Hyder Digidol Powys

Hyder Digidol Powys

Niw yw 10% o bobologaeth Powys ar-lein, o gymharu â chyfartaledd cenedlaethol o 7%.

Mae hyn yn golygu bod yna ddinasyddion sydd heb y mynediad (oherwydd diffyg dyfais neu gysylltedd gwael neu ddim cysylltedd o gwbl), sgiliau na hyder i ddefnyddio technoleg ddigidol. Mae gan tua 22% o’r boblogaeth ddiffyg sgiliau mewn o leiaf un o’r 5 maes sgiliau digidol sylfaenol. Mae mynediad i lawer o wasanaethau hanfodol, gan gynnwys iechyd, ar-lein bellach, felly mae llawer o bobl ym Mhowys wedi’u hallgáu rhag cael mynediad i wasanaethau sylfaenol oherwydd eu bod wedi’u hallgáu’n ddigidol. 

Bydd yr ymyriad hwn a alluogwyd drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn gwella lefelau cynhwysiant digidol ac yn lleihau’r rhwystrau y mae trigolion Powys yn eu hwynebu sy’n eu hatal rhag symud i gyflogaeth ac addysg, gan ddarparu ystod o ymyriadau cynhwysiant digidol uniongyrchol i ddinasyddion Powys. Bydd yn ymgorffori: 

  • Cefnogaeth cynhwysiant digidol un-i-un uniongyrchol yn y gymuned. Bydd hyn yn cynnwys sgiliau digidol sylfaenol, mynediad at wasanaethau cyhoeddus a llythrennedd iechyd digidol yn unol â lansiad ap GIG Cymru. 
  • Cyfleoedd hyfforddi cynhwysiant digidol mewn lleoliadau cymunedol. I gynnwys cymorth galw heibio, cyrsiau sgiliau cynhwysiant digidol. 

Bydd o fudd i unigolion ym Mhowys sy’n profi allgáu digidol oherwydd rhai neu bob un o’r ffactorau canlynol. 

  • Sgiliau, llythrennedd digidol sylfaenol 
  • Tlodi, anallu i fforddio mynediad at dechnoleg a thrwy hynny gael mynediad at adnoddau ar-lein fel bancio a chyflenwyr ynni. 
  • Y gallu i gael mynediad at ofal iechyd. 
  • Angen mynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd. 

Mae’r rhain yn debygol o gynnwys: 

  • Pobl hŷn 
  • Pobl ag anableddau neu gyflyrau iechyd hirdymor 
  • Pobl sydd wedi’u hallgáu’n ariannol 
  • Pobl â chyrhaeddiad addysgol is 
  • Pobl mewn ardaloedd gwledig 
  • Pobl ynysig ac unig yn gymdeithasol 
  • Pobl ddigartref 

Rydym yn cynnig amrywiaeth o sesiynau galw heibio, gweithdai, a chyrsiau sgiliau hanfodol. Mae rhain yn cynnwys sesiynau ar ddiogelwch ar-lein, siopa’n ddiogel ar-lein, hanes a hel atgofion, chwilio am waith, adnoddau iechyd a lles ar-lein, ymgyfarwyddo llechen a chyfrifiaduron sylfaenol ac ymwybyddiaeth cyfryngau cymdeithasol. 

Rydym yn gweithio gyda thai cymdeithasol, yr awdurdod lleol, llyfrgelloedd, y trydydd sector ac unrhyw grwpiau sydd ag angen cynhwysiant digidol. Rydym yn darparu hyfforddiant mewn lleoliadau cymunedol a gallwn sefydlu cyrsiau pwrpasol i ddiwallu eich anghenion cynhwysiant digidol. 

Am fwy o wybodaeth neu i gymryd rhan, mae croeso i chi gysylltu dcpowys@cwmpas.coop neu galw 0300 111 5050 

Gyda’n gilydd, gadewch i ni adeiladu Powys ddigidol gynhwysol.

 

Gweld ein digwyddiadau sydd i ddod

Cysylltwch

Enw(Required)
Ebost(Required)

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog o agenda Lefelu i Fyny llywodraeth y DU ac yn darparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder yn ei lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU, gan fuddsoddi mewn cymunedau a lle, cefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau. Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy

Digital Confidence Powys logo block