Cyfres Sbotolau: Chaco (Chapeltown Cohousing)
Dyma’r cyntaf yng nghyfres Sbotolau tîm Cymunedau’n Creu Cartrefi Cwmpas, sy’n arddangos mentrau Tai dan Arweiniad y Gymuned (CLH) ysbrydoledig o bob cwr o’r byd—y gorffennol a’r presennol—gyda ffocws ar brosiectau dan arweiniad cymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd Ethnig. Ein nod yw codi ymwybyddiaeth, dathlu amrywiaeth, a dangos bod CLH yn opsiwn tai cynhwysol a hyfyw i bawb, waeth beth fo’u cefndir.
Cyflwyno Chaco: Prosiect Tai Cymunedol Bwriadol
Mae Chapeltown Cohousing (Chaco) yn brosiect CLH bwriadol yng nghanol Chapeltown, Leeds — cymdogaeth fywiog ac amlddiwylliannol. Mae Chaco wedi’i adeiladu ar egwyddorion cynhwysiant, cynaliadwyedd a chymorth ar y cyd.
Delwedd: Ffotograffiaeth Claire Wood
Fe wnaethon ni siarad â Bill Phelps a Yael Arbell ynglŷn â stori barhaus Chaco.
![]()
Bill Phelps, Chaco Dr Yaell Arbell, Chaco; Prifysgol Sheffield Hallam
Mae Bill yn breswylydd presennol ac yn un o aelodau sefydlu Chaco; mae Yael Arbell, sydd hefyd yn breswylydd yn Chaco, yn ymchwilydd ym Mhrifysgol Sheffield Hallam ac yn ymarferydd mewn CLH.
Ysbrydolwyd ein sgwrs gan yr adroddiad ‘CLH for all’ , a gyd-awdurwyd gan Yael, sy’n archwilio cyfleoedd a rhwystrau i grwpiau lleiafrifol Du ac Ethnig mewn CLH, gan gynnig argymhellion ar gyfer mwy o degwch hiliol wrth ddatblygu CLH.
Dechreuadau Chapeltown Cohousing
Dechreuodd stori Chaco yn 2010, pan enynnodd erthygl yn y Guardian am Spring Hill Cohousing yn Stroud – y grŵp cyd-drigo newydd cyntaf yn y DU – ddiddordeb ymhlith grŵp o drigolion Chapeltown. Ar ôl ymweld â Spring Hill a chwrdd ag aelodau o grŵp CLH arall sydd wedi’i leoli yn Leeds, sef LILAC, mae Bill yn cofio pa mor frwdfrydig oedd grŵp o ffrindiau i greu rhywbeth tebyg – wedi’i deilwra i gyd-destun amlddiwylliannol ac economaidd unigryw Chapeltown.
O’r dechrau, roedd y sylfaenwyr yn gwybod na allai hwn fod yn fodel copïo a gludo. Roedden nhw angen gweledigaeth gyffredin a oedd yn adlewyrchu eu cymuned leol.
Delwedd (Chwith): Ymweliad Bristol CLT visit i Springhill, Stroud Delwedd (Dde) LILAC (Low Impact Living Affordable Community), Gwobrau Cynefin y Byd
Adeiladu Cymuned â Gwerthoedd Cyffredin
Dyluniwyd Chaco i adlewyrchu amrywiaeth Chapeltown. Mae Yael yn esbonio sut y sefydlodd yr aelodau sefydlu set o werthoedd craidd y gallent i gyd gytuno arnynt: bod yn agored, bod yn gefnogol, a chynaliadwyedd.
Nid geiriau yn unig yw’r gwerthoedd hyn, mewn gwirionedd, nhw yw’r safonau hanfodol sydd wedi’u gwehyddu i ffabrig bywyd bob dydd yn Chaco. Er enghraifft, mae’r gymuned yn cynnal digwyddiadau cymdeithasol/ymarfer corff wythnosol gyda chymdogion, gan feithrin ymdeimlad o ddidwylledd, mwynhad a pherthyn.
Adroddodd Yael am gyfnod pan oedd hi’n sâl a chamodd cymdogion i’r adwy i ofalu am ei theulu, coginio prydau bwyd, a gyrru ei phlant i bêl-droed. Sylwodd Yael sut “digwyddodd popeth yn esmwyth iawn oherwydd ein bod ni’n byw yn Chaco. “Pe na fydden ni wedi bod yn byw yn Chaco, byddai wedi bod yn ddiwrnod llawn straen i bawb”.
Mae rhagor o werthoedd wedi dod i’r amlwg dros amser, gan gynnwys cynhwysiant, preifatrwydd, amrywiaeth a stiwardiaeth amgylcheddol. Mae pob preswylydd yn cysylltu’n wahanol—mae rhai’n blaenoriaethu cyfranogiad cymunedol, pobl eraill yn blaenoriaethu cynaliadwyedd—ond mae pawb yn ymrwymo i’r un ethos cyffredin.
Cynhwysiant ac Amrywiaeth wrth y Craidd
Un o agweddau allweddol Chaco yw ei ymrwymiad i gynhwysiant ac amrywiaeth. Er bod Chapeltown yn gartref i lawer o gymunedau Affricanaidd-Caribïaidd a lleiafrifoedd eraill, roedd grŵp sefydlu Chaco yn wyn ac yn ddosbarth canol yn bennaf. Myfyriodd Bill ar bwysigrwydd estyn allan yn weithredol i gynnwys a dysgu gan leisiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol: “[fe wnaethon ni] geisio sicrhau ein bod ni’n cynnwys ac yn gwrando ar yr hyn yr oedd pobl eraill yn ei gyfrannu”.
Mae’r ymdrech hon yn parhau, gyda ffocws ar wneud cymuned Chaco hyd yn oed yn fwy cynhwysol.
Delwedd : “Byw ar y Cyd Chapeltown”
Goresgyn Heriau Gyda’n Gilydd
Nid oedd y llwybr i sefydlu Chaco heb ei heriau. O sicrhau cyllid i lywio trwy ganiatâd cynllunio, roedd y gymuned yn wynebu nifer o rwystrau.
Ond yn gynnar, pan oedd Chaco ond “hanner dwsin o bobl o amgylch bwrdd cegin” yn pendroni sut y byddent yn tyfu i fod yn grŵp gyda’r gallu i adeiladu, y rhwystr cyntaf i’r grŵp sefydlu oedd y diffyg gwybodaeth a oedd ar gael ynglŷn â sut i ddatblygu safle cyd-drigo.
Cysylltodd sgwrs gydag aelodau LILAC nhw â rheolwr y prosiect, Jim Reed, a ddaeth â’r arbenigedd oedd ei angen arnynt a’u helpu i sicrhau cyllid cyn- ddichonoldeb. Yn ddiweddarach, daeth Reed yn rheolwr prosiect Chaco ac mae bellach yn Gyfarwyddwr Leeds Community Homes—sefydliad tebyg iawn i Cymunedau’n Creu Cartrefi yn Cwmpas.
Un her fawr oedd helpu pobl leol i ddeall cyd-drigo.
Roedd “llawer iawn o addysg i’w wneud, gan egluro’r syniad o gyd-drigo mewn ardal fel Chapeltown,” cofiodd Bill. “Mae’r rhan fwyaf o’r bobl sy’n bwy mewn safleoedd cyd-drigo yn bobl wyn a dosbarth canol – yn gyffredinol pobl sydd â’r amser, y sgiliau a’r arian i allu archwilio syniadau fel hyn. Ond, os ydych chi’n cael trafferth gyda chostau byw neu efallai os ydych chi mewn grŵp sydd â’i set ei hun o anawsterau wrth ymdopi â chymdeithas brif ffrwd y DU, fyddwch chi ddim yn cael llawer o gysylltiad â’r mathau hyn o syniadau.” Eu datrysiad nhw? Mynd â phobl i’w weld ar waith. Canfu Chaco mai’r ffordd hawsaf iddyn nhw esbonio oedd mynd â char yn llawn pobl a mynd â nhw draw i ymweld â LILAC. Ar ôl siarad â theulu a oedd yn byw yno, byddai pobl yn ei ddeall – yn syth. Her arall a wynebodd y gymuned oedd pa mor hir y cymerodd cyn yr oeddent yn gallu symud i mewn. Bu’n rhaid i rai aelodau dynnu’n ôl o’r prosiect oherwydd iddo gymryd gormod o amser, ac roedd angen iddyn nhw ymgartrefu ar ryw adeg.
Fodd bynnag, nododd Yael fod yr amser hwn hefyd wedi bod o fudd i Chaco oherwydd bod yr amser hwnnw wedi eu helpu i ddysgu, adeiladu eu sylfeini, a rhoi eu prosesau gwneud penderfyniadau ar waith cyn i’r pethau hollbwysig ddechrau.
Tir ar Heol Barrack lle roedd Chaco yn gobeithio adeiladu cartrefi. Delwedd gan Jonathan Gawthorpe
Pŵer Ymgysylltu â’r Gymuned
Mae llwyddiant Chaco wedi’i wreiddio mewn ymgysylltiad cymunedol cryf. Cyfarfu’r grŵp sefydlu yn wythnosol, fe wnaethant gynnal prydau misol a oedd yn agored i’r cyhoedd, ac fe wnaethant drefnu digwyddiadau cymdeithasol ac ymgyrchoedd taflenni i godi ymwybyddiaeth. Mae Bill yn cofio’r dull ymarferol: “Gwnaethon ni gryn dipyn o sefyll o gwmpas ar gorneli strydoedd yn dosbarthu taflenni, yn siarad â phobl neu’n mynd o ddrws i ddrws yn cael deisebau wedi’u llofnodi. Y tro diwethaf i ni wneud hynny, dw i’n meddwl yr argraffon ni 5000 o daflenni ac fe aethon ni o amgylch Chapeltown yn ei chyfanrwydd a dechrau mynd i ardal gyfagos Hare Hills.”
O orsafoedd pleidleisio i deithiau cerdded cymdogaeth, fe wnaeth yr ymdrechion hyn feithrin diddordeb a chefnogaeth leol i’r prosiect yn raddol.
Delweddau: Picnic Dylunio Chaco yng nghaeau Leopold
Effaith Byw yn Chaco
Mae byw yn Chaco wedi cael effaith ddofn ar ei aelodau. I Bill, mae symud i’r cartrefi newydd wedi dod â chyfleoedd i gymryd rhan mewn prosiectau ymarferol — fel adeiladu sied waith gymunedol, a allai ddod yn Gaffi Atgyweirio yn y dyfodol.
Mynegodd Bill fod “darn o waith ymarferol fel ‘na, prosiect DIY mawr, yn hwyl fawr.” A chyda chymuned fel Chaco mae’n haws dod o hyd i’r cyfalaf i wneud prosiect fel hwn sy’n costio degau o filoedd o bunnoedd, na fyddai wedi bod yn gymaint o opsiwn neu ni fyddai’r un angen neu gyfle wedi bod i adeiladu sied waith gymunedol pan oeddem yn byw yn ein tŷ ein hunain.”
I Yael, yr effaith fwyaf fu ar les a bywyd cymunedol—yn enwedig i deuluoedd. Mae’r amgylchedd di-geir yn golygu y gall plant grwydro’n ddiogel ac yn hyderus. Mae’r ymdeimlad cryf o gymuned a chefnogaeth ar y cyd wedi creu amgylchedd meithringar i bob preswylydd.
“Mae’n lle gwych i gael plant ynddo,” myfyriodd Yael. “Gall fy mab chwech oed fynd allan a dydw i ddim yn poeni amdano o gwbl, gallant fod allan am awr a fydda i ddim hyd yn oed yn crynu, dwi’n gwybod eu bod nhw’n iawn. Ac mae hynny’n anhygoel. Maen nhw’n cwrdd â chymaint o oedolion gwych ac mae’n rhan o’r diwylliant nawr i fynd at unrhyw un ar y stryd yn hyderus oherwydd eu bod nhw i gyd yn ffrindiau ac yn bwyta gyda’i gilydd ac yn adnabod ei gilydd. Mae ganddyn nhw’r llwyth yma ac mae hynny’n wirioneddol arbennig iawn. Mae’r mathau hyn o agweddau cymunedol gyda’r bobl ifanc yn amhrisiadwy ac mae’n debyg na fyddent yn digwydd ar unrhyw stryd arall, dw i’n meddwl. Mae’n rhan o’r bwriad a roesom ynddo a’i gwnaeth yn bosibl.”
Delwedd: Aelodau Suma Cooperative yn ymweld a Chaco ar gyfer dathliadau diwrnod agoriadol
Mynd i’r Afael â Thegwch a Chyfranogiad
Mae Chaco wedi gweithio’n galed i sicrhau cydraddoldeb a chynhwysiant trwy ei bolisi dyrannu tai, gan flaenoriaethu amrywiaeth ethnig, ystod oedran, a mynediad i bobl anabl. Ond fel mae Yael yn nodi, mae cynrychiolaeth dosbarth yn parhau i fod yn her: “mae gennym bobl o wahanol rywiau ac ethnigrwydd yn y prif grwpiau hanfodol, wyddoch chi. Mae gennym yr amrywiaeth honno ym maes cyllid a’r tîm cyfreithiol, ond o ran dosbarth, mae’r aelodau proffesiynol difrifol yn tueddu i berthyn i’r dosbarth canol.”
Roedd fforddiadwyedd yn bryder allweddol arall. Mynnodd y grŵp gynnwys unedau rhent i adlewyrchu eu gwerthoedd a sicrhau mynediad i’r rhai ar incwm is.
“Byddai wedi bod yn haws gwneud y cyfan yn eiddo preifat,” myfyriodd Yael, “ond roedden ni eisiau iddo fod yn fforddiadwy yn dilyn ein gwerth amrywiaeth ac fe greodd hynny set gyfan o heriau oherwydd ei bod hi’n anoddach gwneud rhywbeth drud am bris rhad.”
Adleisiodd Bill hyn, gan bwysleisio pwysigrwydd cadw rhenti’n isel: “Nid oes gan lawer o bobl yn yr ardal hon gyfalaf felly penderfynon ni fod angen i ni gadw’r rhenti i lawr i ddim mwy na’r lwfans tai lleol. Felly, os oedd rhywun yn cael budd-daliadau tai, ni fyddai hynny o reidrwydd yn eu heithrio rhag bod yn aelod o Chaco ac fe lwyddon ni i ddal gafael ar hynny drwyddo draw ac, yn y pen draw, llwyddo i ostwng y rhenti i lefel tai cymdeithasol sy’n llawer is.” Er y gallai cynnydd rhent yn y dyfodol fod yn angenrheidiol oherwydd anawsterau adeiladu—gan gynnwys dau gontractwr yn mynd i fethiant—mae Chaco yn parhau i fod wedi ymrwymo i hygyrchedd ariannol.
Delwedd: Argraff Artist o chynllun Chapeltown Cohousing
Adeiladu Perthnasoedd a Newid Canfyddiadau
Er i lawer o bobl ei amau i ddechrau, mae Chaco wedi meithrin ymddiriedaeth yn raddol gyda’r gymuned ac awdurdodau lleol. Helpodd eu hymroddiad i Chapeltown i newid canfyddiadau dros amser.
Profodd cefnogaeth gan gynghorwyr lleol a’u AS yn hanfodol wrth wthio’r prosiect ymlaen. Myfyriodd Bill, “Gyda chefnogaeth yr AS a’r cynghorwyr lleol a lefel weithredol y cyngor yn y pen draw yn dweud ein bod nhw eisiau gweld hyn yn digwydd, roedd hynny’n aruthrol.”
Delwedd: Chapeltown Cohousing: Cryfder yn Niferiad, Cymdeithas Adeiladu Ecoleg
Casgliad
Mae Chapeltown Cohousing yn dyst i bŵer tai dan arweiniad y gymuned i greu amgylcheddau byw cynhwysol, cefnogol a chynaliadwy.
Drwy arddangos mentrau CLH amrywiol fel Chaco, rydym yn gobeithio ysbrydoli cymunedau eraill yng Nghymru a thu hwnt i archwilio posibiliadau CLH. Bydd tîm Cymunedau’n Creu Cartrefi yng Nghwmpas yn parhau â’i ymdrechion i helpu a chefnogi grwpiau i wireddu eu breuddwydion tai ac i roi sylw i’r prosiectau anhygoel hyn – cadwch lygad!
Delwedd: BBC Un, Our Lives, Cyfres6: 33 Teuly, Un Adeilad Mawr
Galwad i Weithredu
Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan Cohousing Chapeltown ac eisiau dysgu mwy am dai dan arweiniad y gymuned, ewch i’n gwefan yn:
https://cy.cwmpas.coop/yr-hyn-a-wnawn/gwasanaethau/cymunedaun-creu-cartrefi/
neu cysylltwch â ni drwy:
Ffonio 0300 111 5050
e-bostio co-op.housing@cwmpas.coop
Dysgwch fwy am Chaco o’u gwefan:
https://chapeltowncohousing.org.uk/
Ymunwch â ni i ddathlu a chefnogi amrywiol fentrau Tai dan Arweiniad y Gymuned. Gyda’n gilydd, gallwn greu cymunedau cynhwysol a chynaliadwy i bawb.