Cymunedau Digidol Cymru

Hyder Digidol, iechyd a llesiant yw lleihau achosion o allgau digidol yn ein gwlad

Cymunedau Digidol Cymru

Beth ydyn ni’n ei wneud?

Ein ffocws a’n nod rhwng 1 Ebrill, 2024 a 30 Mehefin 2025 yw ymgorffori a phrif ffrydio cynhwysiant digidol mewn meysydd thematig a nodwyd gan sicrhau perchnogaeth ar gynhwysiant digidol.

Mae ein cymorth yn rhad ac am ddim ac mae’n cwmpasu amrywiaeth o wahanol feysydd thematig: Iechyd, Gofal Cymdeithasol, Tai Cymdeithasol, Pobl Hŷn, Cymunedau Ethnig Lleiafrifol, a Chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Rydyn ni yma i weithio gyda sefydliadau yn y meysydd thematig hyn i’w cynorthwyo i sefydlu cynhwysiant digidol, gan sicrhau perchnogaeth a chadernid ar y cyd.

Gwyddom mai’r ffordd orau o gyrraedd cymunedau sy’n profi allgáu digidol yw gweithio gyda’r wynebau a’r sefydliadau dibynadwy sy’n eu cefnogi’n uniongyrchol. Bydd ein cymorth yn adlewyrchu hyn wrth i ni weithio gyda sefydliadau i sicrhau bod gan eu staff a’u gwirfoddolwyr y sgiliau angenrheidiol i gynorthwyo eraill.

Byddwn yn gweithio gyda chi i ddatblygu cynllun sy’n cyd-fynd â’ch gweledigaeth a’ch syniadau ynghylch cymorth cynhwysiant digidol.

Ymgynghori – Mae ein Cynghorwyr ar gael i gwrdd â chi i drafod eich uchelgeisiau a’ch gofynion ac i archwilio dulliau strategol a gweithredol i ddatblygu ac ymgorffori cynhwysiant digidol yn eich sefydliad. Gallant eich tywys drwy’r cymorth amrywiol, gan gynnwys benthyg offer digidol yn y tymor byr – fel cyfrifiaduron llechen, gliniaduron, MiFis, a dyfeisiau clyfar – fel y gallwch roi cynnig ar dechnoleg newydd a chyflwyno gweithgareddau digidol. Mae ein hymgynghoriadau’n darparu cymorth gwerthfawr i gymryd y camau cadarnhaol sydd eu hangen i ddatblygu sgiliau a hyder eich gweithlu a phobl Cymru.

Hyfforddiant – Rydyn ni’n darparu pob math o hyfforddiant cynhwysiant digidol i staff rheng flaen a gwirfoddolwyr i roi’r hyder, y wybodaeth a’r sgiliau iddyn nhw ddefnyddio technoleg eu hunain ac i helpu eraill. Mae gennym gynigion hyfforddi sy’n briodol ar gyfer y gwahanol feysydd thematig sydd â’r nod o ymgysylltu ag amrywiaeth o gynulleidfaoedd, o ysbrydoli staff i ddefnyddio adnoddau digidol, i helpu eraill a bod yn ddiogel ar-lein. Gallwn gynnig hyfforddiant pwrpasol hefyd wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer eich sefydliad a’ch anghenion cynhwysiant digidol. Mae’r hyfforddiant a ddarparwn i sefydliadau a phobl yng Nghymru yn mynd law yn llaw â’r cymorth ymgynghori digidol gan ein tîm arbenigol o Ymgynghorwyr.

Archwiliad sgiliau digidol – Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb mewn deall sgiliau digidol, hyder a mynediad eich staff neu wirfoddolwyr. Rydyn ni wedi creu arolwg sgiliau sy’n eich helpu i ddeall hyn.

Hyrwyddwyr Digidol – Mae Hyrwyddwyr Digidol yn chwarae rhan hollbwysig wrth helpu pobl i fynd ar-lein yng Nghymru, a gallant helpu sefydliadau gyda’u taith trawsnewid digidol a sefydlu ffyrdd newydd o weithio. Maen nhw’n bobl sydd â sgiliau digidol sylfaenol sydd am helpu eraill i elwa ar dechnoleg ddigidol. Gallwn helpu i wella sgiliau digidol a hyder staff a gwirfoddolwyr a chefnogi datblygiad rhaglenni hyrwyddwyr digidol.

Siarter Cynhwysiant Digidol Cymru – Mae’r Siarter Cynhwysiant Digidol yn eich galluogi i ddangos ymrwymiad eich sefydliad i ddileu allgáu digidol fel y gall pawb wneud y gorau o’r hyn sydd gan ddigidol i’w gynnig. Gall sefydliadau ennill Achrediad trwy gyflwyno cynllun gweithredu yn llwyddiannus.

Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru – Rydyn ni’n adeiladu partneriaethau rhwng sefydliadau, lle gall cydweithio ddatblygu nodau cynhwysiant digidol ledled Cymru. Mae croeso i unrhyw sefydliad ymuno â rhwydwaith Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru, sydd wedi’i ddatblygu gyda rhanddeiliaid ar draws sawl sector i gymryd camau ar y cyd i newid yr agenda cynhwysiant digidol yng Nghymru.

Nawr, yn fwy nag erioed, mae’n hanfodol bod cynhwysiant digidol wedi’i sefydlu mewn sefydliadau a chymunedau ledled Cymru ac yn cael ei brif ffrydio a’i berchnogi ganddynt. Nid cyfrifoldeb un sefydliad yw cynhwysiant digidol, ac ni ellir ei hyrwyddo gydag un rhaglen yn unig. Mae’n gofyn am gydweithio, cydweithredu ac ymrwymiad gan randdeiliaid amrywiol, yn gweithio gyda’n gilydd, fel y gallwn greu cenedl sy’n gynhwysol yn ddigidol yng Nghymru, sydd o fudd i bawb ac sy’n gadael neb ar ôl.

Mae Cymunedau Digidol Cymru yn rhaglen i Lywodraeth Cymru, a gyflwynir gan Cwmpas.

Young woman looking at laptop screen
Darganfod mwy
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n gwefan Cymunedau Digidol Cymru neu ebostiwch digitalcommunities@cwmpas.coop
Ewch i wefan CDC