Gwasanaethau Ymgynghori

Mae ein tîm ymgynghori yma yng Cwmpas wedi datblygu gwasanaeth unigryw i helpu sefydliadau, yn y sector cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector i gael yr effaith gymdeithasol fwyaf.

Gwasanaethau Ymgynghori

Ymgynghorwyr ar gyfer Newid Cadarnhaol

Rydym yn ymgynghorwyr ar gyfer newid cadarnhaol. Gyda’n gilydd, gallwn adeiladu cymunedau cryfach, cyfoethocach. Mae ein gwasanaethau ymgynghori busnes yn canolbwyntio ar gadw cyflogaeth, caffael a chyfleoedd yn lleol, fel y gallwn roi hwb i’r rhai o’n cwmpas.

Rydyn ni’n gwybod bod sefydliadau’n dechrau meddwl yn wahanol am eu heffaith gymdeithasol ac rydyn ni’n gwybod bod gennych chi fwy na thebyg syniadau ar gyfer newid cadarnhaol. Nawr mae’n bryd gwneud gwahaniaeth a bod y gwahaniaeth. Gall y ffordd rydych chi’n gweithredu, pwy rydych chi’n dewis gweithio gyda nhw a chaffael ganddyn nhw gael effaith gadarnhaol barhaus ar bobl leol a’r cyfleoedd sydd ganddyn nhw. Felly, gadewch i ni wneud bywyd yn well i bawb.

Mae’n amser. Gadewch inni ddangos y ffordd i chi.

Sut mae Cwmpas yn gwneud i newid cadarnhaol ddigwydd?

Cydweithio â’n cleientiaid

Mae ein tîm yn gweithio gydag awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, prifysgolion, elusennau, mentrau cymdeithasol, a busnesau yn y sector preifat, gan eu helpu i feddwl yn greadigol a gweithredu’n gall fel y gallant wreiddio’r math o werthoedd cadarnhaol yn eu gweithrediadau sy’n dod â buddion cymdeithasol ac economaidd cadarn a pharhaol i’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Gwerth cymdeithasol, trawsnewid digidol, dysgu a datblygu, strategaeth fusnes, ymgysylltu, gwerthuso, ac ymchwil yw rhai o’r arfau a ddefnyddiwn i gyflawni’r newid cadarnhaol hwn. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn un o’n cerrig cyffwrdd allweddol ar gyfer y gwaith a wnawn, ac, wrth ei chalon, mae’r Ddeddf yn ymwneud â helpu ein cymunedau gwerthfawr yng Nghymru i ffynnu.

Gadewch i ni weithio’n gallach. Gadewch i ni weithio’n fwy caredig. Gadewch i ni gyflawni hyn.

Ein gwasanaethau ymgynghori busnes

Rydym yn cefnogi sefydliadau a’r trydydd sector i werthuso, gwella a gweithredu newid digidol ac i ddiogelu eu darpariaeth gwasanaeth at y dyfodol.

Gan weithio gydag arweinwyr cymdeithasol a gwneuthurwyr newid cadarnhaol, rydym yn cyflwyno rhaglenni, gweithdai, a Hackathons yn benodol i annog ymgysylltu, arloesi a chanlyniadau sy’n canolbwyntio ar atebion.

Rydym yn helpu sefydliadau i gyflwyno buddion ychwanegol i gymuned. Rydym yn helpu busnesau i nodi gwerth cymdeithasol oddi mewn, cysylltu eu cadwyn gyflenwi â mentrau cymdeithasol a lleol a chynorthwyo gyda gweithredu strategaeth gwerth cymdeithasol.

Rydym yn cefnogi comisiynwyr a chaffaelwyr gofal i hyrwyddo modelau darparu gwerth cymdeithasol.

Mae ein tîm yn cynnal gwerthusiad ôl-gyllid/grant ac yn darparu dadansoddiad o’r allbynnau a’r canlyniadau yn erbyn yr amcanion. Ein nod yw datgelu’r gwerth a ddarperir gan gyllid a dangos yr effaith a’r canfyddiadau.

Rydym yn cynghori sefydliadau i ddatblygu syniadau a chynlluniau busnes cryf, trwy sesiynau syniadau, ymchwil, gwerthuso, a diwydrwydd dyladwy i gynhyrchu incwm.

Gweithiodd ein tîm o gynghorwyr yn agos ar ymchwil a datblygu caffael, i gynghori’r llywodraeth ar bolisïau er budd adeiladu cyfoeth cymunedol.

Mae Cwmpas yn darparu contractau ledled Cymru gyda’r nod o effeithio ar gymunedau a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.

Cysylltu â ni

I gael gwybod mwy am ein gwasanaethau, ffoniwch 0300 111 5050 neu e-bostiwch commercialteam@cwmpas.coop

Cysylltu â ni
Podlediadau: Gwerth Cymdeithasol

Mae ein cyfres o bodlediadau yn archwilio beth yw gwerth cymdeithasol, beth mae'n ei olygu i wahanol ddiwydiannau a'r budd y gall gwerth cymdeithasol ei gael yn ein cymunedau.

Dysgu mwy am ein podlediadau
Hacio'r Dyfodol

Darganfyddwch sut rydyn ni wedi esblygu Hacathon y tu hwnt i'r byd technoleg i lwyfannau dinesig, iechyd ac addysgol ehangach.

Dysgu mwy am Hacio'r Dyfodol