Cymru Wrth-hiliol

15 Gorffennaf 2022

Yn ddiweddar, lansiodd Llywodraeth Cymru Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol  Nod y cynllun yw gwneud Cymru’n wlad wrth-hiliol erbyn 2030. Diben y Cynllun yw gwneud newid mesuradwy i fywydau pobl o leiafrifoedd ethnig drwy fynd i’r afael â hiliaeth. Bwriedir i’r Cynllun dywys Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a sectorau eraill y gall Llywodraeth Cymru ddylanwadu arnynt. Mae’n seiliedig ar y gwerthoedd o fod yn agored a thryloyw, yn seiliedig ar hawliau a rhoi profiad byw wrth wraidd popeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud.

Pam mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu dull gwrth-hiliol? Mae gwrth-hiliaeth yn ymwneud â newid y systemau, y polisïau a’r prosesau sydd wedi ymwreiddio safbwynt negyddol am bobl o leiafrifoedd ethnig cyhyd. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i ni gydnabod hyd yn oed os nad ydym yn ystyried ein hunain yn ‘hiliol’, y gallwn drwy osgoi ei gydnabod, fod yn cyfrannu at adael i hiliaeth barhau. Trwy fabwysiadu dull gwrth-hiliol, mae Llywodraeth Cymru yn ceisio cymryd camau radical, yn hytrach na ‘chamau bychain’ y gorffennol.

Mae’r Cynllun yn canolbwyntio ar newidiadau i’w gwneud gyda’i gilydd i brofiadau pobl o hiliaeth mewn chwe gwahanol agwedd ar eu bywydau:

  • Eu profiad o hiliaeth yn eu bywydau pob dydd;
  • Eu profiad o hiliaeth wrth brofi darpariaeth gwasanaeth;
  • Eu profiad wrth fod yn rhan o’r gweithle;
  • Eu profiad wrth gael swyddi a chyfleoedd;
  • Eu profiad o ddiffyg modelau rôl amlwg mewn swyddi pwerus;
  • Eich profiad o hiliaeth fel ffoadur neu geisiwr lloches.

Mae gan y sector mentrau cymdeithasol yng Nghymru rôl wrth helpu i feithrin Cymru wrth-hiliol. Mae rhai o’r camau ar gyfer ein sector a amlinellir yn y cynllun yn cynnwys:

  • Arweinwyr ac uwch reolwyr yn dangos sut rydym yn ymwreiddio gwrth-hiliaeth yn ein sefydliadau. Gan arwain o’r blaen a’i ddangos mewn gwerthoedd, ymddygiadau a chynrychiolaeth wrth-hiliol ar bob lefel o’n sefydliadau a mesurau atebolrwydd. Cael uwch arweinyddiaeth sy’n gynrychiadol ac yn gynhwysol o holl breswylwyr Cymru.
  • Cymryd rhan ym mhob penderfyniad a grwpiau uwch arweinyddiaeth mewn ffordd sy’n galluogi profiadau byw pobl o leiafrifoedd ethnig i gael eu clywed a gweithredu yn eu cylch.
  • Cyflawni gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010, fel isafswm, a chyhoeddi’ch canlyniadau mewn fforwm/ platfform agored a hygyrch.
  • Sicrhau safonau gofynnol a darpariaeth gwasanaethau sensitif a phriodol yn ddiwylliannol, gan gynnwys darpariaeth cyfieithu a dehongli.
  • Sicrhau bod polisïau a phrosesau cwynion cadarn ar gyfer ymateb i aflonyddu hiliol ar waith ym mhob sefydliad, a’u bod yn cael eu dilysu er bodlonrwydd grwpiau lleiafrifoedd ethnig.

Mae camau penodol ar gyfer sefydliadau sy’n gweithredu ym maes addysg, iechyd a gofal cymdeithasol hefyd.

Mae mentrau cymdeithasol fel BExcellence yn gwneud cyfraniad pwysig eisoes at greu Cymru wrth-hiliol. Mae wedi ymroi i sicrhau cynhwysiant a chynyddu symudedd cymdeithasol ar gyfer cymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn y De, gan gynnwys y sector busnes ac addysg.

Mae hyn yn cynnwys y rhwydwaith TAN – sef rhwydwaith seiliedig ar ddatrysiadau sydd wedi ymroi i ddarparu cymorth i ddysgu proffesiynol gwrth-hiliaeth ar gyfer holl gynorthwywyr dysgu Cymru. Crëwyd adnodd ysgol ganddynt hefyd sy’n addas ar gyfer disgyblion CA2 (8 i 11 oed) i’w helpu i wella ymdeimlad da o gynefin neu berthyn. Mae Dinasyddion Gwych yn cwmpasu 6 pwnc/ cenhadaeth, er mwyn helpu i bwyso a mesur pynciau fel gwrth-hiliaeth, yr amgylchedd a’r gymuned.

Mae cymorth ar gael hefyd i ganfod, cyllido a darparu cymorth i entrepreneuriaid cymdeithasol yng Nghymru, gyda ffocws ar y rhai o gefndiroedd wedi’u hymyleiddio. Mae’r Gronfa Ecwiti gan UnLtd a Chwmnïau Cymdeithasol Cymru yn bwriadu ariannu entrepreneuriaid cymdeithasol yng Nghymru sydd:

  • Yn byw neu weithio mewn ardaloedd â chyfraddau tlodi uchel
  • yn Ddu, Asiaidd a/neu o gefndir lleiafrifol ethnig
  • yn anabl
  • â phrofiad byw uniongyrchol o’r problemau cymdeithasol y maent yn ceisio eu datrys

Mae rhagor o wybodaeth am y gronfa ar gael yma.

Hefyd, mae’r Cynllun yn galw am i’r trydydd sector gefnogi sefydliadau i ddangos sut y byddant yn sicrhau bod gwrth-hiliaeth a chydraddoldeb hil wedi’u hymwreiddio yn eu sefydliadau fel cyflogwyr a darparwyr gwasanaethau.

Mae UnLtd’s Equity Audit yn enghraifft o ble mae hyn eisoes yn digwydd. Mae aelodau eraill o’r Grŵp Rhanddeiliaid Menter Gymdeithasol yn ystyried sut i wneud eu sefydliadau’n wrth-hiliol hefyd ac edrychwn ymlaen at rannu’r teithiau hyn yn fanylach maes o law.