Interniaeth Cymunedau Digidol Cymru 2024

Interniaeth Cymunedau Digidol Cymru 2024

Mae Cwmpas yn cynnig interniaethau gyda’n Cyfarwyddiaeth Cymunedau Cynhwysol. Nod yr interniaeth 6 mis o hyd yn nhîm Cymunedau Digidol Cymru yw ymgysylltu â phobl sydd â phrofiad bywyd ac sydd o gefndiroedd amrywiol i ddatblygu dealltwriaeth o’r agenda cynhwysiant digidol yng Nghymru, cael eu huwchsgilio fel Hyrwyddwr Digidol, ac annog ymgysylltu â dinasyddion. Mae’r interniaeth hon ar gael i unigolion dros 18 oed, ar unrhyw adeg yn eu gyrfa, fel cyfle i weithio gydag unig raglen cynhwysiant digidol cenedlaethol Cymru.  

 

Ein sefydliad 

Mae Cwmpas yn asiantaeth ddatblygu sy’n gweithio dros newid cadarnhaol, yng Nghymru a ledled y DU. Rydym yn gwmni cydweithredol ac yn canolbwyntio ar adeiladu economi decach, wyrddach a chymdeithas fwy cyfartal, lle daw pobl a’r blaned yn dod gyntaf. 

Ein nod yw creu economi wyrddach a thecach drwy weithio i gynyddu’r gyfran o’r economi sy’n cynnwys mentrau cymdeithasol, cydweithfeydd a busnesau sy’n eiddo i’r gweithwyr; cymdeithas sy’n fwy cyfartal drwy weithio i hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol – gan gynyddu mynediad, tegwch, amrywiaeth a chyfranogiad; a gwneud i newid cadarnhaol ddigwydd trwy weithio gyda phobl a sefydliadau i weithredu er lles cymdeithasol. 

Yn sail i’n gwaith mae ymrwymiad i ddarparu cefnogaeth i bobl, cymunedau a busnesau mewn ffyrdd sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd cydweithredol ein hunain. Credwn fod y ffordd a wnawn bethau yr un mor bwysig â’r hyn a wnawn. Mae ein gwerthoedd wedi’u hysbrydoli gan yr egwyddorion cydweithredol rhyngwladol ond wedi’u hysgrifennu yng ngeiriau ein staff. Dyma nhw: 

  • bod yn gydweithredol 
  • bod yn gefnogol 
  • bod yn deg 
  • bod yn onest 
  • bod yn gadarnhaol 
  • bod yn ysbrydoledig 

Fel sefydliad nid-er-elw, caiff ein gwaith ei ariannu drwy gontractau a masnachu yn ogystal â chael ei gefnogi gan amrywiaeth o gyllidwyr, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. 

Gallwch ddarllen popeth am ein meysydd gwaith yma a gallwch ddarllen am yr effaith a gawn yma. 

 

Ein pobl 

Ledled Cymru, rydym bellach yn cyflogi bron i 100 o bobl o wahanol oedran, rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol. Ond rydym hefyd yn cydnabod nad ydym yn cynrychioli’n llawn y cymunedau a’r bobl a wasanaethwn o ran hil ac anabledd ac rydym yn awyddus iawn i sicrhau ein bod yn cofleidio sgiliau, galluoedd a phrofiadau pobl o gefndiroedd amrywiol yn llawn. Mae hyn oherwydd y credwn fod tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant yn hanfodol i’n twf. 

 

Y cyfle 

Cymunedau Digidol Cymru  

Ffocws a nod CDC o 1 Ebrill 2024 tan 30 Mehefin 2025 yw gwreiddio a phrif ffrydio cynhwysiant digidol o fewn meysydd thematig gan sicrhau perchnogaeth o gynhwysiant digidol. Yn awr, yn fwy nag erioed, mae’n hollbwysig bod cynhwysiant digidol yn cael ei wreiddio mewn sefydliadau a chymunedau ledled Cymru, ei brif ffrydio a’i berchnogi. Nid cyfrifoldeb un sefydliad yw cynhwysiant digidol, ac ni all gael ei hyrwyddo gan un rhaglen yn unig. Mae’n gofyn am gydweithrediad ac ymrwymiad gan amrywiol randdeiliaid, gan weithio gyda’n gilydd, fel y gallwn greu cenedl ddigidol gynhwysol yng Nghymru sydd o fudd i bawb ac nad yw’n gadael neb ar ôl.  

Bydd pob interniaeth yn rhedeg am hyd at chwe mis. Dechreuir trwy weithio ochr yn ochr â thîm CDC, cyn treulio amser gyda sefydliad partner dibynadwy. Ar ddiwedd y 6 mis, bydd yr interniaid yn cael eu hannog i weithredu fel Hyrwyddwyr Digidol yn eu cymunedau.   

 

Beth yw’r nod? 

Ein meysydd thematig yw Iechyd, Gofal Cymdeithasol, Tai Cymdeithasol, Pobl Hŷn, cymunedau lleiafrifoedd ethnig, a chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Gwyddom mai’r ardaloedd hyn sydd â’r pwyntiau cyswllt mwyaf â chymunedau sydd fwyaf mewn perygl o gael eu hallgáu’n ddigidol, gan gynnwys y rheini ag anableddau a chyflyrau gydol oes cyfyngus. Nod y lleoliad gwaith hwn yw cynyddu ymwybyddiaeth o gynhwysiant digidol, ac i’r intern ddod yn ‘Hyrwyddwr Digidol’ ymhlith pobl sydd wedi wynebu rhwystrau i ymgysylltu ar-lein a gosod y sylfeini ar gyfer cyrraedd a gwreiddio cynhwysiant digidol. 

Mae’r interniaeth hon ar gael i unigolion dros 18 oed, ar unrhyw adeg yn eu gyrfa, fel cyfle i weithio gyda phrif raglen Cynhwysiant Digidol Cymru. 

Mae’r rhaglen hon yn agored i unigolion sydd â phrofiad o fyw yn unol â meysydd thematig ein rhaglen. Rydym yn chwilio am bobl sydd â phrofiad o fyw o’r meysydd hyn: 

  • Pobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig amrywiol 
  • Pobl o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr 
  • Pobl hŷn 
  • Pobl ag anableddau neu gyflyrau gydol oes 
  • Pobl sy’n byw mewn tai cymdeithasol 
  • Pobl sydd neu sydd wedi bod yn Ofalwyr 

 

Beth gaiff ei gynnig? 

Byddwn yn cynnig interniaeth 6 mis gyda’n tîm Cymunedau Digidol Cymru. Bydd yr interniaeth yn rhedeg o 1 Awst 2024 tan 31 Mawrth 2025. Yn ddelfrydol, byddai’r interniaeth yn rôl lawn-amser (35 awr yr wythnos), ond byddem hefyd yn ystyried bod yr intern yn gweithio’n rhan-amser (21–35 awr yr wythnos) os yw hyn yn helpu i gefnogi ymrwymiadau eraill neu anghenion hygyrchedd. Byddwn yn talu’r cyflog byw gwirioneddol ar gyfer y rôl hon, h.y., £12 yr awr (cyfwerth â £21,840 y flwyddyn) pro rata os gofynnir am oriau rhan-amser, os yw hyn yn helpu i gefnogi ymrwymiadau eraill neu anghenion hygyrchedd. 

Bydd yr Intern yn gweithio gartref gan ddefnyddio datrysiadau digidol fel Microsoft Teams i gyfathrebu ag aelodau’r tîm a rheoli dogfennau gwaith. Bydd offer digidol yn cael eu darparu i’w galluogi i wneud hyn. Bydd yna gyfleoedd i dreulio amser gyda thîm ehangach Cymunedau Digidol Cymru yn y cnawd, ac ar-lein. Lle mae angen teithio o fewn Cymru, bydd Cwmpas yn talu costau milltiredd neu’n prynu tocynnau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus. 

 

Beth fyddwch chi’n ei wneud? 

Byddwch wedi’ch lleoli yn ein tîm Cymunedau Digidol Cymru ac yn ymwneud ag estyn allan ac ymgysylltu â phobl o gymunedau ymylol ledled Cymru i hyrwyddo ac annog ymgysylltiad â’n rhaglen cynhwysiant digidol. 

Bydd hyn yn golygu deall y rhwystrau a’r agenda cynhwysiant digidol. Byddwch yn cael eich uwchsgilio i ddarparu a chefnogi ein rhaglen hyfforddiant cynhwysiant digidol, a byddwch yn gweithio’n agos gyda’n gweithgorau Thematig i feithrin perthnasoedd ystyrlon a dod â phobl ynghyd i drafod yr heriau y maent yn eu hwynebu a sut i’w goresgyn ar y cyd. Byddwch yn gwneud hyn oll wrth hyrwyddo cynhwysiant digidol ymhlith sefydliadau a chymunedau.  

Gallai diwrnod arferol gynnwys: 

  • Siarad â chymunedau am eu hanghenion cynhwysiant digidol;  
  • Deall ac ymchwilio i’r agenda cynhwysiant digidol, a’r agenda allgau yn unol â’r grwpiau thematig uchod;   
  • Cynnal digwyddiadau ymgysylltu cymunedol, gan gynnwys sesiynau gwybodaeth, sesiynau galw heibio, gweithdai ac ati, i annog gwell sgiliau digidol a hyder, wrth ysbrydoli grwpiau i feddwl yn wahanol am y byd digidol. Gellid cynnal y rhain ar-lein neu wyneb yn wyneb â grwpiau cymunedol;  
  • Gweithio fel rhan o dîm i ddylanwadu ar y rhai sy’n llunio polisïau a phenderfyniadau; 
  • Cysylltu ag interniaid eraill o fewn Cyfarwyddiaeth Cymunedau Cynhwysol Cwmpas a rhannu syniadau a dysg.  

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu? 

  • Byddwch yn dysgu am yr agenda cynhwysiant digidol yng Nghymru, a’r pwysigrwydd y mae cynhwysiant yn ei chwarae ar gyfer trawsnewid digidol yn y dyfodol;  
  • Byddwch yn dysgu am fanteision gwreiddio sgiliau digidol a hyder mewn cymunedau a sefydliadau, gan gynnwys sut y gall leihau arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd, cynyddu hyder a sgiliau, yn ogystal â chreu dinasyddion digidol mwy gwydn;   
  • Byddwch yn cael y cyfle i ymgysylltu ag amrywiaeth eang o bobl a chymunedau, a’u helpu i gymryd camau i fynd i’r afael â materion sydd o bwys iddynt; 
  • Byddwch yn ennill profiad gwerthfawr o weithio fel rhan o dîm sy’n cael ei yrru’n gyflym, sy’n gweithio gyda chymunedau amrywiol ledled Cymru; 
  • Byddwn yn rhoi cylch gwaith i chi ar gyfer eich gwaith, a fydd yn eich galluogi i weithio’n annibynnol a defnyddio’ch creadigrwydd eich hun ond a fydd hefyd yn rhoi cymorth i chi pan fydd ei angen arnoch; 
  • Byddwch yn cael mynediad at ein Hwb E-ddysgu, sydd ag amrywiaeth o fodiwlau ar gael ar bynciau fel Iechyd a Diogelwch, GDPR, Arweinyddiaeth, TG a Llesiant. Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd tîm ac mewn unrhyw gyfleoedd hyfforddi mewnol a allai godi o bryd i’w gilydd. 

Pa sgiliau sydd eu hangen arnoch chi? 

Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd: 

  • yn ymroddedig i’n gwerthoedd sefydliadol; 
  • yn gallu hyrwyddo ein hymrwymiad i gydraddoldeb, tegwch a chynhwysiant; 
  • yn gallu cyfathrebu (ar lafar ac yn ysgrifenedig) i safon uchel yn Saesneg; 
  • yn gallu trefnu eu hunain yn dda a thrin gwaith gwahanol ar gyfer gwahanol derfynau amser; 
  • yn gallu gweithio’n dda o fewn tîm; 
  • yn gallu meddwl yn greadigol, ac awgrymu syniadau newydd; 
  • yn gallu defnyddio cyfrifiadur ac, yn ddelfrydol, blatfformau fel Microsoft Teams, PowerPoint, Facebook, Twitter, LinkedIn neu YouTube. 

 

Pwy all wneud cais? 

Os ydych chi’n meddwl y byddech chi’n addas ar gyfer ein lleoliad gwaith, rydym yn chwilio am bobl: 

  • a all ddangos tystiolaeth o’r hawl i weithio yn y DU; 
  • sy’n gallu ymrwymo i’r cyfnod lleoliad llawn o 6 mis yn llawn-amser neu ran-amser; 
  • sydd â mynediad at y rhyngrwyd gartref; 
  • a all deithio i gyfarfodydd neu ddigwyddiadau yn ôl yr angen. 

Rydym yn annog, yn arbennig, geisiadau gan bobl sy’n draddodiadol wedi’u tangynrychioli yn y farchnad lafur yng Nghymru, ond mae’r lleoliad gwaith hwn yn agored i bob ymgeisydd cymwys waeth beth fo’i ryw, oedran, anabledd, hunaniaeth o ran rhywedd, hil, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd, cred neu ddiffyg cred, beichiogrwydd, priodas neu bartneriaeth sifil. Mae hefyd yn agored i bobl ag unrhyw lefel o brofiad gwaith mewn unrhyw faes, gan gynnwys y rhai heb unrhyw brofiad o gwbl. 

Sut ydych chi'n gwneud cais?
I wneud cais am yr interniaeth, cwblhewch ein ffurflen gais fer a’i hanfon at recruitment@cwmpas.coop. Rhaid i chi gyflwyno eich ceisiadau erbyn hanner nos ar Gorffennaf 22, 2024 Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Nicola Leybourne, Rheolwr Pobl a Diwylliant ar 029 2080 7113.