Gwobrau a Chynhadledd Busnes Cymdeithasol Cymru 2024: Ail-ddychmygu economi Cymru drwy Bobl, Elw, Pwrpas, a’r Blaned
Mae’r Gwobrau a’r Gynhadledd yn ddigwyddiad deuddydd, a gynhelir dros 1af ac 2il o Hydref.
Cliciwch yma i ddarganfod mwy am y gwobrau a’r gynhadledd.
Diwrnod 1: Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru, 01/10/2024, 19:00 – 22:00
Yn ei 9fed flwyddyn, ac yn cael ei chynnal gan y newyddiadurwr a’r darlledwr Siân Lloyd, ymunwch â ni i ddathlu’r mentrau cymdeithasol ledled Cymru sy’n gwneud gwahaniaeth bob dydd yn eu cymunedau.
Diwrnod 2: Cynhadledd Busnes Cymdeithasol Cymru, 02/10/2024, 09:00 – 16:30
Mae cynhadledd eleni yn canolbwyntio ar ail-ddychmygu economi Cymru drwy Bobl, Elw, Pwrpas a Phlaned, ac mae’n addo cymysgedd amrywiol o siaradwyr, gweithdai goleuedig, a chyfle perffaith i gysylltu â phartneriaid o’r sector preifat a chyhoeddus.
Mae tocyn i’r gynhadledd yn addo mynediad i offer a strategaethau ymarferol, y cyfle i ddysgu oddi wrth fentrau cymdeithasol llwyddiannus, a chyfleoedd rhwydweithio hanfodol.
Gweithdai
- Y Bunt Gymreig – Cadw cadwyni cyflenwi caffael yn lleol
- Rôl mentrau cymdeithasol mewn hybu twf a chynhyrchiant trwy drawsnewid economïau lleol – heriau/cyfleoedd
- Llwyddo a ffynnu mewn cyfnod cyfnewidiol
- Creu Cymru fwy cynhwysol a thosturiol
Cliciwch yma am mwy am ein gweithdai.
Siaradwyr
- Alwen Williams – Cyfarwyddwr Portffolio Uchelgais Gogledd Cymru
- Scott Darraugh – Cadeirydd Bevan Health / Leadling Lives a Prif Weithredwr Social AdVentures.
- Marquis Caines – Partner a Phennaeth Portffolio, Diversity X