Cydweithredu i Ofalu? Sut y gall modelau cydweithredol helpu i i fynd i’r afael â’r argyfwng mewn gofal

Mae Vikki Howells AS, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar gyfer Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol, yn eich gwahodd i’w gyfarfod nesaf, a gynhelir yn rhithiol. Yn y cyfarfod hwn byddwn yn trafod dyfodol y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru, a sut y gall modelau a gwerthoedd cymdeithasol chwarae rôl allweddol.

Mae’r sector gofal cymdeithasol yn darparu gwasanaeth cwbl hanfodol i bobl a chymunedau ledled Cymru. Gwaethygodd Covid-19 yr heriau sy’n wynebu’r rhai sy’n derbyn gofal a’r rhai sy’n gweithio i ddarparu gofal. Gwyddom fod newidiadau demograffig y dyfodol yn mynd i ymestyn adnoddau ymhellach. Mewn blog diweddar, dywedodd Donna Coyle, Rheolwr Prosiect Cwmpas ar gyfer Gofal a Chymorth, “ni allwn fforddio aros i’r system gofal cymdeithasol chwalu’n llwyr cyn gweithredu. Rhaid inni symud a newid pethau nawr.”

Yn y cyfarfod hwn, byddwn yn clywed am werthoedd a modelau cydweithredol yn y sector gofal cymdeithasol, y profiadau o ddatblygu’r dulliau hyn mewn cymunedau ledled Cymru, a sut y gall polisi helpu datblygu’r sector hon. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud sawl ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i ddiwygio ac ail-gydbwyso’r sector gofal cymdeithasol, a chredwn fod yn rhaid i hyn fod yn elfen hanfodol o gyflawni’r amcan hwn.

Ein panel ar gyfer y digwyddiad hwn yw:

  • Geraint Jenkins (Carteri Co-op)
  • Meilys Heulfryn Smith (Arweinydd y Rhaglen ar gyfer Trawsnewid Gofal Iechyd a Cymdeithasol Cymunedol yn Cyngor Gwynedd)
  • Hugh Irwin (Drive Wales)

 

Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle:

 

  • i ddysgu am fodelau gofal cydweithredol a sut y gallent gael eu sefydlu yn eich ardal
  • i ddysgu oddi wrth y rhai sydd wedi mabwysiadu’r dulliau hyn a’r teithiau y maent wedi bod arnynt
  • trafod y rhwystrau i roi’r syniadau hyn ar waith a’r hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i’w cefnogi
  • i gysylltu ag eraill sydd â diddordeb mewn datblygu sector gofal cymdeithasol cydweithredol yng Nghymru

Event details

Date

Mehefin 29, 2022

Time

12:00 - 13:30

Location

Ar-lein
Book Event