Ail-ddychmygu economi Cymru drwy Bobl, Elw, Pwrpas, a’r Blaned
Ymunwch a ni am Gwobrau a Chynhadledd Busnes Cymdeithasol Cymru 2024
Mae Gwobrau a Chynhadledd Busnes Cymdeithasol Cymru 2024 yn ddigwyddiad deuddydd a gynhelir yn Venue Cymru Llandudno ar y 1af a’r 2il o Hydref.
Yn ei 9fed flwyddyn, ac yn cael ei chynnal gan y newyddiadurwr a’r darlledwr Siân Lloyd, ymunwch â ni i ddathlu’r mentrau cymdeithasol ledled Cymru sy’n gwneud gwahaniaeth bob dydd yn eu cymunedau.
Mae cynhadledd eleni yn canolbwyntio ar ail-ddychmygu economi Cymru drwy Bobl, Elw, Pwrpas a Phlaned, ac mae’n addo cymysgedd amrywiol o siaradwyr, gweithdai goleuedig, a chyfle perffaith i gysylltu â phartneriaid o’r sector preifat a chyhoeddus.
Mae tocyn i'r gynhadledd yn addo mynediad i offer a strategaethau ymarferol, y cyfle i ddysgu oddi wrth fentrau cymdeithasol llwyddiannus, a chyfleoedd rhwydweithio hanfodol.
Rydym wrth ein bodd unwaith eto yn gallu cynnig bwrsariaeth i gefnogi mynychwyr o gymunedau a chefndiroedd amrywiol i fynychu'r Gwobrau a'r Gynhadledd.
Mae’r fwrsariaeth hon ar gael i’r rheini o gymunedau sy’n cael eu tangynrychioli yn y sector Menter Gymdeithasol, gan gynnwys pobl o gefndiroedd ethnig a/neu ddiwylliannol amrywiol, pobl o’r gymuned LGBTQ+, pobl ag anableddau, a phobl o gefndiroedd incwm isel.
Mae ceisiadau am y bwrsari wedi cau.
Ein Siaradwyr
Gweithdai
Sut gallwn ni wneud i’r bunt Gymreig weithio’n galetach, helpu i dyfu’r sector a chreu mwy o werth economaidd a swyddi lleol? Mae Dr Sarah Evans o Cwmpas yn dod ag arbenigwyr caffael y sector cyhoeddus a mentrau cymdeithasol sydd wedi ennill contractau sector cyhoeddus ynghyd. Y nod fydd i wrando a dysgu i’r ddwy ochr i gynyddu nifer y mentrau cymdeithasol o fewn ein cadwyni cyflenwi sector cyhoeddus. Os ydych chi’n ddeiliad cyllideb sydd am gael mwy o werth cymdeithasol o’ch gwariant neu’n fenter gymdeithasol sy’n chwilio am gontractau sector cyhoeddus, peidiwch â methu’r gweithdy hon.
Credwn dylai ein heconomi a’n cymdeithas weithio’n wahanol. Yn y gweithdy hwn, rydym yn dod â mentrau cydweithredol a chymdeithasol o bob rhan o Gymru sydd wedi llwyddo i ddatblygu asedau sydd wedi creu twf economaidd a swyddi newydd ynghyd. Byddwn yn trafod y potensial ar gyfer codi buddsoddiad ar ffurf cyfranddaliadau cymunedol a sut y gallwn ddysgu o arfer da ledled Cymru. Os ydych yn ystyried datblygu ased cymunedol ac eisiau tyfu eich economi leol, dyma’r gweithdy i chi.
Mae wedi bod yn gyfnod anodd i bob busnes – gyda Chofid, yr argyfwng costau byw a’r argyfwng ynni, mae llawer o fusnesau wedi gofod defnyddio eu cronfeydd wrth gefn ac wedi dibynnu llawer mwy ar eu gwirfoddolwyr i oroesi. Alun Jones o Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru) yn siarad ag arweinwyr mentrau cymdeithasol a buddsoddwyr am sut y gall busnesau lwyddo a ffynnu mewn marchnadoedd cyfnewidiol.
Yn y gweithdy yma bydd UnLtd yn cynnal sgwrs ag entrepreneuriaid cymdeithasol o bob rhan o Gymru sy’n gweithio’n ddiflino i fynd i’r afael â gwahaniaethu a hyrwyddo cenedl fwy cynhwysol a thosturiol. Byddwn yn clywed gan bobl â phrofiad o deimlo fel eu bod ar y cyrion yng Nghymru, a sut mae’n effeithio arnynt yn uniongyrchol. Rydym am weithio gyda’n gilydd i adeiladu cymunedau cryfach yng Nghymru, ac rydym wedi dysgu bod yr atebion mwyaf gwerthfawr yn dod wrth unigolion sy’n dod â phobl a chymunedau ynghyd. Byddwn yn edrych ar y camau yr ydym yn eu cymryd i gefnogi entrepreneuriaid cymdeithasol gydag angerdd ac ymrwymiad i greu newid cymdeithasol cadarnhaol, a byddwn yn croesawu eich cyfraniadau.
Arddangos yng Ngwobrau a Chynhadledd Busnes Cymdeithasol Cymru 2024
Fel arddangoswr, cewch gyfle i rwydweithio ag enwebeion, mentrau cymdeithasol, cyllidwyr a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau. Bydd eich stondin arddangos yn cynnwys dau docyn i Wobrau BCC, dau docyn i Gynhadledd BCC y diwrnod nesaf, a lle i arddangos sy’n cynnwys bwrdd a dwy gadair. Mae cyfleoedd hefyd i gymryd rhan a chyfrannu at y sesiynau a gynhelir yn y gynhadledd, a noddi categori gwobrau yn y Seremoni Wobrwyo.
Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch elin.evans@cwmpas.coop.