Cais Busnes Cymdeithasol Cymru – Busnes Preifat (Pherchnogaeth Gweithiwr)
Busnes Cymdeithasol Cymru: Cais Am Gymorth gyda Pherchnogaeth Gweithiwr
Mae Cwmpas yn darparu cymorth dwys, un-i-un i fusnesau sydd ag uchelgais i symud o fodel busnes traddodiadol i berchnogaeth gan weithwyr. Byddwn yn rhoi cymorth arbenigol i chi i’w wireddu.
Mae ein tîm o gynghorwyr yn arbenigwyr mewn:
- Cynllunio gweledigaeth a thwf
- Ymgysylltu â rhanddeiliaid
- Cyngor ar strwythur cyfreithiol a chorffori
- Datblygiad y Bwrdd
- Cynllunio busnes
- Cynllunio ariannol
Bydd cyngor ychwanegol ar feysydd fel eiddo deallusol a chymorth masnach ryngwladol yn cael ei ddarparu drwy Busnes Cymru. Cwblhewch y ffurflen gais isod. Yn unol â’n huchelgeisiau sero net, mae Busnes Cymdeithasol Cymru yn cael ei gyflawni’n bennaf ar-lein gyda pheth darpariaeth wyneb yn wyneb. Rhowch wybod i ni os na allwch gael mynediad i gyfarfodydd ar-lein.
Cefnogaeth Ar-lein
Wedi’i ddatblygu gan Cwmpas a Llywodraeth Cymru, mae employeeownershipwales.co.uk/cy/ yn darparu rhagor o wybodaeth am opsiynau perchnogaeth gweithwyr ac astudiaethau achos. Darperir y cymorth hwn gan Cwmpas ar draws Cymru gyfan drwy Weithrediad Busnes Cymdeithasol Cymru; caiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Sicrhewch eich bod yn cwblhau pob maes sydd wedi’i osod i (Angenrheidiol).
RHAID I CHI LENWI’R CAPTCHA AR DDIWEDD Y FFURFLEN ER MWYN BWYDO’R FFURFLEN DRWY I’R TÎM.