Andrea Wayman yn ymuno â’r Grŵp Rhanddeiliaid Menter Gymdeithasol fel ein Cadeirydd annibynnol

Mae’n bleser gan Grŵp Rhanddeiliaid Menter Gymdeithasol gyhoeddi y bydd Andrea Wayman yn ymuno fel Cadeirydd annibynnol newydd y grŵp.
Cred y SESG fod yn rhaid i fentrau cymdeithasol chwarae rhan allweddol wrth adeiladu economi decach, mwy cynhwysol a mwy cynaliadwy. Mae ein haelod-sefydliadau proffil uchel a dylanwadol yn darparu cymorth arbenigol i fentrau cymdeithasol ledled Cymru ac mewn ystod o sectorau gwahanol, gan chwarae rhan allweddol yn eu cefnogi i drawsnewid economi a chymunedau Cymru.
Rydym yn gweithio gyda’n gilydd i gyflawni ein hadroddiad Trawsnewid Cymru drwy Fenter Gymdeithasol, sef gweledigaeth a chynllun gweithredu a gyd-gynhyrchwyd i wneud menter gymdeithasol yn fodel busnes o ddewis yng Nghymru. Ein haelodau yw Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru, Cwmnïau Cymdeithasol Cymru, UnLtd, Cwmpas a CGGC.
Croeso i Andrea
Rydym yn gyffrous iawn i gael Andrea ymuno â ni fel eiriolwr angerddol ac adnabyddus dros y sector menter gymdeithasol, a photensial y model yng nghymunedau Cymru. Mae hi wedi gweithio yn y sector cyflogaeth, hyfforddiant a chydraddoldeb ers 1989 ac mae’n angerddol dros fenter gymdeithasol a chreu swyddi trwy gaffael menter gymdeithasol, gan ddeall bod cyflogaeth dda a chynhwysol yn cynorthwyo datblygiad cymunedau ffyniannus ac iach.
Mae Andrea wedi arwain Elite Supported Employment Agency Ltd, sydd wedi bod yn cynorthwyo pobl ag anableddau i gael a chynnal cyfleoedd cyflogaeth â thâl, yn y gymuned, drwy gymorth un i un ers 1994.
Gan ddibynnu ar gydweithio â busnesau lleol i ddarparu cyfleoedd galwedigaethol, gwnaethant gydnabod yr angen i sefydlu eu busnes cynaliadwy eu hunain, gyda’r nod o greu cyflogaeth â thâl neu gyfleoedd gwaith i’n hymgeiswyr – lansiwyd ELITE Paper Solutions wedyn yn 2015.
Bellach mae ganddynt 3 menter gymdeithasol ychwanegol i’r brif Elusen cyflogaeth, gan gynnwys ELITE Training Solutions, a grëwyd yn 2016; ac ELITE Clothing Solutions yn 2019.
Mae natur y busnes yn sicrhau bod swydd ar gael a fydd yn bodloni pob angen, beth bynnag fo anabledd y person, gan ei wneud yn weithle cwbl gynhwysol. Mae eu staff yn amrywio o ran oed, gallu ac mae cyfle cyfartal yn ffocws moesegol cryf.
Cymerwch ran gyda’r GRhMG
Mae’r GRhMG yn frwd dros gynrychioli buddiannau’r sector menter gymdeithasol a chyflawni ein huchelgais o wneud Cymru y lle gorau yn y byd i fod yn entrepreneur cymdeithasol.
I barhau i ymgysylltu â’n gwaith, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr a dysgu mwy am newyddion, digwyddiadau a chyfleoedd yn y sector menter gymdeithasol: https://cwmpas.coop/social-enterprise-sector-newsletter/