Adroddiad Cynnydd: Trawsnewid Cymru drwy Fenter Cymdeithasol

Adroddiad Cynnydd: Trawsnewid Cymru drwy Fenter Cymdeithasol

Yn 2020, lansiodd y Grŵp Rhanddeiliaid Mentrau Cymdeithasol ei Weledigaeth a Chynllun Gweithredu a arweinir gan y sector: Trawsnewid Cymru drwy Fenter Gymdeithasol. Roedd yn dathlu effaith gadarnhaol y model menter gymdeithasol ac yn nodi’r uchelgais i wneud menter gymdeithasol y model busnes o ddewis yng Nghymru erbyn 2030.  

Eleni, wrth i ni nesáu at y ganolbwynt, rydym yn cyhoeddi adroddiad cynnydd s’yn amlinellu’r hyn sydd wedi’i gyflawni ers cyhoeddi’r Weledigaeth a’r Cynllun Gweithredu, y cyd-destun newidiol mae’n rhan ohono a’n huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol. Mae’n amlinellu’r camau a gymerwyd tuag at sicrhau sector sydd, ac sy’n barod i fod, yn rhan allweddol o ddatblygiad economaidd Cymru yn y dyfodol. Mae hefyd yn amlygu bod llawer o waith i’w wneud o hyd a bod angen cymryd camau pellach i gyflawni’r canlyniadau yn y cynllun ac adeiladu momentwm y tu ôl i’r uchelgais mai hwn fydd y model busnes o ddewis erbyn 2030. 

Lawrlwythwch PDF o’r adroddiad yma

Nawr, mwy nag eirioed, mae Cymru angen y sector menter gymdeithasol a’i fodel gwaelodlin triphlyg sy’n gwreiddio cynaliadwyedd, gwytnwch a llesiant yn ein heconomïau lleol. Gall y sector fod yn hynod falch o’r effaith leol y mae eisoes yn cael ac rydym yn angerddol am ei botensial yn y dyfodol i newid mwy o fywydau mewn cymunedau ledled Cymru. 

Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda ni i gyflawni ein huchelgais, cysylltwch â dan.roberts@cwmpas.coop a byddem yn falch iawn o drafod.  

Mae’r Grŵp Rhanddeiliaid Mentrau Cymdeithasol yn gonsortiwm aml-aelod ac yn bartneriaeth o sefydliadau sy’n cefnogi’r sector menter gymdeithasol yng Nghymru ac yn cynnwys Cwmpas, CGGC, Cwmnïau Cymdeithasol Cymru, UnLtd a CYD Cymru.