Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cwmpas 2024

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cwmpas 2024

Credwn y gall cwmnïau cydweithredol ac egwyddorion cydweithredol helpu pobl, teuluoedd, cymunedau a busnesau i fod yn gryfach ac yn fwy hyderus. Gallwch gefnogi’r egwyddorion hyn a helpu i ledaenu’r delfrydau hyn trwy gymryd rhan yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Fel aelod o Cwmpas, fe’ch gwahoddir i fynychu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol eleni, y byddwn yn ei gynnal ar-lein trwy Zoom ddydd Gwener 27 Medi 2023 am 10 am.

Etholiadau i’r Bwrdd

Mae tair swydd wag ar y Bwrdd eleni, ac mae enwebiadau wedi dod i law gan yr aelodau canlynol:

Gallwch weld gwybodaeth am bob un o’r enwebeion isod.

Os na allwch fod yn bresennol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ond yr hoffech benodi dirprwy i bleidleisio ar eich rhan, llenwch y ffurflen penodi dirprwy isod a’i dychwelyd trwy e-bost at info@cwmpas.coop erbyn canol dydd Medi 26ain.

 

Ymunwch â ni ar gyfer Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cwmpas 2024!
Cofrestrwch eich lle yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cwmpas 2024 trwy ein tudalen Eventbrite.
Cadwch eich lle