Pecyn cymorth 01: Cwrdd â’r tîm

Yn yr adran hon byddwch yn cwrdd â thîm Cymunedau’n Creu Cartrefi ac yn darganfod sut y gallwn helpu i wireddu eich breuddwyd.

Pecyn cymorth 01: Cwrdd â’r tîm

Pwy ydym ni a sut gallwn ni helpu?

Tîm Cymunedau’n Creu Cartrefi yw’r canolbwynt ar gyfer tai dan arweiniad y gymuned yng Nghymru. Rydym yn bodoli i gefnogi cymunedau yng Nghymru i ddatblygu eu cartrefi fforddiadwy a charbon-isel eu hunain. Gwyliwch y fideo byr hwn i ddarganfod sut:

Fel mae’r fideo yn dangos, mae ein gwaith yn cynnwys darparu cymorth uniongyrchol i grwpiau cymunedol sydd eisiau creu prosiectau tai dan arweiniad y gymuned. Byddwn yn gweithio gyda chi o ddechrau’r broses, hyd at ddarparu cartrefi a thu hwnt, gan helpu cymunedau i ehangu.

Nid oes unrhyw ddau syniad yr un peth a byddwn yn addasu ac yn teilwra ein gwasanaethau i gwrdd â’ch anghenion unigryw. Rydyn ni’n gyffrous i weithio gydag unrhyw un sy’n barod i feddwl yn wahanol am dai.

Rydym hefyd yn gweithio i helpu’r llywodraeth a phartneriaid allweddol eraill i greu amgylchedd cefnogol ar gyfer grwpiau cymunedol sy’n ceisio darparu tai. Mae hyn yn golygu gweithio gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, cymdeithasau tai ac eraill i sefydlu newidiadau sy’n ei gwneud yn haws i gymunedau greu eu cartrefi eu hunain.

Pecyn cymorth: Hafan

Mae ein pecyn cymorth yn cynnwys gwybodaeth hanfodol ac adnoddau allweddol i’ch helpu i sefydlu a rhedeg prosiect tai dan arweiniad y gymuned (TDAG) llwyddiannus, o’r camau cyntaf o archwilio hyd at adeiladu a byw yn y cartrefi neu eu stiwardio.

Darganfyddwch fwy
Pecyn cymorth 02: Cyd-destun a chysyniadau

Yn yr adran hon byddwn yn mynd yn ôl at y pethau sylfaenol, gan edrych ar ddiffiniad o dai dan arweiniad y gymuned ac archwilio'r gwahanol fodelau i ddewis ohonynt yn dibynnu ar anghenion a gweledigaeth eich grŵp.

Darganfyddwch fwy
Pecyn cymorth 03: Cychwyn arni

Yn yr adran hon byddwch yn dysgu am gamau cynharaf sefydlu prosiect tai dan arweiniad y gymuned, gan gynnwys diffinio eich gweledigaeth ac ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol.

Darganfyddwch fwy