Beth yw dyfodol buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru?
Blog gan Glenn Bowen, Cyfarwyddwr Menter Cwmpas
Rwy’n ysgrifennu’r blog hwn fel rhywun sydd wedi treulio’r rhan fwyaf o’i yrfa yn gweithio ar brosiectau a rhaglenni a ariannwyd gan Gronfeydd Strwythurol Ewrop. Pan ddechreuais weithio yn Cwmpas (neu Ganolfan Cydweithredol Cymru, fel yr oedd ar y pryd), roeddwn yn gweithio ar gontract tri mis fel gweithiwr datblygu ar brosiect o’r enw Gwasanaethau Busnesau Cymunedol. Ariannwyd y prosiect dan gyllid Amcan 2 dan Raglen Diwydiannol De Cymru. Datblygwyd y prosiect yn wreiddiol gan Gyngor Sir Morgannwg Ganol, ond o ganlyniad i aildrefnu llywodraeth leol a diflaniad Morgannwg Ganol, trosglwyddwyd y prosiect i Ganolfan Cydweithredol Cymru.
Ers hynny, mae Cwmpas wedi bod yn rhan o ddatblygu a rhedeg prosiectau bach a rhaglenni mawr dan Raglen Amcan Un 2000 i 2006, y Rhaglen Gyfuno 2007 i 2013 a Rhaglen Cronfeydd Strwythurol 2014 i 2020. Wrth weithio drwy bob un o’r rhaglenni hyn, roedd bob amser yn glir bod rhaglenni’n cael eu gwerthuso a bod gwersi’n cael eu dysgu, i sicrhau bod pob rhaglen yn ceisio gwella ar yr un flaenorol.
Roedd rhai o’r gwersi cynnar yn ymwneud ag oes prosiectau. Roedd angen i noddwyr/derbynwyr prosiectau gael digon o amser i sicrhau bod gan brosiectau gyfnod cychwyn, cyfnod cyflwyno ac amser digonol i gau’r prosiect ac i fyfyrio. Roedd yn amlwg bod angen i brosiectau barhau am o leiaf dair blynedd i ychwanegu gwerth gwirioneddol. Cymeradwywyd llawer o brosiectau ar sail tri yn ychwanegol at ddau, gyda’r posibilrwydd o gyflwyno gwasanaeth dros bum mlynedd os oedd adolygiad ar ôl tair blynedd yn dangos effaith.
Roedd rhaglenni cynnar yn cynnwys cannoedd o brosiectau bach, a oedd yn arwain at heriau o ran rheoli, gweinyddu a monitro. Yn aml hefyd, roedd diffyg cydlynu ymhlith y prosiectau hynny, gan arwain at ddiffyg cysondeb, dyblygu a dryswch yn y farchnad.
Ar ôl y dysgu hwn i gyd, roedd Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa dda i ddatblygu rhaglen olynydd i gefnogi buddsoddiad rhanbarthol ar ddiwedd y Rhaglenni Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru yn 2023. Datblygwyd y cynllun gan ddisgwyl y byddai Llywodraeth y DU yn darparu’r arian buddsoddi rhanbarthol i Lywodraeth Cymru mewn byd ar ôl Brexit, a fyddai wedyn yn cyflwyno Rhaglen newydd.
Yn y diwedd, ni wireddwyd hyn. Trosglwyddodd Llywodraeth y DU yr adnoddau’n uniongyrchol i awdurdodau lleol yng Nghymru i’w rheoli a’u gweinyddu. Lansiwyd y Gronfa Ffyniant Gyffredin, rhaglen tair blynedd o 2021 i 2024. Byddwn yn edrych yn benodol ar y gwersi a ddysgwyd o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin mewn blog ar wahân.
Gyda Llywodraeth newydd yn San Steffan a diwedd y Gronfa Ffyniant Gyffredin mewn golwg, mae’n werth myfyrio ar ein profiad o gyflwyno dan bob un o’r rhaglenni buddsoddi rhanbarthol dros yr wyth mlynedd ar hugain diwethaf ac edrych ar beth y gallwn ei ddysgu.
Mae’n werth cydnabod beth rydym ei eisiau o fuddsoddiad rhanbarthol, a beth rydym yn ei olygu wrth hynny. Yn Cwmpas, credwn fod angen i fuddsoddiad rhanbarthol leihau anghydraddoldebau economaidd i alluogi rhanbarthau i wella eu lles economaidd. Mae angen i ni sicrhau y gall pob rhan o Gymru gynnig swyddi o ansawdd da, fel bod gennym gymunedau cynaliadwy lle nad oes angen i bobl symud oddi cartref i gael swydd a magu eu teuluoedd. Mae’n galonogol bod un o genadaethau Llywodraeth newydd y DU i ailadeiladu Prydain yw sbarduno twf economaidd “gyda swyddi da a thwf cynhyrchiant ym mhob rhan o’r wlad,” ac mae angen i fuddsoddiad rhanbarthol hwyluso hynny ar draws Cymru.
Mae perygl, yn yr amseroedd heriol hyn, y caiff arian buddsoddi rhanbarthol ei ddefnyddio i ailadeiladu ein gwead cymdeithasol ac i fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus sydd eu hangen yn fawr. Er y byddai’r mwyafrif ohonom yn cydymdeimlo â’r farn hon, byddai’n fethiant i newid y ffordd y mae ein heconomi’n gweithio a chreu’r swyddi o ansawdd uchel sydd eu hangen. Mae angen economïau lleol gwydn sy’n blaenoriaethu lles, yn gwella iechyd y cyhoedd ac yn cymryd y pwysau oddi ar ein gwasanaethau cyhoeddus yn y tymor hir. Rhaid i fuddsoddiad rhanbarthol ychwanegu gwerth ac ychwanegolrwydd i wariant cyhoeddus presennol yng Nghymru, i’n helpu i gyflawni’r nod hwn.
Felly, dylid canolbwyntio buddsoddiad rhanbarthol ar greu cyfoeth – nid yn unig ar gyfer perchnogion unigol ac aelodau, ond i greu mwy o swyddi a chynnal a meithrin lles cymunedau. Mae angen i ni annog mwy o fusnesau nad ydynt yn echdynnol, mwy o gydweithfeydd a mentrau cymdeithasol a mwy o SMEs a microfusnesau sy’n eiddo lleol ac sy’n gaeedig yn lleol. Mae angen i ni raddio’r SMEs hynny sydd â’r potensial i allforio cynnyrch a gwasanaethau ac i ddod â chyllid newydd i mewn i Gymru. Mae modelau menter gymdeithasol a chydweithredol eisoes yn chwarae rhan allweddol wrth ddarparu gwasanaethau hanfodol mewn ffordd arweinir gan y gymuned, gan greu economïau lleol tecach a mwy gwydn ac mae angen i fuddsoddiad rhanbarthol geisio hwyluso mwy o’r gwaith hanfodol hwn. Dyma pam roedd yn galonogol gweld ymrwymiad i gefnogi modelau busnes amrywiol yng nghynigion y Blaid Lafur DU a Llafur Cymru, yn ogystal â’r nod o ddyblu maint y sector cydweithredol.
I gefnogi hyn, mae angen strategaethau cenedlaethol o gwmpas twf economaidd cynaliadwy sydd nid yn unig yn cynnwys ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru, ond sydd hefyd yn egluro rôl awdurdodau lleol a’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig (CJCs) wrth dyfu ein heconomi a chreu lles economaidd.
Gyda strategaethau clir ar waith ac yn glir pwy sy’n gwneud beth, yna mae angen rhaglen fuddsoddi ranbarthol sy’n ariannu prosiectau craidd ar raddfa fawr a all gael effaith ar draws Cymru gyfan, yn ogystal â phrosiectau rhanbarthol a all ymateb i gyfleoedd penodol ar gyfer twf o fewn pob rhanbarth.
Yn y rhaglenni buddsoddi rhanbarthol blaenorol, bu enghreifftiau da lle mae awdurdodau lleol wedi arwain ar ddatblygu a gweithredu grantiau busnes bach, ac lle mae Llywodraeth Cymru a sefydliadau fel Cwmpas wedi arwain ar gefnogaeth strwythuredig i fusnesau drwy Busnes Cymru a Busnes Cymdeithasol Cymru. Gweithiodd hyn yn dda wrth gysylltu systemau eco lleol, rhanbarthol a chenedlaethol â’i gilydd, ac mae’n arfer da y dylai ddylanwadu ar ddyluniad y dyfodol.
Rhaid i ni hefyd sicrhau bod y trydydd sector yn cael mynediad at gyllid mewn rhaglenni’r dyfodol. Gallai hyn fod drwy ymateb i angen a dylunio a chyflwyno prosiectau rhanbarthol neu genedlaethol, neu drwy gael mynediad at grantiau llai a buddsoddiad drwy gyllid ad-daladwy a allai gael ei ddatblygu drwy gorff canolraddol. Yn rhaglen gyllido flaenorol yr UE, llwyddodd WCVA i ddarparu grantiau a benthyciadau i’r trydydd sector ehangach.
Mae angen symleiddio llywodraethu buddsoddi rhanbarthol yn y dyfodol fel y gellir buddsoddi arian mewn cyflawni a ddim mewn gweinyddu a monitro. Mae’n gwneud synnwyr bod un corff yn gyfrifol am weinyddu a monitro arian. Bydd hyn nid yn unig yn lleihau costau ond bydd yn sicrhau bod cyfathrebu’n effeithiol, dim ond gan un ffynhonnell sengl.
Mae lleoliad y penderfyniadau’n bwysig hefyd ac yn gyfiawn bod prosiectau sydd angen cael effaith ar draws Cymru gyfan yn cael eu penderfynu’n genedlaethol – ond yn yr un modd, mae angen i brosiectau rhanbarthol gynnwys gwybodaeth leol a rhanbarthol pan wneir penderfyniadau. Yn Rhaglen Amcan Un 2000 i 2006, roedd gan bob ardal awdurdod lleol Fwrdd Rheoli Strategol a oedd yn cynnwys (ar yr egwyddor o dair ran) y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector. Roedd yn rhaid i bob prosiect a oedd eisiau cael ei gyflwyno o fewn ardal awdurdod lleol gael cymeradwyaeth y Bwrdd Rheoli Strategol.
Roedd hyn yn gadarnhaol wrth gefnogi gwneud penderfyniadau lleol, ond roedd angen llawer iawn o adnoddau gan yr awdurdod rheoli, gan fod angen i bob awdurdod lleol gael tîm staff i weinyddu’r broses. Roedd hefyd yn arafu’r broses gymeradwyo ar gyfer prosiectau mwy o arwyddocâd cenedlaethol. Wrth edrych i ddyfodol buddsoddi rhanbarthol, mae gennym y Cyd-bwyllgorau Corfforedig nawr – wrth i’r grwpiau hyn ddatblygu, a oes rôl iddynt fewnbynnu penderfyniadau lleol a rhanbarthol?
Yn Cwmpas, byddem yn gobeithio cael mynediad at fuddsoddiad rhanbarthol i helpu i newid y ffordd y mae ein heconomi a’n cymdeithas yn gweithio, gan roi pobl a’r blaned yn gyntaf. Gall busnesau cymdeithasol a democrataidd helpu i newid y ffordd y mae’r economi’n gweithio, gan fynd i’r afael â rhai o’r heriau mwyaf hyn ar lefel leol mewn ffordd arweinir gan y gymuned.
Credwn, drwy gynyddu nifer y cwmniau cydweithredol, busnesau sy’n eiddo i’r gweithwyr, a mentrau cymdeithasol, ac yn canolbwyntio ar adeiladu economïau lleol a chyfoeth cymunedol, y gallwn adeiladu economi llesiant sy’n wyrddach ac yn fwy gwydn sy’n gweithio i bawb, ar draws pob rhan o Gymru.