Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2023

Dathlu’r mentrau cymdeithasol sy’n gwneud gwahaniaeth yng Nghymru.

Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2023

Mae Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru yn rhan o brosiect Busnes Cymdeithasol Cymru (BCC) a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Hon fydd 8fed Seremoni Gwobrau BCC, ac rydym am dynnu sylw, yn fwy nag erioed, at dwf a photensial aruthrol y sector a’i gyfraniad hanfodol i gymunedau ledled Cymru.

Eleni mae yna chwech categori gwobrau i fentrau cymdeithasol ddewis o’u plith, sy’n adlewyrchu’r ffyrdd y mae mentrau cymdeithasol ac entrepreneuriaid cymdeithasol wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n bywydau yn y 12 mis diwethaf.

Bydd yr holl enillwyr yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru yng Ngwobrau Menter Gymdeithasol y DU ym mis Rhagfyr.

Senedd Building in Cardiff Bay
Dewch i'r Seremoni Wobrwyo
Ymunwch â ni yn y Senedd ar y 18fed o Hydref i ddathlu’r sefydliadau sydd ar y rhestr fer, a’r gwaith hanfodol maen nhw’n ei wneud ledled Cymru. Noddir gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru gan ein prif noddwr Dŵr Cymru. Mae noddwyr y categorïau yn cynnwys Legal and General, The Co-op, a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Diolch enfawr i Luke Fletcher AS am noddi’r digwyddiad yma.

 Categorïau

Menter Gymdeithasol y Flwyddyn (Noddwyd gan Dŵr Cymru)

Mae’r wobr hon yn agored i fenter gymdeithasol sydd wedi bod yn gweithredu ers dros 2 flynedd ac sydd wedi dangos gweledigaeth a chyfeiriad strategol rhagorol, arweinyddiaeth a rheolaeth glir o’r sefydliad, ac ymrwymiad i effaith gyfannol y tu hwnt i’w cenhadaeth gymdeithasol/amgylcheddol graidd.

Enwebeion

Câr-y-Môr

…busnes sy’n eiddo i’r gymuned sy’n defnyddio ffermio cefnfor adfywiol, sicrwydd bwyd, a chreu swyddi cynaliadwy i wella’r amgylchedd arfordirol, a gwella lles y gymuned leol. Mae’r cyfan dros gariad i’r Môr.

Galeri Caernarfon Cyf

…ymddiriedolaeth datblygu tref a sefydlwyd i fynd ar drywydd prosiectau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol er lles y gymuned yng Nghaernarfon a’r cyffiniau. Eu gweledigaeth yw bod unrhyw beth yn bosibl trwy feddwl yn greadigol a gweithredu cynaliadwy.

Partneriaeth Ogwen

…Fenter Gymdeithasol a sefydlwyd drwy gydweithio arloesol gan Gynghorau Cymuned Bethesda, Llanllechid a Llandygai, sy’n ymroddedig i greu budd cymunedol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol i’w hardal leol yn Nyffryn Ogwen.

Un i Wylio (Noddwyd gan Dŵr Cymru)

Mae’r wobr hon yn agored i fenter gymdeithasol sydd wedi bod yn gweithredu am llai na 2 flynedd ym mis Ebrill 2023 a all fynegi eu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, a sut y maent am ei chyflawni.

Enwebeion

Menter y Glan

…cymdeithas budd cymunedol a ffurfiwyd i godi arian i brynu ei thafarn a’i bwyty lleol, gan achub calon pentref Pennal, a chreu hwb i gryfhau’r gymuned.

Signposted Cymru

…ymyriad cychwynnol ac uniongyrchol gydag ataliaeth gynnar i unigolion sy’n cael trafferth
ac angen cefnogaeth gyda materion iechyd meddwl a lles. Mae eu cefnogaeth yn ymatebol a
wedi’i deilwra ar gyfer unigolion sy’n ymdrechu am ddyfodol mwy disglair.

The Bike Lock

…menter gymdeithasol sydd wedi ymrwymo i wneud Caerdydd (a thu hwnt) yn ddinas fwy egnïol, iachach, a hapusach. Eu cenhadaeth yw chwalu’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag teithio’n llesol, trwy ddarparu mannau parcio diogel i dros 50 o feiciau, gweithredu caffi sy’n gwerthu cynnyrch lleol, cynaliadwy a moesegol, a gweithredu man cymunedol ar gyfer gweithio a digwyddiadau.

Meithrin Amrywiaeth, Cynhwysiant, Tegwch, a Chyfiawnder (Noddwyd ganThe Co-op)

Mae cyfiawnder cymdeithasol yn sylfaenol i’r mudiad menter gymdeithasol. Mae’r categori hwn yn agored i bob menter gymdeithasol sy’n mynd i’r afael â’r materion hyn.

Enwebeion

Inside Out Wales

…cwmni buddiant cymunedol sy’n cynnig cymorth ac arweiniad i bobl ag euogfarnau sy’n dymuno sefydlu hunangyflogaeth, cael mynediad i addysg bellach neu uwch yn y gymuned, neu ddechrau cyflogaeth.

NeuDICE CIC

…yw’r Gymuned Niwrogyfeiriol a Chynhwysol o Entrepreneuriaid, ymateb effeithiol, unigryw i’r anghyfartaledd mae pobl niwroddargyfeiriol yn profi. Mae eu gwasanaeth yn cynnwys hyfforddi a mentora ar gyfer busnesau sy’n cael eu harwain gan bobl niwroddargyfeiriol, a hyfforddiant ar gyfer busnesau prif ffrwd a sefydliadau academaidd i feithrin eu niwrogynwysoldeb.

Outside Lives

…mudiad llawr gwlad a arweinir gan wirfoddolwyr, sy’n gweithredu fel cyfrwng i rymuso pobl leol i rannu eu syniadau a’u harfogi gyda’r sgiliau a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i’w gwireddu.

Hyrwyddwr Menywod

Mae’r wobr hon yn cydnabod menyw sy’n gweithio yn uwch dîm arwain menter gymdeithasol neu sefydliad sy’n cefnogi mentrau cymdeithasol.

Enwebeion

Hannah Pugh, Holistic Hoarding

Ymunodd Hannah â Holistic Hoarding yn 2022 fel Gweithiwr Cymorth Therapiwtig. O fewn 6 mis cafodd ddyrchafiad i Gydlynydd Prosiect. Wnaeth cydweithwyr Hannah ei enwebu am y wobr yma am ei bod yn cymryd pob her yn ei cham, ac yn amgylchynu pawb y mae’n cwrdd gyda chariad, caredigrwydd a gwir dosturi.

Eleanor Shaw, People Speak Up

Eleanor yw Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Artistig a Busnes People Speak Up (PSU). Ar ôl amser yn gweithio yn y maes addysg am sawl flwyddyn, teimlai Eleanor yr alwad i wneud gwahaniaeth mwy dylanwadol. Ar ôl  gadael ei rôl arweiniol mewn Addysg Bellach, cymerodd amser i ffwrdd i deithio i ddod o hyd i iachâd a phwrpas. Daeth Eleanor o hyd i hynny trwy adrodd straeon.

Lucy Powell, Outside Lives Ltd

Roedd Lucy, sylfaenydd Outside Lives, yn cydnabod bod ei hymdrechion fel Gweithiwr Cymdeithasol wedi’i chyfyngu gan ffactorau allanol. Arweiniodd hyn at ddatblygu model lle’r oedd pobl yn cael eu cydnabod gan eu cryfderau a’u sgiliau, heb eu cyfyngu gan ddisgrifiad o’u hanabledd neu eu statws ariannol.

Menter Cymdeithasol yn y Gymuned (Noddwyd gan Legal and General)

Mae’r categori hwn ar agor i fentrau cymdeithasol sydd wedi bod yn gweithredu am 2 flynedd, ac yn cael effaith cael effaith leol drawiadol.

Enwebeion

Câr-y-Môr

…gymdeithas budd cymunedol sy’n eiddo cyfartal i’w holl aelodau, ac sydd wedi ymrwymo i gael effaith gadarnhaol ar arfordir Cymru a’r gymuned leol.

Fforwm Arfordirol Sir Benfro

…Gwmni Buddiant Cymunedol arobryn sy’n ymroddedig i warchod a chynnal arfordiroedd a chefnforoedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Eu cenhadaeth yw ysbrydoli, cydweithio a darparu atebion ar gyfer cymunedau arfordirol cynaliadwy.

With Music in Mind

…cwmni sy’n anelu at wella lles a lleihau arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd i bobl 50+ oed drwy redeg canu, ymarfer corff ysgafn, a grwpiau cymdeithasol yn y gymuned. Ar hyn o bryd maent yn rhedeg chwe grŵp wythnosol mewn pedwar lleoliad ym Mro Morgannwg, mae’r grwpiau yn cynnwys canu neu ymarfer corff ysgafn, gyda lluniaeth ac awr o weithgaredd cymdeithasol strwythuredig i ddilyn.

Arloesedd y Flwyddyn gan Menter Gymdeithasol (Noddwyd gan Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant)

Bwriedir i’r wobr hon gydnabod menter gymdeithasol newydd neu bresennol gyda chynnyrch neu wasanaeth arloesol sy’n cyflwyno effaith gymdeithasol neu amgylchedd unigryw.

Enwebeion

Câr-y-Môr

…fferm wymon dan berchnogaeth gymunedol yn Sir Benfro, sy’n goruchwylio gweithrediadau purfa gwymon, gan greu dwysfwyd bio-symbylyddion a fydd yn gwella iechyd y pridd drwy leihau’r angen am wrtaith synthetig.

Creu Menter

…is-gwmni i Cartrefi Conwy, sydd yn darparu ystod o wasanaethau contractio a datblygu i gleientiaid ar draws y sector cyhoeddus a phreifat. Mae cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys adeiladu cartrefi ardystiedig Passivhaus sy’n cynnig y gorau o ran effeithlonrwydd ynni ac allyriadau carbon isel, gan gynnig manteision iechyd ac ariannol sylweddol i ddeiliaid.

SimpLee Swim Ltd

…yn darparu gwersi nofio arbenigol i rai ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau. Mae dod o hyd i ysgol nofio i blentyn ag anghenion dysgu ychwanegol neu anabledd bron yn amhosibl. Mae SimpLee Swim ar genhadaeth i newid hynny.

 

Mae gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2023 yn cael eu cefnogi’n falch gan ein noddwyr:

Prif noddwr:

Dwr Cymru, Welsh Water

Dŵr Cymru

Mae Dŵr Cymru yn gwmni dielw sy’n cyflenwi dŵr yfed o ansawdd uchel i dros 3 miliwn o gwsmeriaid mewn dros 1.4 miliwn o gartrefi a busnesau ledled Cymru.

Noddwyr categori:

Legal and General logo

Legal & General

Wedi’i sefydlu ym 1836, mae Legal & General yn un o brif grwpiau gwasanaethau ariannol y DU ac yn fuddsoddwr byd-eang mawr. Trwy gyfalafiaeth gynhwysol, ein nod yw adeiladu cymdeithas well trwy fuddsoddi mewn asedau hirdymor sydd o fudd i bawb.

The Co-ope

Y Co-op yw un o gwmnïau cydweithredol defnyddwyr mwyaf y byd, sy’n eiddo i filiynau o aelodau. Yn ogystal â chael amcanion masnachol clir a chyflogi bron i 70,000 o bobl, rydym yn arweinydd cydnabyddedig ar gyfer ein nodau cymdeithasol a’n rhaglenni a arweinir gan y gymuned. Rydym yn bodoli i ddiwallu anghenion aelodau a sefyll dros y pethau y maent yn credu ynddynt.

University of Wales Trinity St David (UWTSD) logo

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn darparu buddion clir, diriaethol i ddysgwyr, cyflogwyr, diwydiant a chymunedau trwy gynnig ymagwedd alwedigaethol o lefel mynediad i ymchwil ôl-ddoethurol.

Mae’n gyfnod cyffrous wrth i ni symud ymlaen i’r cam beirniadu terfynol lle byddwn yn dewis enillwyr y categorïau. I gael rhagor o wybodaeth am wobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2023 e-bostiwch awards@cwmpas.coop.

 

Mae'r broses ymgeisio bellach wedi cau.
Os hoffwch ddysgu mwy am Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru, e-bostiwch awards@cwmpas.coop.

 

Noddi’r Gwobrau

Oes gennych chi ddiddordeb mewn dod yn Noddwr Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru?

Os ydych chi’n gweithio i sefydliad y trydydd sector, corff y sector cyhoeddus neu fusnes preifat a’ch bod yn ofni colli allan, peidiwch ag ofni. Mae yna ffordd arall y gallwch chi gymryd rhan ar y daith wobrau ysbrydoledig hon.

Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru yw’r prif ddigwyddiad ar gyfer y sector busnes cymdeithasol yng Nghymru, ac mae bob amser yn denu nifer fawr o gynrychiolwyr, gan gynnwys staff ac aelodau bwrdd y sector busnes cymdeithasol, uwch weision sifil, cyfarwyddwyr awdurdodau lleol a chyfryngwyr cymorth busnes o bob cwr o Gymru.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn noddi neu’n gwybod am sefydliad a allai fod â diddordeb, yna cysylltwch â Elin Evans, Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus a Digwyddiadau yn Cwmpas: elin.evans@cwmpas.coop / 07464548058.