Ar ôl 26 mlynedd, mae Cartrefi Cymru Co-operative yn paratoi i groesawu Prif Weithredwr newydd

30 Mai 2022

Mae darparwr gofal a chymorth mwyaf Cymru i oedolion ag anableddau dysgu yn cychwyn ar gyfnod newydd gyda phenodiad Glyn Meredith yn Brif Weithredwr. Mae’n camu i esgidiau Adrian Roper a helpodd i sefydlu Cartrefi Cymru yn 1989 ac sydd wedi bod yn Brif Weithredwr ers 1996.

Mae gweithio i gefnogi pobl ag anableddau dysgu a’u teuluoedd” meddai Adrian, “a bod yn rhan o sefydliad o Gymru fel Cartrefi Cymru, wedi bod yn anrhydedd ac yn fraint. Crëwyd Cartrefi er mwyn cefnogi pobl i fwynhau bywydau gweddus fel aelodau gwerthfawr o eu cymunedau, a gallaf ddweud heb unrhyw betruso bod ein timau cefnogol gwych wedi bod yn gwneud hynny, o ddydd i ddydd, am 30 mlynedd. Mae Cartrefi yn fenter gydweithredol ddielw, sy’n rhoi pobl yn gyntaf ac sydd bob amser yn ymdrechu i fod cystal ag y gall fod. Mae’n deimlad gwych i fod yn camu i lawr wrth ymddeol gan wybod bod y sefydliad mewn cyflwr da iawn, gydag enw da am ansawdd rhagorol ac arloesedd, a dwi wrth fy modd i gael trosglwyddo’r awenau i rywun fel Glyn. Mae yn angerddol am gefnogi pobl, yn llawn parch a gwerthfawrogiad i staff ac rwyf wrth fy modd â’r ffaith ei fod eisiau defnyddio ei sgiliau a’i a’i brofiad i gynyddu cysylltiadau a chyfraniadau Cartrefi i gymunedau lleol. Fy nymuniadau gorau iddo ef a phawb yn Cartrefi, a hefyd i’m ffrindiau a’m cydweithwyr, ddoe a heddiw, ar draws y sector gofal cyfan yng Nghymru.

Rwy’n rhannu’r un dyheadau â Cartrefi” meddai Glyn, “a dwi’n edrych ymlaen yn fawr at gwrdd â phobl, gan wrando ar eu safbwyntiau a gwneud y mwyaf o fanteision bod yn gydweithfa. Mae 2000 o aelodau menter gydweithredol Cartrefi yn ffynhonnell syniadau enfawr, talent a chysylltiadau cymunedol lleol. Rwy’n gyffrous iawn am y potensial i ddenu arian newydd a datblygu pob math o brosiectau cymunedol a arweinir gan aelodau sy’n cyfoethogi bywydau pobl , cyfoethogi profiad y gweithlu, ac ychwanegu gwerth i’r gwasanaethau gwych y mae Cartrefi yn eu darparu ar gyfer awdurdodau lleol”.

Mae Glyn, sy’n byw yn Abertawe, wedi bod gweithio i’r elusen anabledd Leonard Cheshire ers 2014. Mae ei brofiad fel Cyfarwyddwr dros Gymru yn llwyfan gwych ar gyfer camu i fyny i rôl y Prif Weithredwr gyda Cartrefi sy’n gweithio mewn 15 ardal awdurdod lleol a phob rhanbarth o Gymru.

Mae Glyn yn dechrau gweithio fel Prif Weithredwr Cartrefi ar 1 Gorffennaf. Bydd ei ganolfan waith ym Mhen-y-bont ar Ogwr ond bydd yn teithio o amgylch Cymru yn rheolaidd. Os hoffech chi gysylltu â Glyn e-bostiwch: contacttheceo@cartrefi.coop