Gwobrau a Chynhadledd Busnes Cymdeithasol Cymru 2024

Mae’r Gwobrau a’r Gynhadledd yn ddigwyddiad deuddydd, a gynhelir dros 1af ac 2il o Hydref.

Diwrnod 1: Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru, 01/10/2024, 19:00 – 23:00

Yn digwydd ar 1af Hydref, ymunwch â ni ar gyfer Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru. Yn ei 9fed flwyddyn, mae’r categorïau’n cynnwys Menter Gymdeithasol y Flwyddyn, Un i’w Wylio, ac Arloesedd y Flwyddyn.

Bydd tocynnau i’r seremoni wobrwyo yn mynd ar werth ar 1 Awst 2024.

Diwrnod 2: Cynhadledd Busnes Cymdeithasol Cymru, 02/10/2024, 10:00 – 16:30

Bydd y gynhadledd, a gynhelir ar yr 2il o Hydref, yn darparu amgylchedd ar gyfer cyfnewid gwybodaeth, annog arloesi, a darparu cyfleoedd i ddysgu ac adeiladu partneriaethau gyda’r sector preifat a chyhoeddus.

 

Gweithdai

  • Caffael ar gyfer Mentrau Cymdeithasol
  • Model Cyfranddaliadau Cymunedol
  • Gofalu amdanaf i – pam fod eich lles yn hollbwysig i fenter gymdeithasol lwyddiannus
  • Pitsio – i Gyllidwyr, Buddsoddwyr, a Cwsmeriaid
  • Ariannu – Ceisiadau Cyllid Effeithiol

 

Bwrsari

Rydym yn falch iawn o allu cynnig bwrsariaeth unwaith eto i gefnogi mynychwyr o gymunedau a chefndiroedd amrywiol i fynychu’r Gwobrau a’r Gynhadledd.

Mae’r fwrsariaeth hon ar gael i’r rheini o gymunedau sy’n cael eu tangynrychioli yn y sector Menter Gymdeithasol, gan gynnwys pobl o gefndiroedd ethnig a/neu ddiwylliannol amrywiol, pobl o’r gymuned LGBTQ+, pobl ag anableddau, a phobl o gefndiroedd incwm isel.

Bydd y fwrsariaeth yn cynnwys y canlynol:

1. Tocyn trên neu fws dwyffordd i Landudno os ydych yn byw dros awr i ffwrdd o’r lleoliad.

2. Ystafell westy gyda brecwast wedi’i gynnwys yn Llandudno ar gyfer y 1af o Hydref os ydych yn byw mwy nag awr i ffwrdd o’r lleoliad.

3. £50 i helpu i dalu costau mynychu’r Gwobrau a’r Gynhadledd.

Am fwy o wybodaeth am y fwrsariaeth e-bostiwch awards@cwmpas.coop.

Cliciwch yma i wneud cais am y bwrsari. Am mwy o wybodaeth e-bostiwch awards@cwmpas.coop.

Event details

Date

Hydref 1, 2024 to Hydref 2, 2024

Time

19:00 - 16:30

Location

Venue Cymru, The Promenade, Penrhyn Cres, Llandudno LL30 1BB
Book Event