnogi Tir Cyffredin ers 2020. Gyda Chymunedau’n Creu Cartrefi, dysgodd y grŵp sut i sefydlu cwmni tai cydweithredol, codi cyfalaf drwy forgais a chyllid cymunedol (cyfanswm o £280,000) a phrynu eu tŷ. Nid oedd gan yr un o’r preswylwyr unrhyw brofiad blaenorol o fod yn berchen ar eu cartrefi, sefydlu cydweithrediaeth neu godi arian. Gyda chymorth Chymunedau’n Creu Cartrefi, maent wedi ymgymryd â rheolaeth dros eu sefyllfa dai gan warantu o leiaf saith ystafell fforddiadwy ychwanegol i’w gosod am ddegawdau i ddod. Fe wnaeth Cymunedau’n Creu Cartrefi hefyd eu helpu i godi £8,000 i gywiro gwaith llaith brys a amlygwyd mewn arolwg gan ddileu’r risg o salwch sy’n gysylltiedig â lleithder a’u helpu i wneud cais am gyllid pellach i leihau effeithiau tlodi tanwydd ac allyriadau carbon.

Cwmni Buddiannau Cymunedol Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Gŵyr

Mae penrhyn Gŵyr yn Abertawe yn ardal o’r wlad lle mae perchnogaeth ail gartrefi wedi chwyddo prisiau eiddo, wedi dinistrio’r farchnad rentu ac wedi gadael pobl leol yn cael eu prisio allan neu â chartrefu ansicr. Yma, cefnogodd tîm Cymunedau’n Creu Cartrefi Gwmni Buddiannau Cymunedol Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Gŵyr, sef grŵp o bobl leol sydd, yn eu geiriau eu hunain, yn “anelu at adeiladu cartrefi cynaliadwy, di-garbon, effaith isel, chwaethus, iach dan arweiniad y gymuned i drigolion lleol a’r amgylchedd ffynnu, a fydd yn dod yn fodel y gellir ei efelychu ar gyfer datblygiadau tai cynaliadwy ledled Cymru a’r DU.” Mae tîm Cymunedau’n Creu Cartrefi wedi bod yn gweithio gyda’r grŵp drwy gydol cyfnod y pandemig a thu hwnt, i sefydlu strwythur cyfreithiol, datblygu cynlluniau, a dod o hyd i dir.

Cyhoeddodd y rhaglen Cymunedau’n Creu Cartrefi adroddiad yn gynharach eleni yn galw am gyflwyno Deddf Perchnogaeth a Grymuso Cymunedol i helpu grwpiau cymunedol i ddarparu tai fforddiadwy parhaus yn eu hardaloedd lleol. Byddai’r newidiadau arfaethedig yn rhoi’r hawl i wrthod statudol gyntaf i sefydliadau cymunedol cynaliadwy dros yr asedau yn eu cymuned pan gynigir eu gwerthu neu eu trosglwyddo. Gellir gweld yr adroddiad ar: https://cy.cwmpas.coop/yr-hyn-a-wnawn/polisi-chyhoeddiadau/perchnogaeth-gymunedol-asedau-lleol/