Ein Dyfodol: Planed, Cymuned, a’r Hunan
Cewch eich ysbrydoli, cynhyrchwch syniadau newydd, ac enillwch sgiliau ymarferol i fynd â’ch busnes cymdeithasol i’r lefel nesaf.
Ein Dyfodol: Planed, Gymuned, a’r Hunan, yw’r gynhadledd a gyflwynir gan Busnes Cymdeithasol Cymru yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd, gyda’r bwriad penodol o ddarparu ysbrydoliaeth, syniadau, a sgiliau ymarferol i fusnesau cymdeithasol yng Nghymru – a fydd yn eich galluogi i a bod yn fwy cynaliadwy.
Bydd y gynhadledd hon yn darparu amgylchedd ar gyfer cyfnewid gwybodaeth, rhannu arfer gorau a rhwydweithio o fewn y sector; annog arloesi; a darparu cyfleoedd i ddysgu oddi wrth y sector preifat a chyhoeddus a meithrin partneriaethau.
Bydd ein harlwy anhygoel o siaradwyr yn cynnwys y ddarlledwraig Sian Lloyd, Changemaker ac Ymgynghorydd Newid Hinsawdd Benita Matofska, a Gweinidog yr Economi Vaughan Gething MS.
Rydym yn cynnig bwrsariaeth i gefnogi mynychwyr o gymunedau a chefndiroedd amrywiol i fynychu’r gynhadledd.
Bydd y fwrsariaeth yn cynnwys y canlynol:
- Tocyn am ddim i’r digwyddiad.
- Tocyn trên neu fwa dwyffordd i Abertawe, neu os oes nifer sylweddol o bobl yn dod o’r un ardal, gallwn drefnu bws mini.
- £50 i dalu am eichgostau i fynychu’r gynhadledd.
- Yn ogystal, os bydd yn cymryd mwy na dwy awr i chi deithio i Abertawe ac na allwch deithio i’r gynhadledd ac oddi yno mewn un diwrnod, byddwn yn darparu ystafell westy i chi ar gyfer dydd Llun 6 Mawrth gyda brecwast yn gynwysedig.
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am y fwrsariaeth yw 1af o Fawrth 2023. Anfonwch e-bost at elin.evans@cwmpas.coop am fwy o wybodaeth, ac am ffurflen gais.
Siaradwyr
Bydd y darlledwraig Sian Lloyd, Ysgogwr Newid ac Ymgynghorydd Newid Hinsawdd Benita Matofska, Arweinydd Busnes a Menter Doughnut Economics Action Lab Erinch Sahan, a Gweinidog yr Economi Vaughan Gething AS yn siarad yng Nghynhadledd Busnes Cymdeithasol Cymru ac yn rhoi cipolwg allweddol ar heriau’r sector.
Gweithdai
Byddwn yn cynnal nifer o gweithdai yng nghynhadledd eleni a fydd yn rhoi’r ysbrydoliaeth, y syniadau a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen arnoch i fynd â’ch busnes i’r lefel nesaf.